Wedi'u gwneud | 29 Mehefin 2004 | ||
Yn dod i rym | 12 Gorffennaf 2004 |
1. | Enwi a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Cymhwyso |
4. | Cyrff ymgynghorol |
5. | Asesiadau amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni: y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf ar ôl 21 Gorffennaf 2004 |
6. | Asesiadau amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni: y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf ar 21 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny |
7. | Asesiadau amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd |
8. | Cyfyngiad ar fabwysiadu a chyflwyno cynlluniau, rhaglenni ac addasiadau |
9. | Penderfyniadau'r awdurdod cyfrifol |
10. | Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol |
11. | Cyhoeddusrwydd ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddiadau |
12. | Paratoi adroddiad amgylcheddol |
13. | Y gweithdrefnau ymgynghori |
14. | Ymgynghori trawsffiniol |
15. | Cynlluniau a rhaglenni Aelod-wladwriaethau eraill |
16. | Gwybodaeth o ran mabwysiadu cynllun neu raglen |
17. | Monitro gweithredu cynlluniau a rhaglenni |
1. | Y meini prawf ar gyfer penderfynu arwyddocâd tebygol yr effeithiau ar yr amgylchedd |
2. | Gwybodaeth ar gyfer adroddiadau amgylcheddol |
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac hefyd yn y Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt yn y Gyfarwyddeb honno.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, rheoliadau, ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau, rheoliadau, ac Atodlenni'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso
3.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynllun neu raglen sy'n ymwneud yn unig â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae i "Cymru" yr ystyr a roddir i "Wales" gan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac unrhyw orchmynion o dan baragraff (2) o'r adran honno[5].
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy'n gyfagos â Chymru i'w trin fel rhan o Gymru; ac mae cyfeiriadau at Gymru i'w dehongli fel pe baent yn cynnwys y dyfroedd tiriogaethol cyfagos.
(4) At ddibenion paragraff (3), mae dyfroedd tiriogaethol yn cynnwys unrhyw ddyfroedd tua'r tir o'r ffiniau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt.
Cyrff ymgynghori
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas â phob cynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, mae pob un o'r cyrff canlynol yn gyrff ymgynghori -
(2) Os bydd corff a grybwyllir ym mharagraff (1) ar unrhyw adeg yn awdurdod cyfrifol o ran cynllun neu raglen, rhaid iddo beidio ar yr adeg honno ag arfer swyddogaethau corff ymgynghori o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno; ac mae cyfeiriadau at gyrff ymgynghori yn narpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn i'w dehongli yn unol â hynny.
rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol.
(2) Y disgrifiad yw cynllun neu raglen -
(3) Y disgrifiad yw cynllun neu raglen y penderfynwyd ei bod yn ofynnol eu hasesu yn unol ag Erthygl 6 neu 7 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn sgil yr effaith debygol ar safleoedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 7 -
rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol sy'n arwain at eu mabwysiadu.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (1) neu (4) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflawni asesiad amgylcheddol ar gyfer -
(6) Nid oes angen cyflawni asesiad amgylcheddol ar gyfer -
oni chafodd ei benderfynu o dan reoliad 9(1) bod y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad, yn ôl y digwydd, yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, neu eu bod yn destun cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).
Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni: y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf ar 21 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 7, -
rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer eu mabwysiadu.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflawni asesiad amgylcheddol ar gynllun neu raglen benodol os bydd yr awdurdod cyfrifol -
Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd
7.
Rhaid i asesiad amgylcheddol sy'n ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth o'r Rhan hon ar gyfer cynllun neu raglen a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd gael ei gyflawni gan yr awdurdod cyfrifol gan gydymffurfio â darpariaethau penodol yn neddfwriaeth berthnasol y Gymuned.
Cyfyngiad ar fabwysiadu neu gyflwyno cynlluniau, rhaglenni neu addasiadau
8.
- (1) Nid yw cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'n ofynnol cael penderfyniad o dan reoliad 9(1) mewn perthynas â hwy i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu -
(2) Nid yw cynllun neu raglen y mae'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol ar eu cyfer gan unrhyw ddarpariaeth o'r Rhan hon i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu -
(3) Mae'r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried -
Penderfyniadau'r awdurdod cyfrifol
9.
- (1) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu a yw cynllun, rhaglen neu addasiad o ddisgrifiad y cyfeirir ato -
yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.
(2) Cyn iddo wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod cyfrifol -
(3) Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu nad yw'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (ac, yn unol â hynny, nad yw'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol), rhaid iddo baratoi datganiad o'i resymau dros benderfyniad o'r fath.
Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol
10.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg cyn mabwysiadu cynllun, rhaglen neu addasiad neu cyn eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol er mwyn eu mabwysiadu (yn ôl y digwydd) ei gwneud yn ofynnol, yn ysgrifenedig, i'r awdurdod cyfrifol anfon at y Cynulliad Cenedlaethol -
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r gofyniad a bennir o dan baragraff (1) o fewn 7 niwrnod ar ôl cael hysbysiad ohono.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (os anfonwyd copi o'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad ato neu beidio mewn ymateb i'r gofyniad o dan baragraff (1)).
(4) Cyn rhoi cyfarwyddyd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, anfon at yr awdurdod cyfrifol ac at bob corff ymgynghori -
(6) Mewn perthynas â chynllun, rhaglen neu addasiad y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy -
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cyfarwyddyd" yw cyfarwyddyd o dan baragraff (3).
Cyhoeddusrwydd ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddiadau
11.
- (1) O fewn 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan reoliad 9(1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon at bob corff ymgynghori -
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol -
(3) Os bydd awdurdod cyfrifol yn cael cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), rhaid iddo -
(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) neu (3)(b)(iii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o'r dogfennau o dan sylw yn ddi-dâl; ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 y gall fod angen rhesymol amdani, gan gymryd i ystyriaeth -
(4) Gellir rhoi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 drwy gyfeirio at wybodaeth berthnasol a gafwyd ar lefelau eraill y broses benderfynu neu drwy ddeddfwriaeth arall y Gymuned.
(5) Wrth benderfynu ar sgôp a lefel manylion yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.
(6) Os bydd corff ymgynghori yn dymuno ymateb i ymgynghoriad o dan baragraff (5), rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 5 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.
Y gweithdrefnau ymgynghori
13.
- (1) Rhaid trefnu bod pob cynllun drafft neu raglen ddrafft y paratowyd adroddiad amgylcheddol ar eu cyfer yn unol â rheoliad 12, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, ar gael yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; cyfeirir at ddogfennau o'r fath fel "y dogfennau perthnasol" yn y rheoliad hwn.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl paratoi'r dogfennau perthnasol, rhaid i'r awdurdod cyfrifol -
(3) Rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(ch) -
(4) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol sicrhau bod copi o'r dogfennau perthnasol ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (2)(c) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copïau yn ddi-dâl ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.
Ymgynghori trawsffiniol
14.
- (1) Os bydd awdurdod cyfrifol, heblaw'r Cynulliad Cenedlaethol, o'r farn bod cynllun neu raglen y mae'n awdurdod cyfrifol ar eu cyfer yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd Aelod-wladwriaeth arall, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl ffurfio'r farn honno -
(2) Os hysbyswyd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r awdurdod cyfrifol, o fewn cyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod (a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na 21 diwrnod), roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth arall honno am y cynllun neu'r rhaglen, neu'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys -
(4) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
Cynlluniau a rhaglenni Aelod-wladwriaethau eraill
15.
Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn oddi wrth Aelod-wladwriaeth (boed yn ymateb i gais a wnaed gan y Deyrnas Unedig yn y cyswllt hwnnw o dan Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni neu beidio) gopi o gynllun drafft neu raglen ddrafft -
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon unrhyw wybodaeth y mae'n ei derbyn at yr Ysgrifennydd Gwladol.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen -
(b) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol,
am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r materion -
(4) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii) a (3)(c)(iii) -
(ch) sut y cymrwyd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw ymgynghori a wnaed o dan reoliad 14;
(d) y rhesymau dros ddewis y cynllun neu'r rhaglen a fabwysiadwyd, yng ngoleuni unrhyw ddewisiadau rhesymol eraill yr ymdriniwyd â hwy; a
(dd) y mesurau sydd i'w cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
Monitro gweithredu cynlluniau a rhaglenni
17.
- (1) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu pob cynllun neu raglen er mwyn canfod effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy mewn cyfnod cynnar, a gallu cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fydd yn briodol.
(2) Gallai trefniadau monitro'r awdurdod cyfrifol gynnwys neu gael eu ffurfio o drefniadau a sefydlwyd heblaw at y diben datganedig o gydymffurfio â pharagraff (1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mehefin 2004
2.
Nodweddion yr effeithiau a'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, gan ystyried yn benodol -
(e) yr effeithiau ar fannau neu dirluniau y cydnabyddir bod iddynt statws gwarchod cenedlaethol, Cymunedol neu ryngwladol.
7.
Y mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
8.
Amlinelliad o'r rhesymau dros ddethol y dewisiadau amgen yr ymdrinnir â hwy, a disgrifiad o'r dull y gwnaed yr asesiad gan gynnwys unrhyw anawsterau a gafwyd wrth gasglu'r wybodaeth ofynnol.
9.
Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir o ran monitro yn unol â rheoliad 17.
10.
Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 9.
Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir isod, os yw'r weithred baratoi ffurfiol gyntaf mewn perthynas â chynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004, ni all y cynllun neu raglen gael eu mabwysiadu, na'u cyflwyno ar gyfer eu mabwysiadu, oni fuont yn destun asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn (Erthyglau 4.1 a 13.3 o'r Gyfarwyddeb a rheoliadau 5(1) a 7 o'r Rheoliadau hyn).
Mae'r gofyniad am asesiad amgylcheddol yn gymwys, yn benodol, i unrhyw gynllun neu raglen a baratowyd ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd, ynni, diwydiant, trafnidiaeth, rheoli gwastraff, rheoli d r, telathrebu, twristiaeth, cynllunio gwlad a thref neu ddefnydd tir, sy'n gosod y fframwaith ar gyfer caniatâd datblygu yn y dyfodol ar gyfer prosiectau a restrir yn Atodiad I neu II i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC; ac i unrhyw gynllun neu raglen y penderfynwyd ei bod yn ofynnol ei asesu yn unol ag Erthygl 6 neu 7 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, yn sgil yr effaith debygol ar safleoedd (Erthygl 3.2 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 5(1) i (3) o'r Rheoliadau hyn).
Mae yna eithriadau ar gyfer cynlluniau a rhaglenni sy'n penderfynu defnydd ardal fechan ar lefel leol, ac ar gyfer mân addasiadau, os yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun neu'r rhaglen (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr "awdurdod cyfrifol") wedi penderfynu o dan reoliad 9(1) o'r Rheoliadau hyn eu bod yn annhebygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (Erthygl 3.3 a rheoliad 5(6) o'r Rheoliadau hyn). Gall penderfyniad yr awdurdod cyfrifol beidio â chael effaith, fodd bynnag, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).
Mae'r gofyniad am asesiad amgylcheddol yn gymwys hefyd i gynlluniau a rhaglenni eraill sy'n gosod fframwaith ar gyfer caniatâd datblygu yn y dyfodol i brosiectau os ydynt yn destun penderfyniad o dan reoliad 9(1) bod y cynllun neu'r rhaglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (Erthygl 3.4 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 5(4) o'r Rheoliadau hyn). Gall penderfyniad yr awdurdod cyfrifol beidio â chael effaith, fodd bynnag, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).
Mae'r gofyniad am asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os na chafodd cynllun neu raglen y digwyddodd y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf mewn perthynas â hwy cyn 21 Gorffennaf 2004 eu mabwysiadu, neu eu cyflwyno ar gyfer eu mabwysiadu, cyn 22 Gorffennaf 2006. Pe byddai angen asesiad amgylcheddol pe bai'r weithred baratoadol ffurfiol gyntaf wedi digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004, rhaid gwneud y cynllun neu'r rhaglen yn destun asesiad amgylcheddol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo nad yw'n ddichonadwy ac yn hysbysu'r cyhoedd i'r perwyl hwnnw (Erthyglau 4.1 a 13.3 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn).
Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer cyflawni asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd (heblaw'r rhai a eithrir gan Erthygl 3.9 o'r Gyfarwyddeb) yn unol â'r darpariaethau penodol yn neddfwriaeth berthnasol y Gymuned (Erthygl 11.3 o'r Gyfarwyddeb).
Mae rheoliad 8 yn atal mabwysiadu, neu gyflwyno ar gyfer mabwysiadu, gynllun neu raglen y mae asesiad amgylcheddol yn ofynnol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, cyn cwblhau'r asesiad hwnnw. Nid yw asesiad amgylcheddol wedi'i gwblhau nes bod yr adroddiad amgylcheddol ar gyfer y cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno, y farn a fynegwyd yng nghwrs yr ymgynghoriadau gofynnol a chanlyniadau unrhyw ymgynghoriadau trawsffiniol wedi cael eu hystyried (Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb). Mae rheoliad 8 hefyd yn atal mabwysiadu, neu gyflwyno ar gyfer mabwysiadu, gynllun neu raglen tra bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried a yw'r cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.
Mae rheoliad 9 yn ymwneud â gwneud penderfyniadau gan awdurdodau perthnasol yngln ag a yw cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol. Nodir y meini prawf sydd i'w cymhwyso yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn (Erthygl 3.5 o'r Gyfarwyddeb ac Atodiad II iddi). Ni ellir gwneud y penderfyniadau onid yw'r awdurdod perthnasol wedi ymgynghori â chyrff dynodedig ("y cyrff ymgynghori"). Ymdrinnir â dynodiad y cyrff ymgynghori yn rheoliad 4 (Erthygl 6.3 o'r Gyfarwyddeb). Yn achos pob cynllun a rhaglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadw ac Asiantaeth yr Amgylchedd fydd y cyrff ymgynghori, neu bydd y cyrff ymgynghori yn cynnwys y cyrff hynny.
Mae rheoliad 10 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i fynnu bod awdurdod cyfrifol yn rhoi dogfennau perthnasol iddo. Mae hefyd yn ei alluogi i gyfarwyddo bod cynllun neu raglen penodol yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o'r fath, bydd unrhyw benderfyniad i'r gwrthwyneb a wnaed o dan reoliad 9(1) o'r Rheoliadau hyn gan awdurdod cyfrifol yn peidio â bod yn effeithiol. Os nad yw awdurdod cyfrifol wedi gwneud unrhyw benderfyniad o dan y ddarpariaeth honno, bydd cyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ryddhau o'r ddyletswydd i wneud hynny.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi'r penderfyniadau o dan reoliad 9 (Erthygl 3.7 o'r Gyfarwyddeb) a'r cyfarwyddiadau o dan reoliad 10.
Mae asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn yn cynnwys paratoi adroddiad amgylcheddol (Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn). Pennir y materion sydd i'w cynnwys yn yr adroddiad amgylcheddol yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn (Erthygl 5.1 o'r Gyfarwyddeb ac Atodiad II iddi).
Mae rheoliad 13 yn pennu'r gweithdrefnau ymgynghori y mae'n rhaid eu dilyn mewn perthynas â chynllun drafft neu raglen ddrafft y cafodd adroddiad amgylcheddol ei baratoi ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn (Erthyglau 5.4 a 6 o'r Gyfarwyddeb).
Mae rheoliadau 14 a 15 yn ymwneud ag ymgynghori trawsffiniol ac yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer ymgynghori mewn perthynas â'r cynlluniau a'r rhaglenni drafft hynny a baratowyd yng Nghymru sy'n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Aelod-wladwriaethau eraill (Erthygl 7 o'r Gyfarwyddeb).
Mae rheoliad 16 yn ymwneud â gweithdrefnau ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen a fu'n destun asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r person a baratôdd y cynllun neu'r rhaglen hysbysu eu bod wedi cael eu mabwysiadu a threfnu bod y cynllun neu'r rhaglen a gwybodaeth arall a bennir ar gael i'w harchwilio (Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb).
Mae rheoliad 17 yn ymwneud â monitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu cynlluniau a rhaglenni (Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r person a baratôdd y cynllun neu'r rhaglen fonitro er mwyn canfod, mewn cyfnod cynnar, effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy, a gallu cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fydd hynny yn briodol.
[3] O.J. Rhif L 197, 21.07.2001, t.30.back
[4] O.J. Rhif L 206, 22.7.1992. Ceir y Gyfarwyddeb ddiwygio ddiweddaraf yn O.J. Rhif L 305, 8.11.1997, t.42.back
[5] 1998 p.38. Gweler Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo (O.S. 1999/672).back
[6] O.J. Rhif L 175, 5.7.1985, t.40. Ceir y Gyfarwyddeb ddiwygio yn O.J. L73, 14.3.1997, t.5.back
[8] O.J. Rhif L 103/1, 25.4.79.back