Wedi'i wneud | 23 Mehefin 2004 | ||
Yn dod i rym | 30 Mehefin 2004 |
Trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys
2.
- (1) Ar 1 Gorffennaf 2004 trosglwyddir eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi ohono[2] i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre[3].
(2) Mewn unrhyw offeryn ymddiriedolaeth sy'n ymwneud ag eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr enw y mae ymddiriedolwyr eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd Dyfed Powys yn yr enw y mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n llywodraethu'r eiddo ymddiriedolaeth i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
Trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth Gwent
3.
- (1) Ar 1 Gorffennaf 2004 dosrannir eiddo ymddiriedolaeth Gwent ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi ohono a'u trosglwyddo i'r Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel a bennir yng Ngholofn 2 o Atodlen 2[4].
(2) Mewn unrhyw offeryn ymddiriedolaeth sy'n ymwneud ag eiddo ymddiriedolaeth Gwent, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr enw y mae ymddiriedolwyr eiddo ymddiriedolaeth Gwent i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at y Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre y mae eiddo ymddiriedolaeth Gwent wedi cael ei drosglwyddo iddo a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd Gwent yn yr enw y mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n llywodraethu'r eiddo ymddiriedolaeth i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Mehefin 2004
Colofn 1 | Colofn 2 | |
£124,011 | ||
Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili | £33,132 | |
Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd | £27,061 | |
Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen | £17,998 | |
Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent | £16,893 | |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy | £16,678 | |
Bwrdd Iechyd Lleol Powys | £9,272 | |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre | £2,977 |
[2] Gweler adran 96 o Ddeddf 1977 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 29 o Atodlen 4 i Ddeddf 1999 sy'n gwneud darpariaethau atodol ynghylch trosglwyddo eiddo o dan adran 92 o Ddeddf 1977.back
[3] Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre o dan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 O.S. 1993/2838 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/826 ac O.S. 2002/442 (Cy.57).back
[4] Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 O.S. 2003/148 (Cy.18).back