Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041606w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1606 (Cy.165)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
23 Mehefin 2004 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[
1], yn gwneud y Cynllun canlynol -
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004, bydd yn gymwys yng Nghymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.
Dehongli
2.
Yn y Cynllun hwn -
ystyr "busnes amaethyddol" ("agricultural business") yw busnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
mae i "slyri" yr un ystyr ag sydd i "slurry" yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991[2];
ystyr "parth perygl nitradau" ("nitrate vulnerable zone") yw unrhyw ardal a ddynodwyd yn barth perygl nitradau gan baragraff 3B o Reoliadau Diogelu Rhag Llygredd Nitradau (Lloegr a Chymru) 1996[3].
Talu'r grantiau a swm y grantiau
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 29 Mehefin 2004 ond cyn 31 Hydref 2005 ac -
(a) sy'n wariant mewn perthynas â'r canlynol -
(i) darparu, amnewid neu wella -
(aa) cyfleusterau (gan gynnwys ffensys diogelwch) ar gyfer trafod a storio tail, slyri ac elifiant silwair;
(bb) cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu
(cc) cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dr glân a d r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu
(ii) unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei dalu mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur cyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur cyfalaf;
(c) sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac
(d) nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.
(2) Os yw'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bod gwariant y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) i'w dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
Terfynau ariannol
4.
- (1) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ystyried cyfanswm nifer y ceisiadau am grantiau a gymeradwywyd neu a dderbyniwyd eisoes, ar unrhyw adeg o'r farn nad yw'r adnoddau ariannol sydd ar gael i dalu grantiau o dan y Cynllun hwn yn ystod unrhyw gyfnod yn ddigonol i fodloni unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n ganlyniad cymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, mewn perthynas ag unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond na chafodd ei dderbyn hyn yn hyn, neu unrhyw gais a all ddod i law yn ystod y cyfnod perthnasol -
(a) atal ystyriaeth bellach ar unrhyw gais o'r fath tan yr amser y caiff bennu wedyn; neu
(b) gwrthod unrhyw gais o'r fath heb ystyriaeth bellach.
(2) Rhaid cyhoeddi hysbysiad -
(a) o benderfyniad -
(i) i atal ystyriaeth o unrhyw gais o dan is-baragraff (1)(a), neu
(ii) i wrthod unrhyw gais heb ystyriaeth bellach o dan is-baragraff (1)(b); neu
(b) o derfynu'r cyfnod perthnasol, yn y London Gazette.
(3) Yn is-baragraffau (1) a (2), ystyr "y cyfnod perthnasol" yw'r cyfnod sy'n dechrau drannoeth ar ôl y dyddiad penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), neu unrhyw ddyddiad wedyn a bennir ganddo mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(a), ac sy'n diweddu ar y dyddiad y caiff bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b).
Cyfyngiadau ar dalu grantiau
5.
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â thalu grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 -
(a) mewn perthynas ag unrhyw fusnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
(b) onid yw wedi'i fodloni y bydd y gwariant y mae'r grant i'w thalu tuag ato yn golygu lles amgylcheddol a fydd yn cronni i'r parth perygl nitradau o dan sylw;
(c) onid yw gofynion Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999[4] wedi'u bodloni;
(d) os yw amcan y gwariant, y gwneir y cais am grant mewn perthynas ag ef, yn gynnydd mewn cynhyrchiant na ellir dod o hyd i allfeydd marchnata cyffredin ar ei gyfer; neu
(e) pe byddai'r cyfan neu ran o grant o'r fath yn dyblygu cymorth a ddarperir neu sydd i'w ddarparu o arian gan -
(i) y Gymuned Ewropeaidd;
(ii) y Senedd; neu
(iii) corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
Cais am grant
6.
- (1) Rhaid i unrhyw gais am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu, a rhaid i'r ceisydd o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch y cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, y dogfennau a'r cofnodion perthnasol.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybod yn ysgrifenedig i geisydd a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.
Dirymu a darpariaethau trosiannol
7.
- (1) Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001[5] (a ddisodlir gan yr offeryn hwn).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)
Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac yn benodol Erthyglau 4 i 7 sy'n ymdrin â buddsoddi mewn daliadau amaethyddol.
Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau mewn perthynas â busnesau amaethyddol sydd wedi'u lleoli mewn parthau perygl nitradau, fel y'u diffinnir gan baragraff 4 o'r Atodlen i Reoliadau Diogelu D
r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002. Mae'r darpariaethau yn y Rheoliad hwn yn debyg i'r rhai a gynhwyswyd yn y Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Lloegr a Chymru) 1996, ac eithrio bod y meini prawf ar gyfer cymhwyster busnesau amaethyddol wedi newid fel mai'r unig fusnesau amaethyddol sydd bellach yn gymwys ar gyfer grant yw'r rhai a leolir yn y Parthau Perygl Nitradau a ddynodir gan Reoliadau Diogelu D
r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002.
Mae'r grant ar gael yn ôl cyfradd o 40% tuag at wariant (hyd at uchafswm o £85,000) a dynnir gan y busnes amaethyddol rhwng y dyddiad y daw'r Cynllun i rym ar 30 Mehefin 2004 a 31 Hydref 2005 mewn perthynas â chyfleusterau ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraffoedd fferm penodol a gwahanu d
r glân a d
r brwnt (paragraff 3).
Gwneir darpariaeth gan baragraff 4 o'r Cynllun ar gyfer ystyried ceisiadau yn ystod cyfnod sydd i'w hatal neu eu gwrthod os nad oes adnoddau ariannol digonol ar gyfer talu grantiau o dan y Cynllun.
Gosodir nifer o gyfyngiadau ar dalu grantiau o dan y Cynllun (paragraff 5).
Penderfynir ar y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (paragraff 6).
Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Datblygu Bwyd a Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1970 p.40. Gweler adran 28 ar gyfer y diffiniad o "the appropriate authority". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymru) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2(a) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 29 o'r Ddeddf Amaethyddol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[2]
O.S. 1991/324, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/324.back
[3]
O.S. 1996/888.back
[4]
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.back
[5]
O.S. 2001/3709.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090960 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
30 June 2004
|