British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041605w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1605 (Cy.164)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004
|
Wedi'u gwneud |
23 Mehefin 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Hydref 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Hydref 2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[
2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2.
- (1) Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
mae i "Bwrdd Iechyd Lleol" yr ystyr a roddir i "Local Health Board" gan adran 16BA o'r Ddeddf;".
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol -
"
(1A) Bydd y geiriau "Awdurdod Iechyd", ym mhob man lle maent yn digwydd, yn effeithiol fel pe rhoddwyd yn eu lle'r geiriau "Bwrdd Iechyd Lleol".".
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
3.
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y dangosir y pwnc amdano yng ngholofn (2)), rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4) yn ei le.
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
4.
Yn rheoliad 8(2)(b) yn lle "is-baragraff (b)" rhodder "is-baragraff (a)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2004
YR ATODLENRheoliad 3
SYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU
(1)
|
(2)
|
(3)
|
(4)
|
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau
|
Y pwnc
|
yr hen swm
|
y swm newydd
|
Rheoliad 3 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr - |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
|
fesul pâr |
£ 12.00 |
£ 10.00 |
paragraff (1)(b) |
ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
paragraff (1A)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
|
fesul pâr |
£ 12.00 |
£ 10.00 |
paragraff (1A)(b) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1A)(b) |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
paragraff (4) |
ffi am gyffuriau, a gyflenwir fesul tipyn |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
Rheoliad 4 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon - |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig |
|
|
|
fesul eitem |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
|
fesul pâr |
£ 12.00 |
£ 10.00 |
paragraff (1)(b) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
Rheoliad 5 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG - |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
|
fesul pâr |
£ 12.00 |
£ 10.00 |
paragraff (1)(c) |
ffi am deits |
£ 12.00 |
£ 10.00 |
paragraff (1)(d) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu Atodlen 1 |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
paragraff (5) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
Rheoliad 6 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded i mewn |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
|
fesul pâr |
£ 12.00 |
£ 10.00 |
Paragraff (1)(b) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
paragraff (4) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
Rheoliad 7(1) |
Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddyd Gr p Cleifion |
|
|
|
ffi am gyffuriau |
£ 6.00 |
£ 5.00 |
Rheoliad 10(5) |
Tystysgrif ragdalu - |
|
|
|
4 mis |
£ 31.40 |
£ 26.16 |
|
12 mis |
£ 84.60 |
£ 71.83 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol a gweinyddol, a chan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gleifion allanol.
Mae rheoliad 2 o'r prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio fel y bydd cyfeiriadau at "awdurdod iechyd" yn cael eu trin fel cyfeiriadau at "fwrdd iechyd lleol".
Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion allanol o £6.00 i £5.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £6.00 i £5.00 (o £12.00 i £10.00 fesul pâr) a'r ffi am deits o £12.00 i £10.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £31.40 i £26.16 am dystysgrif pedwar mis ac o £86.20 i £71.83 am dystysgrif deuddeg mis.
Mae diwygiadau a wneir gan reoliad 4 yn darparu na fydd ffi yn daladwy gan bersonau o dan 25 oed am gyflenwi cyfarpar a chyffur penodol yn unol â rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG).
Notes:
[1]
{d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1) .back
[2]
O.S.2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.2001/2359 (Cy.196) a 2004/1018 (Cy.115).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090959 3
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
30 June 2004
|