British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041510w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1510 (Cy.159)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004
|
Wedi'i wneud |
15 Mehefin 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), 50(4), 81(2), 81(3) a 105(2), (3) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1], ac ar ôl iddo ymgynghori fel sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chael ei fodloni bod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion a bennir am y tro mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno[
2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Gorchymyn 2001" ("the 2001 Order") yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001[3].
Diwygio Gorchymyn 2001
3.
Ar ôl Erthygl 3 o Orchymyn 2001 mewnosoder -
"
Darpariaethau i'w datgymhwyso
4.
- (1) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n sir, yn fwrdeistref sirol, yn gyngor cymuned neu'n awdurdod tân, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw -
(a) adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[4];
(b) adran 30(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974[5];
(c) unrhyw reoliadau a wnaed neu god a gyhoeddwyd o dan adrannau 19 ac 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[6].
(2) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n awdurdod Parc Cenedlaethol, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod ymddygiad o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw -
(a) paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995; a
(b) adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Rhaid i adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978[7]) fod yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mehefin 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw'r awdurdodau perthnasol, ond nid felly awdurdodau heddlu. Mae'n rhaid i God Ymddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf.
Rhagnodwyd Cod Ymddygiad Enghreifftiol i aelodau awdurdodau perthnasol gan Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 ("Gorchymyn 2001") a wnaed o dan adran 50(2).
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2001, drwy fewnosod Erthygl 4 newydd sy'n datgymhwyso darpariaethau statudol presennol sy'n ymwneud â Chod Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2276) (Cy.166)).back
[3]
O.S. 2001/2289 (Cy.177) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/163 (Cy.18)).back
[4]
1972 p.70.back
[5]
1974 p.7.back
[6]
1989 p.42.back
[7]
1978 p.30.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090955 0
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
22 June 2004
|