British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041489w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1489 (Cy.154) (C.59)
CEFN GWLAD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
8 Mehefin 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[
1]:
Enwi a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y diwrnod penodedig
2.
Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym -
(a) adran 18 o'r Ddeddf (Wardeniaid);
(b) adran 20 o'r Ddeddf (Codau ymddygiad a gwybodaeth arall); ac
(c) adran 46(1)(a) o'r Ddeddf, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â hi, Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf (diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ("Deddf 1925")[2])
yw 21 Mehefin 2004.
Arbed
3.
Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr adran honno o Ddeddf 1925 sydd mewn grym yn union o flaen dyddiad dod i rym y Gorchymyn hwn i barhau i fod yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mehefin 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 21 Mehefin 2004, adrannau 18, 20 a 46(1)(a) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, Ran I o Atodlen 16 iddi.
Mae adran 18 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdodau mynediad i benodi wardeniaid mewn perthynas â thir mynediad er mwyn rhoi cyngor i ddefnyddwyr hawl mynediad a pherchnogion tir ac er mwyn sicrhau cydymffurfedd ag is-ddeddfau, â'r cyfyngiadau a nodir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf ac ag unrhyw gyfyngiad neu waharddiad a osodir o dan Bennod II o'r Ddeddf.
Mae adran 20 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Gyngor Cefn Gwlad Cymru ("CCGC") i gyhoeddi cod ymddygiad i roi arweiniad i ddefnyddwyr yr hawl mynediad a phersonau sydd â buddiant yn y tir mynediad (megis ffermwyr, perchenogion y tir a chominwyr). Mae'r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCGC gymryd y camau hynny y mae o'r farn eu bod yn hwylus er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am rychwant, a modd, y mynediad i'r tir mynediad a bod y cyhoedd a'r personau â buddiant yn y tir mynediad yn cael gwybod am eu hawliau a'u rhwymedigaethau o dan yr hawl mynediad statudol.
Mae adran 46 o'r Ddeddf a Rhan I o Atodlen 16 iddi yn gweithredu diddymiadau yn dilyn darpariaethau Rhan I o'r Ddeddf. Mae adran 46(1)(a) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (sy'n caniatáu i berchenogion tir comin i wneud gweithred gyflwyno fel y daw'r comin yn ddarostyngedig i hawl mynediad ar gyfer awyr iach ac ar gyfer ymarfer y darperir ar ei gyfer yn adran 193(1) o Ddeddf 1925). Nid oes angen y p
er hwn bellach am fod y p
er i gyflwyno mynediad dros dir sydd yn adran 16 o'r Ddeddf yn weithredol. Cychwynnwyd adran 16 o'r Ddeddf ar 30 Ionawr 2001 gan adran 103(2) o'r Ddeddf ac mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/135) (Cy.9) yn darparu'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno tir.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth arbed i alluogi gweithredoedd sydd eisoes yn bodoli ac a wnaed o dan Ddeddf 1925 i barhau mewn grym.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran(nau) neu Atodlen(ni)
|
Dyddiad cychwyn
|
Rhif O.S.
|
46(1)(b) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
60 a 61 |
1 Tachwedd 2002 |
O.S. 2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
63 |
1 Ebrill 2004 |
O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
68 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(1) a (3) |
1 Ebrill 2004 |
O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(2) a (4) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac yn unol â hynny, Atodlenni 13, 14 a 15) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 |
30 Ionawr 2001 |
O.S. 2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) |
1 Ebrill 2004 |
O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlen 6, paragraffau 18(a) a 19 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I a II (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan V a VI . |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Notes:
[1]
2000 p.37.back
[2]
1925 p.20.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090952 6
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
15 June 2004
|