British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041488w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1488 (Cy.153) (C.58)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
8 Mehefin 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 40 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003[
1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
Cychwyn
2.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) daw adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Masnachu Gwastraff ac Allyriannau 2003 i rym ar 25 Mehefin 2004.
(2) Mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru[
2].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mehefin 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003. Dim ond mewn perthynas â Chymru y mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym.
Mae adran 4 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyrannu ymhlith awdurdodau gwaredu gwastraff yng Nghymru, ar gyfer pob blwyddyn gynllun, lwfansau yn eu hawdurdodi i anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi.
Mae adran 5 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cynulliad newid y dyraniadau a wneir o dan adran 4.
Mae Adran 9 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau gwaredu gwastraff i beidio â mynd dros y lwfans a bennir o dan adran 4 ac yn peri iddynt fod yn agored i gosb am fethu â chyflawni'r ddyletswydd hon.
Mae Adran 10 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad benodi awdurdod monitro i Gymru.
Mae Adran 19 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gael strategaeth ar gyfer lleihau faint o wastraff pydradwy o Gymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a faint o wastraff pydradwy o'r tu allan i Gymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru.
Mae adran 35(a) ac (c) yn diddymu'r darpariaethau yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 sy'n ymwneud â dyletswyddau i baratoi cynlluniau ailgylchu yng Nghymru.
Cafodd adrannau 2 a 39 o'r Ddeddf eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2004 (O.S. 2004/1163).
Notes:
[1]
2003 p.33.back
[2]
Mae adrannau 19 a 35(c) yn ymwneud â Chymru yn unig.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090954 2
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
21 June 2004
|