British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041433w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1433 (Cy.146)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
25 Mai 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] a phob p
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989[
2].
Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau
2.
Yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau (enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y canlynol yn ôl trefn yr wyddor -
"
"authorised child" means a child who has either been granted leave to enter the United Kingdom with his parent for the purpose of the parent obtaining a course of treatment in respect of which no charges are payable under regulation 6A or is the child of an authorised companion;
"authorised companion" means a person who has been granted leave to enter the United Kingdom to accompany a person who is obtaining a course of treatment in respect of which no charges are payable under regulation 6A;
"the United Kingdom Government" as referred to in regulation 4(1)(a)(iii) includes the National Assembly for Wales.".
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
3.
- (1) Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd) -
(a) ar y dechrau yn lle rhif y rheoliad "4." rhodder "4. - (1)";
(b) yn y geiriau agoriadol dileer y geiriau "being a person, or the spouse or child of a person";
(c) ym mharagraff (a) -
(ch) yn lle paragraff (b) rhodder y paragraff canlynol -
"
(b) who has resided lawfully in the United Kingdom for a period of not less than one year immediately preceding the time when the services are provided unless this period of residence followed the grant of leave to enter the United Kingdom for the purpose of undergoing private medical treatment or a determination under regulation 6A;";
(d) ym mharagraff (c) ar ôl y geiriau "United Kingdom" lle maent yn digwydd am yr ail waith mewnosoder "which has not yet been determined";
(dd) ym mharagraff (k) -
(i) ar ôl y geiriau "ten years continuous" mewnosoder y gair "lawful",
(ii) ar ôl y geiriau "United Kingdom" lle maent yn digwydd am yr ail waith dileer y geiriau hyd at y diwedd a rhodder "that has lasted for a period of no more than five years.".
(2) Ar ddiwedd rheoliad 4 ychwaneger y paragraffau canlynol -
"
(2) Where a person meets the residence qualification in paragraph (1)(b) on a date during a course of treatment for which charges could have been made prior to that date no charge shall be made in respect of services received subsequently;
(3) Where it is established that a person does not meet the residence qualification in paragraph (1)(b) and that person has already received services as part of a course of treatment on the basis that no charges would be made, no charges may be made for the remainder of that course of treatment.
(4) No charge shall be made in respect of any services forming part of the health service provided for the spouse or child of an overseas visitor to whom this regulation applies where he lives on a permanent basis with the overseas visitor in the United Kingdom.".
Esemptiad rhag talu ffioedd yn ystod ymweliadau tymor hir gan bensiynwyr y Deyrnas Unedig
4.
Ar ôl rheoliad 4 (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd) mewnosoder rheoliad newydd -
"
Exemption from charges during long term visits by United Kingdom pensioners
4A.
- (1) No charge shall be made or recovered in respect of any overseas visitor who -
(a) is in receipt of a retirement pension under the Social Security Contributions and Benefits Act 1992[3] or the Social Security (Contributions and Benefits) (Northern Ireland) Act 1992[4];
(b) resides in the United Kingdom for at least six months and in another Member State for less than six months each year; and
(c) is not registered as a resident of another Member State;
for services forming part of the health service which he receives during the period he resides in the United Kingdom.
(2) No charge shall be made in respect of any services forming part of the health service provided for the spouse or child of an overseas visitor to whom this regulation applies where he lives on a permanent basis with the overseas visitor during the period they reside in the United Kingdom.".
Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
5.
Yn rheoliad 5 (esemptiad rhag ffioedd ar gyfer triniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad) -
(a) ym mharagraffau (b) ac (e) ar ôl y geiriau "ten years continuous" mewnosoder y gair "lawful";
(b) ar ôl paragraff (e) ychwaneger y canlynol -
"
, or
(f) an authorised child or an authorised companion.".
Esemptiad rhag ffioedd am resymau dyngarol eithriadol
6.
Ar ôl rheoliad 6A (esemptiad rhag ffioedd am resymau dyngarol eithriadol) mewnosoder rheoliad newydd -
"
6B.
Regulation 6A as inserted for England shall additionally have effect in Wales subject to the modification that for the references to the "Secretary of State" there shall be substituted references to the "National Assembly for Wales[5].".
Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
7.
Ar ôl Rhan III o Atodlen I i'r prif Reoliadau (clefydau nad oes ffi i'w chodi am eu trin) ychwaneger y canlynol -
"
PART IV
Other Diseases
Severe Acute Respiratory Syndrome.".
Diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
8.
Dileer y cofnod "Hong Kong" o Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mai 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau penodol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i bobl benodol nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig ("ymwelwyr tramor").
Mae rheoliadau 3 a 5 yn newid manylion yr hawl ar gyfer nifer o'r categorïau presennol o ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd am wasanaethau.
Mae rheoliad 4 yn esemptio pensiynwyr ymddeoledig penodol y Deyrnas Unedig sy'n byw am o leiaf chwe mis yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaeth arall am lai na chwe mis rhag ffioedd tra byddant yn y Deyrnas Unedig.
Mae rheoliad 6 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud penderfyniad mewn amgylchiadau penodol i esemptio ymwelwyr tramor penodedig rhag ffioedd am wasanaethau penodol am resymau dyngarol eithriadol ac mae rheoliad 5 yn esemptio pobl benodedig rhag ffioedd ar gyfer triniaeth, y cododd yr angen amdani yn ystod ymweliad, i bobl benodedig sy'n cyd-deithio â pherson y mae esemptiad am resymau dyngarol eithriadol yn gymwys iddo.
Mae rheoliad 7 yn cynnwys Syndrom Anadlu Acíwt Difrifol (SARS) yn y rhestr yn Atodlen 1 o driniaethau sy'n esempt rhag ffioedd.
Mae rheoliad 8 yn tynnu Hong Kong o Atodlen 2 i Reoliadau 1989 (gwledydd neu diriogaethau yr ymrwymodd y Deyrnas Unedig mewn cytundeb cilyddol â hwy).
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"); adran 65(2) o Ddeddf 1990, adran 65(1) o Ddeddf 1999, a paragraffau 4 a 37(1) a (6) o Atodlen 4 iddi, adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 a pharagraff 5(1) a (13)(b) o Atodlen 5 iddi (p.15), ac adrannau 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 a pharagraffau 1 a 10(a) o Atodlen 8 iddi (p.17) ac adran 184 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a pharagraff 38 o Atodlen 11 a rhan 4 o Atodlen 14 iddi (p.43). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.1989/306.back
[3]
1992 p.4.back
[4]
1999 p.7.back
[5]
Mewnosodwyd Rheoliad 6A gan gan O.S. 2004/614.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090945 3
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
3 June 2004
|