British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041432w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1432 (Cy.145)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
25 Mai 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn cysylltiad â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor unrhyw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr "cofrestr" ("register") yw'r gofrestr o sefydliadau a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 4;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr " y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/4/EC ar gofrestru sefydliadau sy'n cadw ieir dodwy, a gwmpasir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC[3];
ystyr "ieir dodwy" ("laying hens") yw ieir o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi aeddfedu ac a gedwir i gynhyrchu wyau na fwriedir eu deori; ac
ystyr "sefydliad" ("establishment") yw unrhyw safle cynhyrchu lle y cedwir ieir dodwy.
Sefydliadau a eithriwyd
3.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau -
(a) y mae ganddynt lai na 350 o ieir dodwy; neu
(b) sy'n magu ieir dodwy ar gyfer eu bridio.
Sefydlu cofrestr a darparu Rhif adnabod
4.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio a chynnal cofrestr o sefydliadau.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn amser rhesymol ar ôl iddo gael cais i gynnwys sefydliad ar y gofrestr roi Rhif adnabod a gyfansoddwyd yn unol â'r Gyfarwyddeb i'r sefydliad hwnnw a rhoi gwybod am y Rhif hwnnw i'r ymgeisydd.
Cyfnewid gwybodaeth
5.
- (1) Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd yr hawl i weld y gofrestr er mwyn olrhain wyau a roddwyd ar y farchnad i gael eu bwyta gan bobl.
(2) Mae gan yr awdurdod lleol hawl i weld y gofrestr er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Gwahardd sefydliadau rhag gweithredu neu ddechrau gweithredu
6.
- (1) Ar ôl 30 Mehefin 2004 ni chaiff neb barhau â gweithredu sefydliad sy'n gweithredu ar y dyddiad hwnnw oni bai bod cais wedi ei wneud i gynnwys y sefydliad hwnnw ar y gofrestr.
(2) Ni chaiff neb ddechrau gweithredu sefydliad ar ôl 30 Mehefin 2004 oni bai bod cais wedi ei wneud i gynnwys y sefydliad hwnnw ar y gofrestr a bod Rhif adnabod wedi ei roi i'r ymgeisydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i geisiadau gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen a honno ar y ffurf y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani.
(4) Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid yn yr wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod.
Pwerau swyddogion awdurdodedig
7.
- (1) Bydd hawl gan swyddog a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol, os bydd ganddo ddogfen y gellir ei gwirio'n ddilys ac sy'n dangos ei awdurdod, ac os bydd yn ei dangos os gofynnir iddo wneud hynny, i fynd ar unrhyw dir neu safle ar unrhyw awr resymol at ddibenion canfod a gafodd y Rheoliadau hyn eu torri, neu a ydynt yn cael eu torri, ar y safle hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.
(2) Bydd gan swyddog o'r fath bwerau i wneud pob gwiriad ac archwiliad sydd eu hangen i orfodi'r Rheoliadau hyn, ac yn benodol fe gaiff archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data.
Rhwystro
8.
- (1) Ni chaiff neb -
(a) rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sy'n gweithredu wrth iddo roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) heb achos rhesymol, fethu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu wrth iddo roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu
(c) rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu wrth iddo roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anghywir.
(2) Ni chaiff dim byd ym mharagraff (1)(b) uchod ei ddehongli fel ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno ef ei hun pe bai'n gwneud hynny.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
9.
- (1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran -
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson sy'n cymryd arno weithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr "cyfarwyddwr", mewn cysylltiad â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Cosbau
10.
- (1) Mae person sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gael ei garcharu am dymor heb fod yn hwy na thri mis neu ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Gorfodi
11.
Yr awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol sydd i orfodi'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mai 2004
YR ATODLEN
Gwybodaeth y mae ei hangen am bob sefydliad
1.
Gwybodaeth am y sefydliad:
(a) enw'r sefydliad;
(b) cyfeiriad y sefydliad;
(c) y dull neu'r dulliau ffermio a weithredir yn y sefydliad (organig, cadw ieir mewn buarth, ysgubor neu gawell);
(ch) y nifer uchaf o ieir y gellir eu ffermio yn ôl pob dull ffermio a weithredir yn y sefydliad, wedi ei nodi fel y nifer uchaf o ieir dodwy sy'n bresennol ar unrhyw un adeg sydd yn cael eu ffermio yn y dull hwnnw.
2.
Gwybodaeth am geidwad yr ieir:
(a) enw ceidwad yr ieir;
(b) cyfeiriad ceidwad yr ieir;
(c) os yw ceidwad yr ieir yn berchen ar unrhyw sefydliad arall a gofrestrir o dan y rheoliadau hyn, neu'n cadw sefydliad o'r fath, Rhif cofrestru pob un sefydliad o'r fath.
3.
Gwybodaeth am y perchennog, os nad y perchynnog yw ceidwad yr ieir:
(a) enw'r perchennog;
(b) cyfeiriad y perchennog;
(c) os yw'r perchennog yn berchen ar unrhyw sefydliad arall a gofrestrir o dan y rheoliadau hyn, neu'n ei gadw, Rhif cofrestru pob un sefydliad o'r fath.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/4/EC ar gofrestru sefydliadau sy'n cadw ieir dodwy, a gwmpasir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC.
Mae'r Rheoliadau yn gymwys i sefydliadau sy'n cadw 350 neu fwy o ieir dodwy, heblaw y rhai sy'n magu ieir dodwy ar gyfer eu bridio (rheoliad 3). Mae'n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio a chynnal cofrestr o sefydliadau o'r fath, yn cofnodi'r manylion a restrir yn yr Atodlen, a rhoi Rhif adnabod i bob sefydliad (rheoliad 4).
Bydd yr wybodaeth yn y gofrestr ar gael i'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd os bydd ei hangen i olrhain wyau a roddwyd ar y farchnad i'w bwyta gan bobl (rheoliad 5).
Ni chaiff sefydliadau barhau ar waith ar ôl 30 Mehefin 2004 os nad yw'r wybodaeth a restrir yn yr Atodlen wedi ei rhoi ac ni chaiff sefydliadau newydd ddechrau gweithredu ar ôl y dyddiad hwnnw nes bod Rhif adnabod wedi ei roi (rheoliad 6).
Mae Rheoliadau 7 - 11 yn creu tramgwyddau ac yn gwneud darpariaethau ar gyfer gorfodi.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 t..68back
[3]
OJ Rhif L30, 31.1.2002, t. 44.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090949 6
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
4 June 2004
|