Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041026w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1026 (Cy.123)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
30 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
30 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "ACCAC" ("ACCAC") yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales[3];
mae i "anghenion addysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special educational needs" gan adran 312(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "asesiad athrawon" ("teacher assessment") yw asesiad gan athrawon yn unol â'r asesiadau statudol;
ystyr "asesiadau statudol" ("statutory assessments") yw'r trefniadau asesu hynny a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002[4];
ystyr "asiantaeth farcio allanol" ("external marking agency") yw corff a enwebwyd gan ACCAC ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i farcio profion y Cwricwlwm Cenedlaethol;
ystyr "canlyniad" ("result") o ran unrhyw asesiad o dan yr asesiadau statudol (yn ddarostyngedig i reoliad 7(11) i (13)) yw canlyniad yr asesiad fel a benderfynir ac a gofnodir yn unol â'r trefniadau hynny;
ystyr "cofnod presenoldeb" ("attendance record") yw cofnod presenoldeb disgybl mewn ysgol yn ôl y Gofrestr Presenoldeb a gedwir yn unol ag adran 434 o Ddeddf 1996 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995[5];
ystyr "cyfnod allweddol" ("key stage") yw unrhyw gyfnod a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn adran 103(1) o Ddeddf 2002, ac mae cyfeiriad at y cyfnod allweddol cyntaf, ail, trydydd neu bedwaredd yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn eu trefn yn y paragraffau (a) i (d) a enwyd eisoes;
mae "cymhwyster allanol a gymeradwywyd" ("approved external qualification") yn gymhwyster o fewn ystyr adran 96(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[6] a gafodd ei gymeradwyo, ar yr adeg berthnasol, o dan adran 99 o'r Ddeddf honno at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002[7]);
mae i " diwrnod ysgol" yr ystyr a roddir i "school day" gan adran 579(1) o Ddeddf 1996[8];
ystyr "y dogfennau cysylltiedig" ("the associated documents") yw'r dogfennau a gyhoeddwyd gan ACCAC, yn nodi lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudiaeth mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, ac y mae'r dogfennau hynny yn effeithiol yn rhinwedd y gorchmynion a wnaed o dan adran 108(3) (a) a (b) o Ddeddf 2002 ar gyfer y pynciau hynny sydd ar y pryd mewn grym;
ystyr "NQF" ("NQF") yw Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n gymwysterau achrededig gan ACCAC, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a Chyngor Gogledd Iwerddon ar gyfer Arholiadau Cwricwlwm ac Asesiadau ac ystyr "lefel NQF" ("NQF level") yw'r lefel(au) yr achredir y cymwysterau o fewn NQF;
ystyr "person cyfrifol" ("responsible person") yw -
(a) pennaeth neu berchennog ysgol annibynnol; neu
(b) yr athro neu'r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion; neu
(c) corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu
(ch) y person sy'n gyfrifol am gynnal unrhyw sefydliad addysg bellach neu le addysg neu hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu a allai drosglwyddo iddo;
ystyr "profion y Cwricwlwm Cenedlaethol" ("NC tests") a "thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol" ("NC tasks") yn eu trefn, yw profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a roddir i ddisgyblion yn unol â'r asesiadau statudol;
ystyr "pynciau perthnasol" ("relevant subjects") yw -
(a) o ran asesiad athrawon ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol i'r disgybl neu'r disgyblion dan sylw gael eu hasesu drwy asesiad athrawon;
(b) o ran profion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol i'r disgybl neu'r disgyblion dan sylw gael eu hasesu drwy roi'r cyfryw brofion; ac
(c) o ran tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol rhoi'r tasgau arnynt i'r disgybl neu'r disgyblion dan sylw,
yn y cyfnod allweddol hwnnw yn unol â'r asesiadau statudol;
mae "rhif AALl " ("LEA number") yn gyfuniad o rifau a ddyrannwyd i awdurdod addysg lleol sy'n benodol i'r awdurdod hwnnw, ac a benderfynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr "rhif unigryw disgybl" ("unique pupil number") yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
mae "rhif ysgol" ("school number") yn gyfuniad o rifau a ddyrannwyd i ysgol sy'n benodol i'r ysgol honno, ac a benderfynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr "sefydliad addysg bellach" ("institution of further education") yw sefydliad -
(a) sy'n darparu addysg bellach ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu
(b) sydd o fewn y sector addysg bellach;
ystyr "swyddog lles addysg" ("education welfare officer") yw unrhyw berson a gyflogir gan awdurdod addysg lleol, ac y mae ei ddyletswyddau'n cynnwys sicrhau presenoldeb disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol;
ystyr "TAAU" ("AVCE") yw Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch;
ystyr "TAG Safon Uwch" ("GCE A level") a "TAG Uwch Gyfrannol" ("GCE AS") yw Tystysgrif Addysg Gyffredinol safon uwch ac uwch gyfrannol yn eu trefn;
ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;
ystyr "uned neu gredyd" ("unit or credit"), mewn perthynas â chymhwyster, yw modiwl neu ran o gwrs sy'n arwain at y cymhwyster hwnnw y gellir, pan gwblheir ef yn llwyddiannus, ei gyfrif ynghyd â modiwlau neu rannau eraill tuag at gael y cymhwyster hwnnw; ac
ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig (heblaw un a sefydlwyd mewn ysbyty) ac, onid yw'r cyswllt yn mynnu fel arall, ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu uned cyfeirio disgyblion.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at lefelau cyrhaeddiad a thargedau cyrhaeddiad yn gyfeiriadau at y lefelau a'r targedau a nodir yn y dogfennau cysylltiedig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu gorff llywodraethu, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriad at yr athro neu'r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion
(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu yn yr Atodlen y cyfeirir ato ynddo, ac mae unrhyw gyfeiriad at is-baragraff yn gyfeiriad at is-baragraff o'r paragraff y cyfeirir ato ynddo.
Ystyron cofnod cwricwlaidd a chofnod addysgol
3.
- (1) Yn y rheoliadau hyn ystyr "cofnod cwricwlaidd" ("curricular record") yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a'i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arnynt yn Atodlen 2.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr "cofnod addysgol" ("educational record") yw unrhyw gofnod o wybodaeth, gan gynnwys cofnod cwricwlaidd disgybl -
(a) a brosesir gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym mharagraff (3), neu gan neu ar ran athro neu athrawes yn yr ysgol honno;
(b) sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac
(c) a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (4),
heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro neu athrawes at ddefnydd yr athro neu'r athrawes yn unig.
(3) Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) -
(a) ysgol a gynhelir; a
(b) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.
(4) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c) -
(a) gweithiwr cyflogedig yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
(b) yn achos -
(i) ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu
(ii) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,
athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
(c) y disgybl y mae'r cofnod yn berthnasol iddo; a
(ch) rhiant i'r disgybl hwnnw[9].
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd
4.
Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir a phob ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol, gadw cofnod cwricwlaidd, a ddiweddarir o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion addysgol
5.
- (1) O fewn pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant i ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir a phennaeth ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol drefnu ei fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, i'r rhiant.
(2) O fewn pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o'r fath roi copi ohono i'r rhiant pan delir ffi (nad yw'n fwy na chost ei gyflenwi), os oes ffi, fel y caiff y corff llywodraethu ei ragnodi.
(3) Ym mhob achos lle'r ydys yn ystyried derbyn y disgybl i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu i unrhyw le addysg neu le hyfforddiant arall, rhaid i'r pennaeth drosglwyddo cofnod addysgol y disgybl i'r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os yw'r person yn gwneud y cais hwnnw, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael y cais.
(4) Rhaid i'r cofnod a roddir o dan baragraff (3) beidio â chynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyraeddiadau'r disgybl.
(5) Wrth gydymffurfio ag unrhyw gais i ddatgelu neu i gael copi o gofnod addysgol disgybl o dan baragraff (1), (2) neu (3) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r pennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy'n destun unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998[10].
Trosglwyddo gwybodaeth pan fydd disgybl yn newid ysgol
6.
- (1) Yn y rheoliad hwn ystyr "gwybodaeth drosglwyddo gyffredin" ("common transfer information") yw'r wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.
(2) Pan fydd y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei throsglwyddo mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, gellir bodloni'r gofyn hwnnw drwy drosglwyddo'r wybodaeth -
(a) drwy wefan ryngrwyd ddiogel a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol,
(b) drwy ddisg hyblyg, neu
(c) drwy fewnrwyd a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran awdurdod addysg lleol, ac at ddibenion y rheoliad hwn ystyr mewnrwyd yw rhwydwaith caeedig na ellir ei gyrchu ond gan y canlynol -
(i) yr awdurdod addysg lleol,
(ii) gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol o fewn yr awdurdod hwnnw,
(iii) gan athro neu athrawes mewn ysgol yn yr awdurdod hwnnw,
ac eithrio pan fydd disgybl yn trosglwyddo i ysgol a gynhelir sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol arall rhaid bodloni'r gofyn drwy drosglwyddo'r wybodaeth drwy wefan ryngrwyd ddiogel a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd disgybl yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ("yr hen ysgol") ac yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall ("yr ysgol newydd"), rhaid trosglwyddo gwybodaeth drosglwyddo gyffredin a chofnod addysgol y disgybl i bennaeth yr ysgol newydd cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan beidiodd y disgybl â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol.
(4) Rhaid i'r wybodaeth a'r cofnod y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) gael eu trosglwyddo gan bennaeth yr hen ysgol neu, os cytunwyd ar hynny gan y pennaeth hwnnw a'r awdurdod addysg lleol, gan yr awdurdod hwnnw.
(5) Rhaid trosglwyddo'r wybodaeth drosglwyddo gyffredin mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant.
(6) Ceir trosglwyddo'r cofnod addysgol ar ffurf sy'n ddarllenadwy ar beiriant neu ar bapur neu mewn cyfuniad o'r ddwy ffurf.
(7) Os nad yw'n rhesymol ymarferol i bennaeth yr hen ysgol i ddarganfod ysgol newydd y disgybl, neu os bydd y pennaeth yn ymwybodol fod y disgybl yn symud i ysgol heblaw ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr, nid yw'r gofynion ym mharagraff (3) a (4) o'r rheoliad hwn yn gymwys ond rhaid i bennaeth yr hen ysgol drosglwyddo'r wybodaeth drosglwyddo gyffredin i wefan ryngrwyd ddiogel a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(8) Pan fydd disgybl wedi'i gofrestru mewn ysgol a gynhelir am lai na phedair wythnos, bydd y cydymffurfio yn ddigonol at ddibenion paragraffau (3) a (4) os bydd pennaeth yr ysgol honno neu, pan fo'n gymwys, yr awdurdod addysg lleol yn trosglwyddo'r wybodaeth honno a'r cofnod hwnnw a gawsant o dan y rheoliad hwn o'r ysgol yr oedd y disgybl wedi'i gofrestru ynddi yn flaenorol ar y ffurf y daeth yr wybodaeth i law ganddynt.
(9) At ddibenion paragraff (8), mae'r cyfeiriad ym mharagraff (3) at "bymtheng niwrnod ysgol" yn gyfeiriad at y nifer o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod pan fydd y disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr ysgol o dan sylw neu at nifer y diwrnodau ar ôl i'r wybodaeth a'r cofnod ddod i law pennaeth yr ysgol honno, pa un bynnag yw'r hwyraf.
(10) Os bydd pennaeth hen ysgol disgybl yn cael cais gan bennaeth yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar hyn o bryd, naill ai am yr wybodaeth drosglwyddo gyffredin sy'n ymwneud â'r amser y gadawodd y disgybl yr hen ysgol neu am unrhyw gofnod addysgol sy'n ymwneud â'r disgybl hwnnw sydd ym meddiant yr hen ysgol, rhaid i'r pennaeth ei darparu cyn pen pymtheng niwrnod ar ôl i'r cais ddod i law.
(11) Os bydd disgybl yn cyrraedd ysgol newydd a gynhelir heb fod yr wybodaeth drosglwyddo gyffredin ar ei gyfer neu fanylion ei hen ysgol ar gael, rhaid i bennaeth yr ysgol newydd gysylltu â'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol newydd i ofyn am chwiliad o wefan ddiogel y rhyngrwyd a ddarperir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cael yr wybodaeth drosglwyddo gyffredin am y disgybl.
Adroddiad y pennaeth i rieni a disgyblion sy'n oedolion
7.
- (1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir heblaw ysgiol feithrin neu uned cyfeirio disgyblion, ym mhob blwyddyn ysgol, drefnu bod adroddiad ysgrifenedig ar gael yn unol â'r rheoliad hwn sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y rheoliad hwn.
(2) Dyma'r bobl y mae'n rhaid trefnu bod yr adroddiad ar gael iddynt -
(a) yn achos disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol sy'n 18 oed neu drosodd pan drefnir bod adroddiad ar gael ac nad ydynt yn bwriadu gadael yr ysgol erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y mae'r adroddiad yn berthnasol iddi, pob disgybl o'r fath ac, os yw'r pennaeth yn ystyried bod amgylchiadau arbennig sy'n gwneud hynny'n briodol, rhiant pob disgybl o'r fath; neu
(b) yn achos pob disgybl arall a gofrestrwyd yn yr ysgol, rhiant pob disgybl o'r fath.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyraeddiadau addysgol disgybl y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i'w riant a'r wybodaeth arall sy'n ymwneud ag ef a bennir -
(a) o ran disgyblion yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail, trydydd neu bedwerydd yn eu trefn, ym mharagraffau 1, 2, 3 a 4 o Ran 1 o Atodlen 2 yn eu trefn;
(b) o ran disgyblion yn unrhyw gyfnod allweddol, yn Rhan 2 o'r Atodlen honno;
(c) o ran disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd yn lefel 3 NQF neu'n uwch na hynny, yn Rhan 3 o'r Atodlen honno; ac
(ch) o ran pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol (gan gynnwys y rhai y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) uchod), yn Rhan 4 o'r Atodlen honno.
(4) Yn achos disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail neu drydydd, yn eu trefn, rhaid cynnwys yn yr adroddiad yr wybodaeth sy'n ymwneud â chyraeddiadau addysgol pob disgybl arall a gofrestrwyd yn yr ysgol yn y cyfnod allweddol hwnnw yr aseswyd eu cyraeddiadau o dan yr asesiadau statudol ar yr un adeg â chyraeddiadau'r disgybl, a'r wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r disgyblion hynny, a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 3, yn eu trefn, o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(5) Yn achos disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol yn y cyfnod allweddol cyntaf rhaid cynnwys yn yr adroddiad yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 4 sy'n ymwneud â chyraeddiadau addysgol pob disgybl mewn ysgolion yng Nghymru a oedd yn y cyfnod allweddol hwnnw yn y flwyddyn ysgol flaenorol ac yr aseswyd eu cyraeddiadau o dan yr asesiadau statudol yn y flwyddyn ysgol flaenorol honno.
(6) Yn achos disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol yn yr ail a thrydydd cyfnod allweddol, rhaid cynnwys yn yr adroddiad yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 sy'n ymwneud â chyraeddiadau addysgol pob disgybl mewn ysgolion yng Nghymru a oedd yn un o'r cyfnodau allweddol hynny yn y flwyddyn ysgol flaenorol ac yr aseswyd eu cyraeddiadau o dan yr asesiadau statudol yn y flwyddyn ysgol flaenorol honno.
(7) Nid oes dim yn y rheoliad hwn i atal cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) i (6) rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (9), bod yn rhaid i'r pennaeth ym mhob blwyddyn ysgol anfon yr wybodaeth honno drwy'r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.
(8) Rhaid i'r cyfnod y mae adroddiad sy'n cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) yn ymwneud ag ef, ym mhob achos ddechrau gyda pha gyfnod bynnag sydd hwyraf o'r canlynol -
(a) pan dderbyniwyd y disgybl i'r ysgol; neu
(b) diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar y materion hynny yn ymwneud ag ef ac a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn neu yn ôl y digwydd y Rheoliadau a ddirymwyd gan reoliad 12.
(9) Os na ddaw'r manylion sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (10) i law'r pennaeth tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na'r 30 Medi canlynol.
(10) Dyma'r wybodaeth -
(a) manylion y cymwysterau allanol a gymeradwywyd a gyflawnodd disgybl;
(b) canlyniadau profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a safodd disgybl ar ddiwedd yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol; ac
(c) yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(2) a 3(2) o Atodlen 2 a pharagraffau 2 a 3 o Atodlen 3.
(11) Mae paragraffau (12) a (13) yn gymwys os yw'r pennaeth wedi gwneud cais am adolygiad gan asiantaeth farcio allanol ar ganlyniad unrhyw brawf y Cwricwlwm Cenedlaethol a safodd disgybl yn yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol ond heb ei gael cyn diwedd tymor yr haf.
(12) Rhaid i'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ddangos bod y canlyniad sy'n destun yr adolygiad yn un dros dro.
(13) Cyn gynted ag y daw'r canlyniad a adolygwyd i law'r pennaeth, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth sy'n rhoi'r canlyniad a adolygwyd o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na'r 30 Medi canlynol ar ôl tymor yr haf, i'r bobl hynny a gafodd yr wybodaeth ynghynt mai canlyniad dros dro oedd i brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Trefnu bod gwybodaeth ychwanegol ar gael
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn achos disgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir heblaw ysgol feithrin neu uned cyfeirio disgyblion yn unrhyw gyfnod allweddol sy'n cael ei asesu yn unol â'r asesiadau statudol yn y cyfnod allweddol hwnnw, rhaid i'r pennaeth os gofynnir iddo gan riant y disgybl drefnu, yn unol â'r rheoliad hwn, bod lefelau cyrhaeddiad [ac unrhyw ganlyniadau eraill] y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn unrhyw bwnc perthnasol ar gael i'r rhiant.
(2) Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio â chais o'r fath cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl iddo ei gael.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os trefnwyd bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw eisoes ar gael i riant y disgybl yn unol â'r Rheoliadau hyn.
Adroddiad disgybl sy'n gadael yr ysgol
9.
- (1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir heblaw ysgol feithrin neu uned cyfeirio disgyblion drefnu bod yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) ar gael i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol ac sy'n bwriadu gadael yr ysgol neu sydd wedi gadael yr ysgol yn unol â pharagraffau (3) a (4).
(2) Mae'r wybodaeth yn cynnwys -
(a) enw'r disgybl;
(b) ysgol y disgybl;
(c) manylion unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a ddyfarnwyd i'r disgybl; a
(ch) manylion byr ar gynnydd y disgybl a'i gyraeddiadau mewn pynciau (heblaw y rhai lle'r enillodd y disgybl unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath) ac mewn unrhyw weithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm ysgol, yn y flwyddyn ysgol pan adawodd y disgybl yr ysgol yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd.
(3) Rhaid i'r rhan o'r ffurflen y mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a), (b) ac (ch) o baragraff (2) ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod y disgybl, a rhaid i'r rhan honno o'r ffurflen, a'r rhan o'r ffurflen y mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) ac (c) o baragraff (2) ar gael ynddi, ddarparu ar gyfer llofnod yr athro neu'r athrawes sy'n gyfarwydd â'r disgybl a'i gyraeddiadau.
(4) Rhaid trefnu bod yr wybodaeth honno ar gael i'r disgybl ddim hwyrach na 30 Medi sy'n dilyn diwedd y flwyddyn ysgol pan adawodd y disgybl yr ysgol yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd.
Cyfyngiadau ar ddarparu gwybodaeth
10.
- (1) Mae darpariaethau paragraff (2) yn gymwys i'r wybodaeth a bennir ym mharagraff 8(1) o Atodlen 2.
(2) Nid oes dim sydd yn rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i drefnu bod unrhyw wybodaeth ar gael -
(a) sy'n tarddu o neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw berson heblaw -
(i) gweithiwr cyflogedig yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
(ii) yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerwyd ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
(iii) swyddog lles addysg;
(iv) y person sy'n gofyn am y datgeliad; neu
(b) i'r graddau y byddai'n datgelu, neu y byddai'n galluogi rhywun i ddarganfod, pwy yw person (heblaw'r disgybl y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo neu berson a grybwyllir yn is-baragraff (a)) sy'n ffynhonnell yr wybodaeth neu sy'n berson y mae'r wybodaeth honno yn berthnasol iddo.
(3) Nid oes dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drefnu bod unrhyw wybodaeth ar gael -
(a) i'r graddau y byddai datgeliad ym marn y pennaeth yn debygol o achosi niwed difrifol i iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr emosiynol disgybl y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo neu unrhyw berson arall;
(b) i'r graddau y mae, ym marn y pennaeth, yn berthnasol i'r cwestiwn a fyddai'r disgybl y mae'n ymwneud ag ef yn blentyn sy'n cael ei gam-drin neu wedi cael ei gam-drin neu os yw mewn risg o gamdriniaeth; neu
(c) fel y byddai'n datgelu lefelau cyrhaeddiad ac unrhyw ganlyniadau eraill mewn unrhyw darged cyrhaeddiad neu bwnc unrhyw ddisgybl arall a enwyd.
(4) Yn y rheoliad hwn mae "cam-drin plentyn" yn cynnwys anaf corfforol (heblaw drwy ddamwain) i blentyn ac mae'n cynnwys esgeuluso plentyn yn gorfforol neu'n emosiynol, trin plentyn yn wael neu gam-drin plentyn yn rhywiol.
Cyfieithu gwybodaeth a dogfennau
11.
- (1) Os yw'n ymddangos yn ofynnol i bennaeth unrhyw ysgol y dylai unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae angen iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac a ddarparwyd yn Gymraeg gael ei chyfieithu i Saesneg, rhaid ei chyfieithu ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.
(2) Os yw'n ymddangos yn ofynnol i bennaeth unrhyw ysgol y dylai unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae angen iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac a ddarparwyd yn Saesneg gael ei chyfieithu i Gymraeg, rhaid ei chyfieithu ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.
(3) Os yw'n ymddangos yn ofynnol i bennaeth unrhyw ysgol y dylai unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae angen iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyfieithu i iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid ei chyfieithu ac mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.
(4) Ni ddylid codi unrhyw dâl am gopi o unrhyw wybodaeth a gyfieithwyd yn unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), ond os codir tâl am gopi o ddogfen wreiddiol ni ddylid codi tâl uwch am gopi o'r ddogfen honno a gyfieithwyd.
Dirymu ac arbedion
12.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 5.
(2) Nid yw dirymiad y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 5 i ryddhau unrhyw berson o unrhyw ddyletswydd o dan y Rheoliadau a ddirymwyd na chafodd ei chyflawni cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
ATODLEN 1Rheoliad 6
GWYBODAETH DROSGLWYDDO GYFFREDIN
1.
Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl -
(a) rhif unigryw'r disgybl;
(b) cyfenw;
(c) enw(au) cyntaf;
(ch) dyddiad geni;
(d) rhyw;
(dd) grp ethnig;
(e) hunaniaeth genedlaethol;
(f) pwy a ddarparodd yr wybodaeth o ran grp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl;
(ff) pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
(g) a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy;
(ng) pwy a ddarparodd yr wybodaeth am ba mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg ac a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref;
(h) a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996[12], wedi gwneud cais am brydau am ddim yn yr ysgol a'i gael yn gymwys iddynt;
(i) a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am laeth am ddim yn yr ysgol a'i gael yn gymwys iddo.
2.
A oes gan ddisgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o -
(a) brif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a
(b) y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â "Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru"[13], a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw.
3.
Lle mae'r disgybl yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, yna'r ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
4.
Manylion y cyfeiriad lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
5.
Cyfenw o leiaf un person cyswllt a manylion eu perthynas â'r disgybl.
6.
Dangosydd lle mae gwybodaeth feddygol yn bodoli a allai fod yn berthnasol i ysgol newydd y disgybl.
7.
Cyfanswm -
(a) y sesiynau yn y flwyddyn ysgol tan y dyddiad y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol;
(b) y sesiynau hynny yn y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl; a
(c) absenoldebau awdurdodedig y disgybl a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) yn y flwyddyn ysgol.
8.
Y rhif AALl a rhif ysgol yr hen ysgol yn ogystal â'r ysgol newydd.
ATODLEN 2Rheoliad 7(3)
DARPARU GWYBODAETH AM DDISGYBLION UNIGOL
RHAN
1
Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf
1.
- (1) Canlyniadau asesiadau statudol y disgybl.
(2) Adroddiad byr o'r hyn y mae canlyniadau'r disgybl a adroddwyd yn unol ag is-baragraff (1) yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o'r cyfnod allweddol sy'n tynnu sylw at unrhyw gryfderau neu wendidau penodol gan y disgybl.
Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol
2.
- (1) Canlyniadau asesiadau statudol y disgybl.
(2) Adroddiad byr o'r hyn y mae canlyniadau'r disgybl a adroddwyd yn unol ag is-baragraff (1) yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o'r cyfnod allweddol sy'n tynnu sylw at unrhyw gryfderau neu wendidau penodol gan y disgybl.
Disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol
3.
- (1) Canlyniadau asesiadau statudol y disgybl.
(2) Adroddiad byr o'r hyn y mae canlyniadau'r disgybl a adroddwyd yn unol ag is-baragraff (1) yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o'r cyfnod allweddol sy'n tynnu sylw at unrhyw gryfderau neu wendidau penodol gan y disgybl.
Disgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol
4.
Manylion, gan gynnwys enw pwnc, unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd yn NQF lefel 2 neu'n is na hynny neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath.
RHAN
2
Disgyblion yn unrhyw gyfnod allweddol
5.
- (1) Yn yr holl bynciau sylfaen, manylion byr ar gyraeddiadau disgybl o ran pob un o'r pynciau gan dynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol, ynghyd â datganiad, os yw'r manylion yn cynnwys lefelau, sy'n dangos a benderfynwyd ar y lefelau hynny yn unol â'r asesiadau statudol.
(2) Manylion unrhyw bwnc y mae'r disgybl yn esempt ohono.
(3) Crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy'n dangos y nifer yr absenoldebau awdurdodedig a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) a'r nifer presenoldebau posibl.
RHAN
3
Disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer cymwysterau TAG safon uwch neu TAG uwch gyfrannol neu TAAU
6.
- (1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar gyfer cymwysterau TAG safon uwch neu TAG uwch gyfrannol neu TAAU a'r radd (os oes un) a gafwyd.
(2) Cyfanswm y pwyntiau a sgoriwyd gan ddisgybl yn y pynciau arholiad hynny y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer, ac mae'r graddau canlynol yn hafal i'r pwyntiau canlynol: -
TAG safon uwch neu gymhwyster 6 uned TAAU: gradd A = 10 pwynt; gradd B = 8 pwynt; gradd C = 6 pwynt; gradd D = 4 pwynt; a gradd E = 2 bwynt.
TAG uwch gyfrannol neu gymhwyster 3 uned TAAU: gradd A = 5 pwynt; gradd B = 4 pwynt; gradd C = 3 pwynt; gradd D = 2 pwynt; a gradd E = 1 pwynt.
Disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer unrhyw gymwysterau allanol lefel 3 NQF eraill a gymeradwywyd
7.
Manylion unrhyw gymhwyster allanol lefel 3 NQF a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw uned neu gredyd tuag at y cymhwyster hwnnw, ac os yw hi ar gael, y radd (os oes un) a gafwyd.
RHAN
4
Pob Disgybl
8.
- (1) Manylion byr ar gyraeddiad y disgybl mewn unrhyw bwnc neu weithgaredd, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, na chrybwyllir mohonynt yn unrhyw le arall yn yr Atodlen hon sy'n rhan o'r cwricwlwm ysgol a'i sgiliau a'i alluoedd ac ynghylch ei gynnydd yn yr ysgol yn gyffredinol yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth hon yn ymwneud ag ef.
(2) Manylion y trefniadau y gellir trafod yr adroddiad odanynt gydag athrawon y disgybl gan ei riant neu, yn achos disgybl sy'n 18 oed neu drosodd, gan y disgybl.
(3) Manylion unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a gafodd y disgybl yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi na chyfeirir ati yn rhywle arall yn yr Atodlen hon.
ATODLEN 3Rheoliad 7(4)
GWYBODAETH AM DDISGYBLION YN YR YSGOL
Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf
1.
- (1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.
(2) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhynciau'r Gymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon.
(3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau fel y penderfynwyd arnynt felly.
(4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n esempt o bob un o'r pynciau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2).
Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol
2.
- (1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.
(2) Canrannau disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
(3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly.
(4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol.
(5) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny.
(6) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).
Disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol
3.
- (1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
(3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly.
(4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol.
(5) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny.
(6) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).
ATODLEN 4Rheoliad 7(5) a (6)
GWYBODAETH AM DDISGYBLION MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf
1.
- (1) Y canrannau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r rhai a roddodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig mewn ysgolion yng Nghymru yn y cyfnod allweddol cyntaf yn y flwyddyn ysgol flaenorol.
(2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth a benderfynwyd yn ôl asesiad athrawon.
(3) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau hynny fel y penderfynwyd arnynt felly.
(4) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn esempt o bob un o'r pynciau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2).
Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol ac yn y trydydd cyfnod allweddol
2.
- (1) Y canrannau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r rhai a roddodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig mewn ysgolion yng Nghymru yn yr ail, neu yn ôl y digwydd, y trydydd cyfnod allweddol yn y flwyddyn ysgol flaenorol.
(2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth a ddangoswyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
(3) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau fel y penderfynwyd arnynt felly.
(4) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn esempt o bob un o'r pynciau hynny.
(5) Canrannau'r disgyblion hynny na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny.
(6) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).
ATODLEN 5Rheoliad 12
DIRYMIADAU
Rhif
|
Y Rheoliadau a Dirymir
|
Cyfeirnod
|
1 |
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 |
O.S. 1997/573 |
2 |
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 1997 |
O.S. 1997/2709 |
3 |
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 1998 |
O.S. 1998/2705 |
4 |
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 1999 |
O.S. 1999/1497 |
5 |
Rheoliadau Addysg (Cofnodion am Ddisgyblion) (Cymru) 2001 |
O.S. 2001/832 (Cy.37) |
6 |
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001 |
O.S. 2001/890 (Cy.41) |
7 |
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002 |
O.S. 2002/46 (Cy.5) |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, gyda newidiadau, yn disodli darpariaethau a gafwyd yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001. Maent yn darparu ar gyfer i'r pennaeth gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a sgiliau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgol arbennig na chaiff ei chynnal yn y modd hwnnw (rheoliad 4).
Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion pan fo disgyblion ganddynt o dan ystyriaeth i'w trosglwyddo ( rheoliad 5). Mae Rheoliad 6 yn nodi cynnwys yr adroddiad y mae'n ofynnol i bennaeth yr hen ysgol ei anfon at bennaeth yr ysgol newydd cyn gynted ag y mae'r disgybl wedi trosglwyddo i'r ysgol newydd.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae'n ofynnol i'r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy'n oedolion bob blwyddyn ysgol (rheoliad 7) a'r wybodaeth ychwanegol y gall rhieni disgyblion cofrestredig sy'n cael eu hasesu yn unrhyw gyfnod allweddol ofyn amdani sy'n ymwneud â lefelau cyraeddiadau disgybl yn y pynciau perthnasol (rheoliad 8). Mae Rheoliad 9 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i bennaeth drefnu ei bod ar gael yn yr adroddiadau a roddir i ddisgyblion sy'n gadael yr ysgol. Mae Rheoliad 10 yn nodi cyfyngiadau penodol ar ddarparu gwybodaeth.
Os yw'n ofynnol, rhaid i unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae angen iddynt fod ar gael o dan y Rheoliadau gael eu cyfieithu i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 11).
Dirymir Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 fel y'u diwygiwyd a dirymir Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 (rheoliad 12).
Notes:
[1]
1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 30, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 57 a Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 46. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579 o Ddeddf 1996.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back
[4]
Y gorchmynion cyfredol yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)), Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) 1997 (O.S. 1997/2009) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 (O.S. 1997/2010) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976 ac O.S. 2001/889 (Cy.40).back
[5]
O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, O.S. 2001/1109 (Cy. 53), O.S. 2003/3227 (Cy. 308).back
[6]
2000 p.21.back
[7]
2002 p.32.back
[8]
Diwygiwyd adran 579(1) gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.back
[9]
Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o "educational record" a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).back
[10]
1998 p.29.back
[11]
1998 p.38.back
[12]
Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, am adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1).back
[13]
ISBN 0 7504 27574.back
English version
ISBN
0 11 090925 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
8 April 2004
|