British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041024w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1024 (Cy.121)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
30 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
12 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2.
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £18.40 yr wythnos.
Dirymu
3.
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003[
3] drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.
O 12 Ebrill 2004 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £18.40 yr wythnos at eu hanghenion personol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 sy'n cael eu dirymu, ac oedd yn rhagnodi'r swm wythnosol o £17.80.
Notes:
[1]
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ar gyfer y diffiniadau o "the Minister" a "prescribed" yn eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2003/892 (Cy.112).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090923 2
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
7 April 2004
|