British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041013w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1013 (Cy.110)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
31 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 iddi[
1], ac adran 143 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi [
2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau bilio yng Nghymru yn unig.
Diwygiadau
2.
Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ("Rheoliadau 1992")[
3] a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 ("Rheoliadau 1989")[
4] yn unol â rheoliad 3.
Taliadau ynghylch atafaelu
3.
Yn Atodlen 5 o Reoliadau 1992 ac yn Atodlen 3 o Reoliadau 1989:
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ("Rheoliadau 1992") a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 ("Rheoliadau 1989") mewn perthynas â Chymru.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio lefelau ffioedd penodol y gellir eu codi mewn perthynas ag atafaelu. Mae'r cynnydd hwn yn unol â chwyddiant ers 1998 pan gynyddwyd y ffioedd ddiwethaf.
Notes:
[1]
1992 p.14. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back
[2]
1988 p.41. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back
[3]
O.S. 1992/613, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/773, 1998/295.back
[4]
O.S. 1989/1058, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/145, 1992/474 a 1993/616.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090936 4
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
20 April 2004
|