British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040803w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif803 (Cy.83)
LLYFRGELLOEDD, CYMRU
Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004
|
Wedi'i wneud |
17 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2004 | |
Mae adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
1] ("Deddf 1998"), a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i drosglwyddo iddo ef ei hun swyddogaethau statudol y Cyngor a sefydlwyd i Gymru o dan adran 2 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964[
2].
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Cyngor, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y materion hynny sy'n gysylltiedig â darparu neu ddefnyddio cyfleusterau llyfrgelloedd boed o dan Ddeddf 1964 neu fel arall ac ar unrhyw gwestiynau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfeirio at y Cyngor, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1964" ("the 1964 Act") yw Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964:
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw'r Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd a sefydlwyd ar gyfer Cymru a Sir Fynwy o dan adran 2 o Ddeddf 1964, a adnabyddir fel Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Cymru); ac
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diddymu'r Cyngor
2.
- (1) Diddymir y Cyngor a'i swyddogaethau.
(2) Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau y mae gan y Cyngor hawl iddynt ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Cyngor.
Diwygiadau Canlyniadol
3.
- (1) Diwygir adran 2 o Ddeddf 1964 fel a ganlyn:
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 1A o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976[3], diddymir y cyfeiriad at "Library and Information Services Council (Wales)".
(3) Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000[4], diddymir y cyfeiriad at "Library and Information Services Council (Wales)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru (a adnabyddir fel 'Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Hysbysrwydd (Cymru)'), ac mae'n trosglwyddo ei holl eiddo a hawliau ac unrhyw rwymedigaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgîl ddiddymu'r Cyngor.
Notes:
[1]
1998 p. 38.back
[2]
1964 p. 75. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1976 p. 74. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan adran 2(2) o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 (p.34), ac Atodlen 1 iddi, a ddiwygwyd gan Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Cyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457), erthygl 2(d), a'r Atodlen iddi.back
[4]
2000 p. 36.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090905 4
© Crown copyright 2004
Prepared
25 March 2004