British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040784w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif784 (Cy.81)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
16 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 15(2), 17(2)(a), 21(2)(a) a 45(3) o Ddeddf Arolygu Ysgolion 1996[
1], a pharagraffau 2(2) a 3(1) o Atodlen 4 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[
2].
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[
3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2) -
(a) yn lle'r geiriau "five weeks" rhowch y geiriau "35 working days", a
(b) dilëwch y geiriau ", or, where it is necessary to provide a translation into Welsh or English, the period of seven weeks from that date".
(3) Yn rheoliad 8(1) -
(a) yn lle'r gair "forty" rhowch y geiriau "forty five", a
(b) dilëwch y geiriau ", or where it is necessary to provide a translation into Welsh or English, the period of forty five working days from that date".
(4) Yn rheoliad 13(2) -
(a) yn lle'r geiriau "five weeks" rhowch y geiriau "35 working days", a
(b) dilëwch y geiriau "or within seven weeks from that date where it is necessary to provide a translation into Welsh or English,".
(5) Yn rheoliad 13(3) -
(a) yn lle'r gair "forty" rhowch y geiriau "forty five", a
(b) dilëwch y geiriau "or within forty five working days from that date where it is necessary to provide a translation into Welsh or English,".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 er mwyn newid y cyfnod y mae'n rhaid cwblhau adroddiad arolygu ynddo i 35 diwrnod gwaith ym mhob achos, a'r cyfnod y mae'n rhaid paratoi cynllun gweithredu ynddo i 45 diwrnod gwaith ym mhob achos.
Notes:
[1]
1996 p.57. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 46(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1998/1866, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1440, 2001/3710 ac adran 73 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090903 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
22 March 2004
|