British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040783w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif783 (Cy.80)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
16 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[
1].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001[
2] fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 rhowch y canlynol -
(3) Yn rheoliad 3 -
(a) yn lle'r Rhif "55" rhowch y Rhif "70", a
(b) dilëwch y geiriau "neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw".
(4) Yn rheoliad 4(1) -
(a) yn lle'r Rhif "40" rhowch y Rhif "50", a
(b) dilëwch y geiriau "neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith" a'r geiriau "(yn y naill achos neu'r llall)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 er mwyn -
(a) darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol -
- dyddiad yr arolygiad diwethaf (o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 neu'r drefn flaenorol o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992),
- dyddiad sefydlu sefydliad newydd, neu
- 1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd i ddyddiad yr arolygiad diwethaf; a
(b) newid y cyfnod y mae'n rhaid gwneud adroddiad arolygu ynddo i 70 diwrnod gwaith ym mhob achos a'r cyfnod y mae'n rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu ynddo i 50 diwrnod gwaith ym mhob achos.
Notes:
[1]
2000 p.21. I gael ystyr "prescribed" yn adran 77 gweler is-adran (9) o'r adran honno.back
[2]
O.S. 2001/2501 (Cy. 204).back
[3]
1992 p.13.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090902 X
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
23 March 2004
|