British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040711w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif711 (Cy.78)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
10 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(3) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
Dehongli
2.
Yn y rheoliadau hyn -
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Gofal Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "gweithiwr cymdeithasol o dan hyfforddiant" ("student social worker") yw person sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor o dan adran 63 o'r Ddeddf i bersonau sy'n dymuno bod yn weithwyr cymdeithasol.
Personau i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol
3.
- (1) Mae gweithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at y diben a bennir ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Y diben yw cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor o dan adran 56(1) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.
Notes:
[1]
2000 p. 14. Rhoddir y pwerau i'r "appropriate Minister" a ddiffinnir gan adran 121(1) o'r Ddeddf fel "the Assembly" mewn perthynas â Chymru. Gweler adran 5(b) o'r Ddeddf am y diffiniad o "the Assembly".back
[2]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090896 1
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
17 March 2004
|