British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040709w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif709 (Cy.76)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
10 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y p
![wcirc](/images/wcirc.gif)
er a roddwyd iddo gan adran 56(1)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac ar ôl ymghynghori â Chyngor Gofal Cymru[
2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli.
1.
- (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Gofal Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "gweithiwr cymdeithasol o dan hyfforddiant" ("student social worker") yw person sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor o dan adran 63 o'r Ddeddf ar gyfer personau sydd am fod yn weithwyr cymdeithasol.
Pennu gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant
2.
Pennir gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant drwy hyn at ddibenion adran 56(1)(b) o'r Ddeddf (gofyniad i'r Cyngor gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol penodedig).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant at ddibenion adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae Adran 56 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru trwy orchymyn.
Notes:
[1]
2000 p.14. Rhoddir y pwer i'r Gweinidog priodol a ddiffinnir yn adran 121(1) o'r Ddeddf fel "the Assembly" mewn perthynas â Chymru. Gweler adran 5(b) o'r Ddeddf am y diffiniad o "the Assembly".back
[2]
Gweler adran 56(4) o'r Ddeddf am y gofyniad i ymghynghori.back
[3]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090895 3
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
17 March 2004
|