Wedi'u gwneud | 9 Mawrth 2004 | ||
Yn dod i rym | 31 Mawrth 2004 |
ond, at ddibenion talu ffi am wrandawiad, nid yw'n cynnwys -
Cymhwysiad y Rheoliadau
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys -
mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru.
Ffioedd: ceisiadau
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, bydd ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan -
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1), os yw'r tâl am wasanaeth, y premiwm yswiriant neu'r tâl am weinyddu sy'n destun y cais -
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, bydd ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan -
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (3) -
(5) Os yw cais yn cael ei wneud o dan -
y ffi sy'n daladwy am y cais fydd yr uchaf o'r ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy yn unol â pharagraff (2) neu (4) (yn ôl y digwydd) pe bai cais ar wahân wedi'i wneud o dan bob un o'r darpariaethau hynny.
Ffioedd: ceisiadau a drosglwyddwyd o lys
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 8, os yw llys, drwy orchymyn, yn trosglwyddo i dribiwnlys gymaint o unrhyw achos ag sy'n ymwneud â phenderfynu cwestiwn sy'n dod o dan awdurdodaeth y tribiwnlys yn rhinwedd darpariaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (3) o reoliad 3, y ffi sy'n daladwy i'r tribiwnlys fydd y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy o dan baragraff (2), (4) neu (5) o'r rheoliad hwnnw (yn ôl y digwydd) am gais namyn cyfanswm unrhyw ffioedd a dalwyd gan y ceisydd i'r llys mewn perthynas â'r achos ar ddyddiad y gorchymyn hwnnw neu cyn hynny.
(2) Os yw cyfanswm unrhyw ffioedd a dalwyd i'r llys ar neu cyn dyddiad y gorchymyn a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn hafal i'r ffi sy'n daladwy o dan y paragraff hwnnw, neu'n fwy na hi, ni fydd unrhyw ffi yn daladwy i'r tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.
Ffioedd: gwrandawiadau
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 8, bydd ffi o £150 yn daladwy am wrandawiad.
(2) Os yw rhan o gais neu achos a drosglwyddwyd yn cael ei benderfynu neu os bydd yn cael ei benderfynu mewn, neu'n unol â, gwrandawiad cais cynrychioliadol a bod rhan i'w phenderfynu mewn gwrandawiad ar wahân, y ffi am y rhan sydd i'w gwrando ar wahân fydd £150 namyn cyfanswm unrhyw ffioedd a dalwyd gan y ceisydd yn unol â rheoliad 7(5) am y rhan honno o'r cais neu'r achos a drosglwyddwyd sydd i'w benderfynu yn y cais cynrychioliadol, neu'n unol ag ef.
Talu ffioedd
6.
- (1) Rhaid i unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3 fynd gyda'r cais.
(2) Bydd unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 4 neu 5 yn ddyledus cyn pen 14 diwrnod ar ôl archiad ysgrifenedig am daliad gan y tribiwnlys a rhaid ei hanfon i'r cyfeiriad a bennir yn yr archiad hwnnw.
(3) Rhaid i'r ffi gael ei thalu â siec wedi'i gwneud yn daladwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu ag archeb bost wedi'i hysgrifennu yn enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhwymedigaeth i dalu a dosrannu ffioedd
7.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 a'r paragraffau canlynol, bydd y ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sy'n daladwy i dribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os yw cais yn cael ei wneud neu os yw achos a drosglwyddwyd yn cael ei ddwyn gan fwy nag un person, rhaid dosrannu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3 neu 4 am y cais neu'r achos a drosglwyddwyd yn gyfartal rhwng y personau hynny a bydd pob person yn atebol i dalu un gyfran.
(3) Os digwydd y canlynol -
rhaid trin y personau hynny gyda'i gilydd fel un person at ddibenion paragraff (2).
(4) Os oes dau gais neu ragor yn cael eu gwrando gyda'i gilydd, ac eithrio ceisiadau sy'n cael eu gwrando gyda chais cynrychioliadol, rhaid dosrannu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 5 am y gwrandawiad yn gyfartal rhwng y ceisiadau ac, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraffau (2), (3) a (6) a rheoliad 8, bydd y ceisydd ym mhob cais yn atebol i dalu un gyfran.
(5) Rhaid dosrannu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 5 am wrando cais cynrychioliadol ac unrhyw gais a wrandawyd gyda'r cais cynrychioliadol yn gyfartal rhwng -
ac, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraffau (2), (3) a (6) a rheoliad 8, bydd y ceisydd ym mhob cais yn atebol i dalu un gyfran o'r ffi.
(6) Rhaid i'r swm sy'n daladwy gan unrhyw berson mewn perthynas â ffi gael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a chan ystyried y personau sy'n geiswyr ar y dyddiad y mae'r cais yn cael ei wneud neu ddyddiad yr archiad am daliad a ddyroddwyd gan y tribiwnlys.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae "ceisydd" yn cynnwys unrhyw berson y mae ei archiad o dan reoliad 6 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 am gael ei gyplysu fel parti i'r achos a'i drin fel ceisydd, wedi'i ganiatáu gan y tribiwnlys.
Hepgor a lleihau ffioedd
8.
- (1) Ni fydd person yn atebol dros dalu unrhyw ffi sy'n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn os ar y dyddiad perthnasol, y mae'r person hwnnw neu bartner y person yn cael -
(b) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr "income-based jobseeker's allowance" yn adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995[10];
(c) credyd treth y mae paragraff (2) yn gymwys iddo;
(ch) credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[11]; neu
(d) tystysgrif -
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gredyd treth gweithio o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002[13], os
(b) y mae'r incwm blynyddol gros a gymerwyd i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14,213 neu lai;
(3) Os nad yw person yn atebol i dalu ffi yn rhinwedd paragraff (1), bydd y darpariaethau canlynol yn gymwys -
(4) Yn y rheoliad hwn -
(c) ystyr "dyddiad perthnasol" yw -
Ad-dalu ffioedd
9.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas ag unrhyw achos y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti i'r achos ad-dalu unrhyw barti arall i'r achos am y cyfan neu ran o unrhyw ffioedd a dalwyd ganddo am yr achos.
(2) Rhaid i dribiwnlys beidio â'i gwneud yn ofynnol i barti wneud ad-daliad o'r fath os, ar yr adeg y mae'r tribiwnlys yn ystyried a ddylid gwneud hynny neu beidio, y mae'r tribiwnlys wedi'i fodloni bod y parti yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau neu'n cael y lwfans neu'n dal y dystysgrif a grybwyllwyd yn rheoliad 8(1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
mae'r ffi yn cael ei chyfrifo drwy gyfeirio at werth y cais.
Yn achos ceisiadau ynghylch -
amrywio lesddaliadau,
mae'r ffi yn cael ei chyfrifo drwy ystyried nifer yr anheddau y mae'r cais yn ymwneud â hwy.
Mae rheoliad 4 yn rhagnodi bod rhaid cyfrifo'r ffi sy'n daladwy pan fydd llys yn trosglwyddo achos i dribiwnlys fel petai'r cais wedi'i wneud yn uniongyrchol i'r tribiwnlys, namyn unrhyw ffioedd a dalwyd i'r llys ar neu cyn dyddiad y gorchymyn yn trosglwyddo'r achos. £150 oedd y ffioedd cyfatebol y darparwyd ar eu cyfer yng Ngorchymyn 1997. Gan fod y ffi yn amrywio bellach, £50 yw'r ffi isaf sy'n daladwy yn awr, sef gostyngiad o 66.6%, tra bo'r ffi uchaf sy'n daladwy yn £350, sef cynnydd o 133.3%.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi ffi benodedig o £150 am wrandawiad. O dan Orchymyn 1997 yr oedd y ffi am wrandawiad yn un amrywiadwy: £150 oedd y ffi isaf a oedd yn daladwy a £350 oedd y ffi uchaf a oedd yn daladwy. O dan y Rheoliadau hyn mae gostyngiad o 57.1% yn y ffi am wrandawiad ar gyfer achosion yr oedd rhaid talu'r ffi uchaf amdanynt o'r blaen.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3 fynd gyda'r cais ac y byddai ffi sy'n daladwy o dan reoliadau 4 a 5 yn daladwy cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael archiad ysgrifenedig am daliad.
Mae rheoliad 7 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymdrin ag atebolrwydd i dalu'r ffioedd sy'n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn. Yn benodol -
mae'r ffi yn cael ei dosrannu ac mae pob person yn atebol i dalu cyfran.
Mae rheoliad 8 yn darparu bod atebolrwydd i dalu ffioedd yn cael ei hepgor pan fydd person neu bartner y person hwnnw yn cael budd-daliadau penodedig a bod ffioedd yn cael eu lleihau pan fydd mwy nag un person yn atebol i dalu ffi a bod o leiaf un person yn cael budd-daliadau o'r fath. At ddibenion y rheoliad hwn gall "partner" gynnwys person o'r un rhyw.
Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ad-dalu ffioedd.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).
[2] Wedi'i hamnewid, ynghyd ag adran 20 newydd, gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ("Deddf 2002"), adran 151(1), sydd mewn grym at ddibenion gwneud rheoliadau o 1 Ionawr 2003 ymlaen (O.S. 2002/3012) ac mewn grym at y dibenion sy'n weddill o 30 Mawrth 2004 ymlaen (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back
[3] Wedi'i mewnosod gan Ddeddf 2002, adran 155(1) o 30 Mawrth 2004 ymlaen (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back
[4] Wedi'i amnewid gan Ddeddf Tai 1996 (p.52), adran 83(2).back
[5] Wedi'i diwygio gan Ddeddf Tai 1996 (p.52), adran 86(2); wedi'i diwygio gan Ddeddf 2002, adran 160(1), (4) o 1 Ionawr 2003 ymlaen; mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[6] O.S. 2004/[681 (Cy.69)].back
[9] 1992 p.4; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adrannau 60 ac Atodlen 6. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10] 1995 p.18; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.back
[12] Gweler adrannau 8 a 9 o Ddeddf Mynediad i Gyfiawnder 1999 (p. 22) i weld darpariaethau yngln â'r Cod Cyllido. Gweler adran 4 o Ran 2 o'r Cod Cyllido i weld y dystysgrif.back
[14] Gweler adran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (p. 21).back