Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040678w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif678 (Cy.66)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
9 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[
1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[
2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fangreoedd yng Nghymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;
ystyr "landlord", ("landlord") mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre[3];
ystyr "mangre RTM" ("RTM premises") yw mangre y mae cwmni RTM yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn cysylltiad â hi[4];
ystyr "trydydd parti" ("third party"), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre heblaw yn landlord neu'n denant[5].
Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan
3.
- (1) Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan[6]) gynnwys (yn ychwanegol at y datganiadau a'r gwahoddiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (2) o adran 78 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan) o Ddeddf 2002), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(a) Rhif cofrestredig y cwmni RTM[7], cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr a'i ysgrifennydd;
(b) enwau'r landlord ac unrhyw drydydd parti;
(c) datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd y cwmni'n gyfrifol am -
(i) cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y les; a
(ii) arfer ei bwerau o dan y les,
o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;
(ch) datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo[8]);
(d) datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, na fydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac arfer ei bwerau o dan y les -
(i) o ran mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys[9]; neu
(ii) ynghylch ailfynediad neu fforffediad;
(dd) datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;
(e) datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985[10]; ac,
(i) os yw'n fwriad o'r fath ganddo, ddatganiad -
(aa) o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os yw'n wybyddus); a
(bb) os yw'n wir, bod y person yn asiant rheoli i'r landlord; neu
(ii) os nad yw'n fwriad o'r fath ganddo, cymwysterau neu brofiad (os oes rhai) aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;
(f) datganiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio[11], y gall person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad;
(ff) datganiad, os nad yw'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad (yn gwahodd i gymryd rhan) yn llwyr ddeall ei ddiben neu ei oblygiadau, sy'n ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; ac
(g) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio
4.
Rhaid i hysbysiad hawlio[12]) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol gan is-adrannau (2) i (7) o adran 80 (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002) -
(a) datganiad bod y person -
(i) nad yw'n dadlau â hawl y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli[13]; a
(ii) sydd yn barti rheolwr o dan gontract rheoli[14] sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio o dan adran 80(6) o Ddeddf 2002,
yn gorfod, yn unol ag adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002, roi hysbysiad mewn perthynas â'r contract i'r person sydd yn barti contractiwr[15] mewn perthynas â'r contract a'r cwmni RTM;
(b) datganiad bod landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi â hawl i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael[16]);
(c) datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb yn unrhyw fanylion sy'n ofynnol gan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir -
(i) nodi'r manylion o dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a
(ii) dangos pam yr ystyrir eu bod yn anghywir;
(ch) datganiad bod y sawl sy'n derbyn yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall ei ddiben, yn cael ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; a
(d) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad
5.
Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (2) o adran 84 (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002) -
Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr
6.
Rhaid i hysbysiad contractiwr[18] gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (d) o is-adran (3) o adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002 ) -
(a) datganiad, pe bai'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo yn dymuno darparu gwasanaethau i'r cwmni RTM y mae, fel y parti contractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr[19] o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad; a
(b) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract
7.
Rhaid i hysbysiad contract[20]) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-adran (7) o adran 92 o Ddeddf 2002) -
(a) cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr[21], o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad;
(b) datganiad, pe bai'r cwmni RTM yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddwyd yn yr hysbysiad; a
(c) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.
Ffurf yr hysbysiadau
8.
- (1) Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(2) Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(3) Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(4) Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(5) Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[22].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
ATODLEN 1Rheoliadau 3(2)(g) ac 8(1)
FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli
At
[enw a chyfeiriad] (
Gweler Nodyn 1 isod))
1.
Mae
[
enw'r cwmni RTM]
("y cwmni"), sy'n gwmni preifat cyfyngedig drwy warant, cyfeiriad
[
cyfeiriad y swyddfa gofrestredig]]
Rhif cofrestredig
[
Rhif o dan Ddeddf Cwmnïau 1985]
wedi ei awdurdodi gan ei femorandwm cymdeithasu i gaffael ac arfer yr hawl i reoli
[
enw'r fangre y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddi]
("y fangre")
2.
Mae'r cwmni yn bwriadu caffael yr hawl i reoli'r fangre.
Naill ai
3.1
Mae memorandwm cymdeithasu'r cwmni, ynghyd â'i erthyglau cymdeithasu, yn dod gyda'r hysbysiad hwn.
Ydyw
Ticiwch os yw hynny'n gywir ac ewch i baragraff 4 (
gweler Nodyn 2 isod)
Neu
3.2
Cewch archwilio memorandwm cymdeithasu'r cwmni, ynghyd â'i erthyglau cymdeithasu, yn unol â'r trefniadau yn y paragraff canlynol.
Cewch. [
Ticiwch os yw'r datganiad uchod yn gymwys a chwblhewch weddill y paragraff 3 hwn.] (
Gweler Nodyn 2)
3.2.1
Yn
[
cyfeiriad ar gyfer yr archwiliad]
3.2.2
rhwng
[
nodwch yr amserau]. (
gweler Nodyn 3 isod)
3.2.3
Ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o saith diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl i'r hysbysiad hwn gael ei roi, gellir archebu copi o'r memorandwm cymdeithasu a'r erthyglau cymdeithasu oddi wrth
[
nodwch y cyfeiriad]
3.2.4
drwy dalu
[
nodwch y ffi]. (
gweler Nodyn 4 isod)
4.
Nodir enwau -
(a) aelodau'r cwmni;
(b) cyfarwyddwyr y cwmni; ac
(c) ysgrifennydd y cwmni,
yn yr Atodlen isod.
5.
Enwau'r landlord a'r person (os o gwbl) sy'n barti i brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre heblaw fel landlord neu denant yw:
[
nodwch]
6.
Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir ym mharagraff 8, os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, bydd y cwmni'n gyfrifol am -
(a) cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y les; a
(b) arfer ei bwerau o dan y les,
o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli.
7.
Yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir ym mharagraff 8(b), os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo. (Gweler Nodyn 5 isod)
8.
Os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, ni fydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac arfer ei bwerau o dan y les -
(a) o ran mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i brydles a gaiff ei dal gan denant cymwys; neu
(b) ynghylch ailfynediad neu fforffediad.
9.
Os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Prydlesi 2002. (Gweler Nodyn 6 isod)
Naill ai
9.1
Mae'r cwmni yn bwriadu penodi asiant rheoli yn yr ystyr sydd i "managing agent" yn adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985. (Gweler Nodyn 7 isod)
Ydyw. Ticiwch os yw'r datganiad uchod yn gymwys. Os ydych yn ticio'r blwch hwn, ewch i baragraff 9.2. Os nad ydych yn ticio'r blwch hwn, ewch i baragraff 9.4.
9.2
Os yw'n hysbys, rhowch enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig isod. Ewch i baragraff 9.3.
[
Enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig]
9.3
Y person a enwir ym mharagraff 9.2 uchod yw'r asiant rheoli ar hyn o bryd.
Ie.
Ticiwch os yw'r datganiad uchod yn gymwys. Ewch i baragraff 10 p'un a yw'r datganiad uchod yn gymwys ai peidio.
Neu
9.4
Nid yw'r cwmni yn bwriadu penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.
Cywir.
Ticiwch os yw'r datganiad uchod yn gymwys. (Gweler Nodyn 7 isod) [Os oes gan unrhyw aelod presennol o'r cwmni gymwysterau neu brofiad mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl, rhowch y manylion ym mharagraff 4 o'r Atodlen isod.]
10.
Os yw'r cwmni yn hysbysu ei hawliad i gaffael yr hawl i reoli'r fangre ("hysbysiad hawlio"), gall berson sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni fod yn atebol am y costau a dynnir gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad hawlio. (
Gweler Nodyn 8 isod)
11.
Gwahoddir chi i ddod yn aelod o'r cwmni. (
Gweler Nodyn 9 isod)
12.
Os nad ydych yn llwyr ddeall diben neu oblygiadau'r hysbysiad hwn, cynghorir chi i geisio cymorth proffesiynol.
ATODLEN
1.
Dyma enwau aelodau'r cwmni::
[
nodwch enwau aelodau'r cwmni ]
2.
Dyma enwau cyfarwyddwyr y cwmni:
[
enwau'r cyfarwyddwyr]
3.
Dyma enw ysgrifennydd y cwmni:
[
enw ysgrifennydd y cwmni]
[
Os yw'n gymwys rhowch yr wybodaeth ganlynol.] (
Gweler paragraff 9.4 uchod)
4.
Mae gan aelod[au] canlynol y cwmni gymwysterau neu brofiad mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl:
(1)
[
Enw'r aelod]
[
y cymhwyster mewn perthynas â rheoli tir ac adeiladau preswyl]
[
Nifer o flynyddoedd o brofiad mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl]
[
cyfeiriad[au] yr eiddo a'r dyddiadau pan gafwyd y profiad]
(2)
[rhowch y manylion priodol gan ddilyn y patrwm uchod yn ôl yr angen]
Llofnodwyd drwy awdurdod y cwmni,
[
Llofnod aelod neu swyddog awdurdodedig]]
[
Rhowch y dyddiad (
Gweler Nodyn 13 isod)]
NODIADAU
1.
Rhaid anfon yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan (hysbysiad yn y ffurf a geir yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 ) at bob person sydd ar yr adeg y rhoddir yr hysbysiad yn denant cymwys fflat yn y fangre ond nad yw eisoes yn aelod o'r cwmni ac nad yw wedi cytuno i fod yn aelod ohono. Diffinnir "qualifying tenant" ("tenant cymwys") yn adran 75 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002").
2.
Rhaid rhoi gyda'r hysbysiad naill ai (a) copi o femorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu'r cwmni RTM neu (b) rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch archwilio a chopïo'r Memorandwm Cymdeithasu ac Erthyglau Cymdeithasu'r cwmni RTM yn rhoi'r wybodaeth a bennir ym mharagraff 3 o'r hysbysiad.
3.
Rhaid i'r amserau a nodir fod yn gyfnodau o 2 awr o leiaf ar bob un o 3 diwrnod o leiaf (gan gynnwys dydd Sadwrn neu ddydd Sul neu'r ddau) o fewn y 7 diwrnod gan ddechrau drannoeth i'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
4.
Rhaid i'r cyfleuster archebu fod ar gael drwy'r cyfnod 7 diwrnod y cyfeirir ato yn Nodyn 3. Rhaid i'r ffi beidio â bod yn fwy na chost resymol darparu'r copi a archebir.
5.
Cyfamod tenant na chafodd ei drosglwyddo yw cyfamod mewn les tenant y mae'n rhaid iddo gydymffurfio ag ef, ond na ellir ei orfodi gan y cwmni ond yn rhinwedd adran 100 o Ddeddf 2002.
6.
Mae'r swyddogaethau'n ymwneud â materion megis rhwymedigaethau trwsio, taliadau gweinyddu a thaliadau gwasanaeth, a'r wybodaeth sydd i'w throsglwyddo i denantiaid. Gellir cael y manylion oddi wrth y cwmni RTM.
7.
Rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad naill ai bod y cwmni RTM yn bwriadu, neu yn ôl y digwydd, nad yw'n bwriadu penodi asiant rheoli o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985; ac -
os yw'n fwriad o'r fath ganddo, ddatganiad -
(aa) o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os yw'n wybyddus); a
(bb) os mai dyna yw'r achos, bod y person yn asiant rheoli i'r landlord; neu
os nad yw'n fwriad o'r fath ganddo, cymwysterau neu brofiad (os o gwbl) aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl.
8.
Os caiff hysbysiad hawlio ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg, neu os bernir iddo gael ei dynnu'n ôl neu os yw'n peidio â bod yn effeithiol mewn ffordd arall, bydd pob person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni yn atebol (ac eithrio yn yr amgylchiadau a grybwyllir ar ddiwedd y nodyn hwn) am y costau rhesymol a dynnwyd gan -
(a) y landlord,
(b) unrhyw berson sy'n barti i brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre heblaw fel landlord neu denant, neu
(c) rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu unrhyw fangre sy'n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre y mae'r hysbysiad hwn yn berthnasol iddi,
o ganlyniad i'r hysbysiad hawlio.
Mae aelod cyfredol neu aelod blaenorol o'r cwmni yn atebol ar y cyd â'r cwmni ac ar y cyd â phob person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni, ac yn unigol. Er hynny, nid yw aelod blaenorol yn atebol os yw wedi aseinio'r les yr oedd yn denant cymwys o'i phlegid i berson arall a bod y person arall hwnnw wedi dod yn aelod o'r cwmni.
9.
Mae gan bob tenant cymwys o fflatiau yn y fangre yr hawl i ddod yn aelodau. Mae gan landlordiaid o dan lesoedd ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre hefyd yr hawl i fod yn aelodau, ond dim ond ar ôl i'r cwmni gaffael yr hawl i reoli. Gellir gwneud cais am aelodaeth yn unol ag erthyglau cymdeithasu'r cwmni, ac os nad ydynt gyda'r hysbysiad hwn, gellir eu harchwilio fel y crybwyllir ym mharagraff 3.2 o'r hysbysiad.
10.
Os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli rhaid iddo adrodd i unrhyw berson sy'n landlord o dan les ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre am unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw gyfamod tenant yn y les oni bai, o fewn cyfnod o dri mis yn dechrau ar y diwrnod y daw'r methiant i gydymffurfio i sylw'r cwmni -
(a) bod y methiant wedi cael ei gywiro,
(b) bod iawndal rhesymol wedi cael ei dalu mewn perthynas â'r methiant, neu
(c) bod y landlord wedi hysbysu'r cwmni nad oes angen iddo adrodd am fethiannau o'r math sydd o dan sylw.
11.
Os yw'r cwmni'n caffael yr hawl i reoli, daw swyddogaethau rheoli person sydd yn barti i les ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre heblaw fel landlord neu denant yn swyddogaethau'r cwmni. Bydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r person hwnnw o dan y les ac arfer ei bwerau o dan y les, o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli. Er hynny, ni fydd y cwmni'n gyfrifol am faterion sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys, neu sy'n ymwneud ag ailfynediad neu fforffediad.
12.
Os yw'r cwmni'n caffael yr hawl i reoli, bydd y cwmni'n gyfrifol am arfer y pwerau ynghylch rhoi cymeradwyaethau i denant o dan les, ond ni fydd yn gyfrifol am arfer y pwerau hynny ynghylch cymeradwyaeth sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys.
13.
Rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau am bob dyddiad - ee byddai 12 Medi 2004 yn 12/9/2004.
ATODLEN 2Rheoliadau 4(d) ac 8(2)
FFURF HYSBYSIAD HAWLIO
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Hawlio
At
1.
Mae
[
enw'r cwmni RTM] (
Gweler Nodyn 1 isod)
("y cwmni"), o
[cyfeiriad y swyddfa gofrestredig]
Rhif cofrestru
[y Rhif o dan Ddeddf Cwmnïau 1985]]
yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002") yn hawlio caffael yr hawl i reoli
[enw'r fangre y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddi]
("y fangre")
2.
Mae'r cwmni'n hawlio bod y fangre yn un y mae Pennod 1 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddi ar y sail a nodir yn is-adran
[nodwch is-adran berthnasol yn adran 72].
(Gweler Nodyn 2 isod)
o adran 72 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac nad yw'r fangre yn fangre sy'n dod o fewn Atodlen 6 o'r Ddeddf honno.
3.
Ceir enwau llawn pob person sydd -
(a) yn denant cymwys fflat sydd yn y fangre, yn ogystal â bod
(b) yn aelod o'r cwmni,a chyfeiriad ei fflat yn Rhan 1 o'r Atodlen isod.
4.
Nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen, mewn perthynas â phob person a enwir yn Rhan 1 o'r Atodlen -
(a) y dyddiad yr ymrwymwyd yn ei brydles,
(b) cyfnod y brydles,
(c) dyddiad cychwyn y cyfnod*
(ch) manylion eraill ei brydles er mwyn gallu ei dynodi.
*dylid anwybyddu (ch) os nad oes angen rhoi manylion eraill.
5.
Os ydych
(a) yn landlord o dan les ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre,
(b) yn barti i les o'r fath heblaw fel landlord neu denant, neu
(c) yn rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu unrhyw fangre sy'n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre,
cewch ymateb i'r hysbysiad hawlio hwn drwy roi gwrth-hysbysiad o dan adran 84 o Ddeddf 2002. Rhaid i wrth-hysbysiad fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004. Rhaid ei roi i'r cwmni, yn y cyfeiriad ym mharagraff 1, ddim hwyrach na
[nodwch y dyddiad heb fod yn gynharach nag un mis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad hawlio (Gweler Nodyn 3 isod)]
Os nad ydych yn llwyr ddeall diben neu oblygiadau'r hysbysiad hwn, cynghorir chi i geisio cymorth proffesiynol.
6.
Mae'r cwmni'n bwriadu caffael yr hawl i reoli'r fangre ar
[nodwch y dyddiad, sydd o leiaf dri mis ar ôl yr un a thatnodir ym mharagraff 5 (Gweler Nodyn 3 isod)].
7.
Os ydych yn berson y mae paragraff 5 yn gymwys iddo ac -
(a) nad ydych yn dadlau â hawl y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli; a
(b) chi yw'r parti rheolwr o dan gontract rheoli sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad hwn,
rhaid i chi, yn unol ag adran 92 (dyletswyddau i hysbysu am gontractau) o Ddeddf 2002, roi hysbysiad mewn perthynas â'r contract i'r person sydd yn barti contractiwr mewn perthynas â'r contract ac i'r cwmni. (Gweler Nodyn 4 isod).
8.
O'r dyddiad pan fydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli'r fangre, mae gan landlordiaid o dan lesoedd ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre yr hawl i fod yn aelodau o'r cwmni (Gweler Nodyn 5 isod).
9.
Nid yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb yn unrhyw fanylion sy'n ofynnol gan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu reoliad 4 o Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004. Os ydych o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir, cewch hysbysu'r cwmni o'r manylion o dan sylw, gan nodi pam yr ydych o'r farn eu bod yn anghywir.
ATODLEN
RHAN
1
Enwau llawn a chyfeiriadau llawn y personau sydd yn denantiaid cymwys yn ogystal â bod yn aelodau o'r cwmni[nodwch yma y manylion sy'n ofynnol gan baragraff 3 uchod]
RHAN
2
Manylion lesoedd y personau a enwir yn Rhan 1 o'r Atodlen hon
[Nodwch yn y tabl hwn y manylion sy'n ofynnol gan baragraff 4 uchod a dilynwch yr un patrwm ar gyfer pob person a enwir yn yr Atodlen]
[Enw'r person y cyfeirir ato yn Rhan 1 o'r Atodlen hon]
[y dyddiad yr ymrwymwyd yn y les (Gweler Nodyn 3 isod)]
[cyfnod o flynyddoedd y les]
[dyddiad cychwyn y cyfnod (Gweler Nodyn 3 isod)]
[y manylion eraill sydd eu hangen mwyn dynodi'r les. Ni ddylid llenwi'r adran hon os yw'n bosibl dynodi'r les oddi wrth weddill yr wybodaeth a roddir yn y tabl hwn]
Llofnodwyd drwy awdurdod y cwmni,
[
Llofnod aelod neu swyddog awdurdodedig]
[
Rhowch y dyddiad (
Gweler Nodyn 3 isod)]
Nodiadau
1.
Rhaid rhoi hysbysiad hawlio (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 o hawliad i arfer yr hawl i reoli mangre penodedig) i bob person sydd, ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad -
(a) yn landlord o dan les ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddi,
(b) yn barti i les o'r fath heblaw fel landlord neu denant, neu
(c) yn rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu unrhyw fangre sy'n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre.
Ond nid oes angen rhoi hysbysiad i berson o'r fath os na ellir dod o hyd iddo, neu os na ellir dynodi pwy ydyw. Os yw hynny'n golygu nad oes neb y gellir rhoi'r hysbysiad iddo, caiff y cwmni wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am orchymyn bod y cwmni i gaffael yr hawl i reoli'r fangre. Yn yr achos hwnnw, bydd y gweithdrefnau a bennir yn adran 85 o Ddeddf 2002 (landlordiaid etc. na ellir eu holrhain) yn gymwys.
2.
Ceir y darpariaethau perthnasol yn adran 72 o Ddeddf 2002 (mangre y mae Pennod 1 yn gymwys iddi). Cynghorir y cwmni i ystyried, yn benodol, Atodlen 6 i Ddeddf 2002 (mangre a eithrir o Bennod 1).
3.
Rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau am bob dyddiad - ee byddai 12 Medi 2004 yn 12/9/2004.
4.
Diffinnir y termau "management contract", "manager party" a "contractor party" yn adran 91(2) o Ddeddf 2002 (hysbysiadau ynghylch contractau rheoli).
5.
Mae gan landlordiaid o dan lesoedd ar y cyfan neu ar unrhyw ran o'r fangre yr hawl i fod yn aelodau o'r cwmni, ond dim ond ar ôl i'r cwmni gaffael yr hawl i reoli. Gellir gwneud cais am aelodaeth yn unol ag erthyglau cymdeithasu'r cwmni, y gellir eu harchwilio yn swyddfa gofrestredig y cwmni, yn ddi-dâl, ar unrhyw adeg resymol.
ATODLEN 3Rheoliadau 5(c) ac 8(3)
FFURF GWRTH-HYSBYSIAD
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Gwrth-hysbysiad
At
[
enw a chyfeiriad] (
Gweler Nodyn 1 isod)
Naill ai
1.1
Yr wyf yn derbyn, ar
[
rhowch y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad hawlio (
Gweler Nodyn 2 isod)],
bod gan
[
rhowch enw'r cwmni a roddodd yr hysbysiad hawlio]
("y cwmni") yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a nodir yn yr hysbysiad..
Ydwyf. Ticiwch os yw'r datganiad uchod yn gymwys ac ewch i baragraff 2. (
Gweler Nodyn 3 isod)
Neu
1.2
Yr wyf yn honni, oherwydd
[
nodwch pa ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yr ydych yn dibynnu arni]
ar
[
rhowch y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad hawlio (
Gweler Nodyn 2 isod)] nad oedd gan
[
rhowch enw'r cwmni a roddodd yr hysbysiad hawlio]
("y cwmni") yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a nodir yn yr hysbysiad hawlio.
Ydwyf. [
Ticiwch os yw'r datganiad ym mharagraff 1.2 yn gymwys] (
gweler Nodyn 3 isod)
2.
Os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, caiff y cwmni gyflwyno cais i dribiwnlys prisio lesddaliad iddo benderfynu bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio (
Gweler Nodyn 4 isod).
3.
Os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, ni chaiff y cwmni yr hawl i reoli'r fangre hynny -
(a) oni phenderfynir yn derfynol ar gais i dribiwnlys prisio lesddaliad bod yr awdurdod gan y cwmni i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu
(b) onid yw'r person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno'n ysgrifenedig fod gan y cwmni yr awdurdod hwnnw. (Gweler Nodyn 5 isod)
Naill ai
Llofnodwyd:
[Llofnod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad hawlio iddo, neu ei asiant.]
[
Dim ond os yw'n gymwys] Asiant awdurdodedig fel y bo'n briodol
[
Llofnod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad hawlio iddo.]
Cyfeiriad:
[Rhowch y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw gyfathrebu yn y dyfodol ynghylch y pwnc hwn]
[
Dyddiad (
Gweler nodyn 2 isod)]
Neu
Llofnodwyd drwy awdurdod y cwmni y rhoddir yr hysbysiad hwn ar ei ran
[
Llofnod aelod neu swyddog awdurdodedig]
Mae'r person a lofnododd uchod yn:
Gyfarwyddwr
Ysgrifennydd Cwmni
Gyfarwyddwr Rheoli
Brif Weithredwr
Aelod neu swyddog awdurdodedig arall
yn y cwmni.
Cyfeiriad
[
Rhowch y cyfeiriad y dylid anfon iddo unrhyw gyfathrebu yn y dyfodol ynghylch y pwnc hwn]
[
Rhowch y dyddiad (
Gweler Nodyn 2 isod)]
NODIADAU
1.
Mae'r gwrth-hysbysiad i'w roi i'r cwmni a roddodd yr hysbysiad hawlio (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 o hawliad i arfer yr hawl i reoli mangre penodedig). Rhoddir enw a chyfeiriad y cwmni yn yr hysbysiad hwnnw.
2.
Rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau am bob dyddiad - ee byddai 12 Medi 2004 yn 12/9/2004.
3.
Rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad naill ai (a) yn derbyn bod gan y cwmni RTM ar y dyddiad perthnasol yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli mangre a bennir yn y hysbysiad hawlio (fel y nodir ym mharagraff 1.1) neu (b) yn honni oherwydd darpariaeth benodol ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Prydlesi 2002 ("Deddf 2002"), nad oedd awdurdod o'r fath gan y cwmni RTM ar y dyddiad hwnnw (fel y nodir ym mharagraff 1.2).
4.
Rhaid gwneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad o fewn cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir y gwrth-hysbysiad (neu, os oes mwy nag un, y gwrth-hysbysiad diwethaf).
5.
I weld pryd y penderfynir cais yn derfynol, gweler adran 84(7) ac (8) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
ATODLEN 4Rheoliad 6(b) ac 8(4)
FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Contractiwr
At
[
enw a chyfeiriad] (
Gweler Nodyn 1 isod))
1.
Rhoddir yr hysbysiad hwn mewn perthynas â chontract rheoli, y rhoddir manylion amdano yn yr Atodlen i'r hysbysiad hwn ("y contract") (
Gweler Nodyn 2 isod)
2.
Mae'r hawl i reoli
[
rhowch gyfeiriad y fangre y mae'r cwmni RTM i gaffael yr hawl i'w rheoli]
(Gweler Nodyn 3 isod)
("y fangre") i'w gaffael gan
[
rhowch enw'r cwmni RTM]
("y cwmni").
3.
Swyddfa gofrestredig y cwmni yw
[
cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni RTM]
4.
Dyddiad caffael yr hawl i reoli'r fangre gan y cwmni yw
[
y dyddiad caffael (
Gweler Nodyn 4 isod)]
5.
Os ydych yn dymuno darparu i'r cwmni wasanaethau yr ydych fel y parti contractiwr the wedi eu darparu i'r parti rheolwr o dan y contract cynghorir chi i gysylltu â'r cwmni yn y cyfeiriad a roddir ym mharagraff 2 uchod. (
Gweler Nodyn 1 isod)
Naill ai
Llofnodwyd:
[
llofnod ar ran y cwmni]
Swyddog awdurdodedig fel y bo'n briodol: :
[
enw'r cwmni sy'n rhoi'r hysbysiad]
Dyddiad (
Gweler Nodyn 4 isod):
Neu
Llofnodwyd:
[
llofnod]
Gan neu ar ran
[
enw'r person/endid sy'n rhoi'r hysbysiad hwn]
Dyddiad (
Gweler Nodyn 4 isod):
ATODLENRhowch isod y manylion sy'n ofynnol gan baragraff 1 uchod
Enw'r contract fel y nodir ef yn y dogfennau contract:
Mangre y mae'r contract yn berthnasol iddi:
Partïon i'r contract:
Dyddiad y contract (
Gweler Nodyn 4 isod)]
Cyfnod y contract:
blwyddyn a
mis
Unrhyw fanylion angenrheidiol eraill i ddynodi'r contract y rhoddir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef:
[Ni ddylid llenwi'r adran hon ond os yw'r manylion uchod yn ddigonol i adnabod y contract o dan sylw]
NODIADAU
1.
Mae'r hysbysiad contractiwr (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004) ("Rheoliadau 2004") yn berthnasol pan fo'r hawl i reoli mangre penodedig i'w gaffael gan gwmni Hawl i Reoli o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad ("Deddf 2002"). Rhaid i'r hysbysiad contractiwr gael ei anfon gan y parti rheolwr at y parti contractiwr mewn perthynas â chontract rheoli sydd eisoes yn bodoli ynghylch y fangre. Ceir y diffiniad o "existing management contract" ("contract rheoli sydd eisoes yn bodoli") yn adran 91(3) o Ddeddf 2002. Ceir y diffiniad o "manager party" ("parti rheolwr") a "contractor party" ("parti contractiwr") yn adran 91(2) o Ddeddf 2002. Mae adran 92(2) o Ddeddf 2002 yn nodi'r amser pan fo'n rhaid rhoi hysbysiadau o'r fath.
2.
Os ydych yn barti i is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli gyda pherson arall rhaid i chi (a) anfon copi o'r hysbysiad contractiwr at y parti arall i'r is-gontract a (b) rhoi hysbysiad contract i'r cwmni (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i Reoliadau 2004) mewn perthynas â'r is-gontract sydd eisoes yn bodoli yn unol ag adran 92(4) o Ddeddf 2002.
Mae adran 92(5) o Ddeddf 2002 yn diffinio is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli. Mae adran 92(6) o Ddeddf 2002 yn nodi'r amser pan fo'n rhaid rhoi hysbysiadau o'r fath.
3.
Y cwmni RTM yw'r cwmni sydd i gaffael yr hawl i reoli mangre yn unol â rhan 2 o Bennod 1 o Ddeddf 2002.
4.
Rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau am bob dyddiad - ee byddai 12 Medi 2004 yn 12/9/2004.
ATODLEN 5Rheoliad 7(c) ac 8(5)
FFURF HYSBYSIAD CONTRACT
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Contract
At
[
enw a chyfeiriad y cwmni RTM] (
Gweler Nodyn 1 isod)
("y cwmni")
1.
Rhoddir yr hysbysiad hwn mewn perthynas â'r contract, y rhoddir manylion amdano yn yr Atodlen i'r hysbysiad hwn ("y contract"). (
Gweler Nodyn 2 isod)
2.
Pe bai'r cwmni yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, wedi eu darparu i'r parti rheolwr o dan y contract, fe'i cynghorir i gysylltu â'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr
yn
[
y cyfeiriad lle y dylid cysylltu â'r person/endid sy'n rhoi'r hysbysiad hwn]
Naill ai
Llofnodwyd:
[
llofnod ar ran y cwmni]
Swyddog awdurdodedig priodol:
[
enw'r cwmni sy'n rhoi'r hysbysiad]
Dyddiad (
Gweler Nodyn 3 isod):
Neu
Llofnodwyd:
[
llofnod]
Gan neu ar ran
[
enw'r person neu'r endid sy'n rhoi'r hysbysiad hwn]
Dyddiad (
Gweler Nodyn 3 isod):
ATODLENRhowch y manylion sy'n ofynnol gan baragraff 1 uchod
Enw'r contract:
Y partïon i'r contract (
Gweler Nodyn 4 isod):
(1)
[
y parti contractiwr (neu parti is-gontractiwr)]
(2)
[y parti rheolwr]
Cyfeiriad y parti contractiwr (neu'r parti is-gontractiwr) o dan y contract:
Dyddiad y contract: (
Gweler Nodyn 3 isod)]
Cyfnod y contract:
o flynyddoedd a
mis.
NODIADAU
1.
Mae'r hysbysiad contract (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i Reoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004) yn berthnasol pan fo'r hawl i reoli mangre penodedig i'w gaffael gan gwmni Hawl i Reoli ("cwmni RTM") o dan Ran 2 o Bennod 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002"). Rhaid i'r person sy'n barti rheolwr mewn perthynas â chontract rheoli sydd eisoes yn bodoli roi i'r cwmni RTM hysbysiad contract yn unol ag adran 92(1) o Ddeddf 2002. Rhaid i'r person sy'n derbyn hysbysiad contractiwr ac sydd hefyd yn barti i is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli roi hefyd i'r cwmni RTM hysbysiad contract yn unol ag adran 92(4) o Ddeddf 2002.
Diffinnir "existing management contract" ("contract rheoli sydd eisoes yn bodoli") yn adran 91(3) o Ddeddf 2002. Diffinnir is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli "existing management sub-contract" yn adran 92(5) o Ddeddf 2002.
2.
Nodir yr amser ar gyfer rhoi'r hysbysiad contract yn adran 92(2) a 92(6) o Ddeddf 2002.
3.
Rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau am bob dyddiad - ee byddai 12 Medi 2004 yn 12/9/2004.
4.
Diffinnir "contractor party" ("parti contractiwr") a "manager party" ("parti rheoli") yn adran 91(2) o Ddeddf 2002 a diffinnir "sub-contractor party" ("parti is-gontractiwr") yn adran 92(4) o'r Ddeddf honno.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn atodol i Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesaddaliad 2002 ("y Ddeddf"). Mae'r Bennod honno'n darparu ar gyfer caffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangre y mae'r Bennod yn gymwys iddi gan gwmni a allai, yn unol â'r Bennod honno, gaffael ac arfer yr hawliau hynny ("cwmni RTM").
Cyn y gall cwmni RTM gaffael yr hawl i reoli mangre, rhaid iddo roi hysbysiad ("hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan") i denantiaid y fflatiau hynny sydd yn y fangre sydd yn "denantiaid cymwys" (gweler adran 75 o'r Ddeddf) o'i fwriad i gaffael yr hawl. Rhaid i'r hysbysiad wahodd y rhai sy'n ei dderbyn i ddod yn aelodau o'r cwmni RTM. Mae Rheoliad 3, y mae Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 78 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.
Cyn gynted ag y mae cwmni RTM wedi rhoi hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan, caiff wneud hawliad i gaffael yr hawl i reoli. Mae'n ofynnol i'r hawliad gael ei wneud drwy hysbysiad ("hysbysiad hawlio"), a roddir i bob person -
(a) sy'n landlord o dan les o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi,
(b) sy'n barti i les o'r fath heblaw fel landlord neu denant, neu
(c) sy'n rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu unrhyw fangre sy'n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre.
Mae Rheoliad 4, y mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 80 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.
Caiff person sy'n derbyn hysbysiad hawlio ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad i'r cwmni RTM, y caiff hawliad y cwmni RTM naill ai ei addef neu ei wrthwynebu ynddo. Mae Rheoliad 5, y mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 84 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.
Os yw person sydd â hawl i dderbyn hysbysiad hawlio hefyd yn barti i gontract y mae'r parti arall i'r contract yn cytuno i ddarparu gwasanaethau odano, neu wneud pethau eraill odano, mewn cysylltiad ag unrhyw fater ynghylch swyddogaeth a fydd yn swyddogaeth y cwmni RTM cyn gynted ag y bydd yn caffael yr hawl i reoli'r fangre, rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r parti arall i'r contract ("hysbysiad contractiwr") a'r cwmni RTM ("hysbysiad contract"). Mae Rheoliadau 6 a 7 (y mae Atodlenni 4 a 5 i'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn ôl eu trefn) yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 92 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiadau contractiwr a'r hysbysiadau contract, yn ôl eu trefn.
Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi ffurf y gwahoddiadau i gymryd rhan, yr hysbysiadau hawlio, y gwrth-hysbysiadau, yr hysbysiadau contractiwr a'r hysbysiadau contract.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Cyfarwyddiaeth Dai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathys, Caerdydd CF10 3NQ (Ffôn 029 2082 3025).
Notes:
[1]
2002 p.15. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr awdurdod cenedlaethol priodol. Diffinnir "the appropriate national authority" yn adran 179(1) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr. Gweler adran 178(3) mewn cysylltiad â'r pwer i wneud Rheoliadauback
[2]
1993 p.38. Mae swyddogaethau'r Gweinidog o dan adran 26 o Ddeddf 1993 yn arferadwy yn gydredol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd ag unrhyw Weinidog y Goron sy'n eu harfer, yn rhinwedd y cofnod mewn perthynas â Deddf 1993 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38).back
[3]
O ran y diffinaid o "landlord" gweler adran 112, (3) a (5) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. I gael diffiniad o "lease" gweler adran 112(2) o'r Ddeddf honno.back
[4]
I gael y diffiniad o "RTM Company" gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Gweler adran 72 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddlaid 2002 er mwyn y mangreoedd y mae'r hawl i reoli yn gymwys iddynt.back
[5]
O ran y diffiniad o "tenant" gweler adran 112(2) a (3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[6]
Gweler adran 78(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[7]
Gweler adran 705(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (p.6). Amnewidiwyd adran 705 gan Ddeddf Cwmnïau 1989 (p.40), Atodlen 19, paragraff14.back
[8]
Er mwyn "untransferred tenant covenants" ("cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo") gweler adran 100(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[9]
O ran y mangre y mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Cyfraith Diwygio a Lesddaliad 2002 yn gymwys, gweler adran 72 (ac Atodlen 6). ). I gael diffiniad o "flat" ("fflat") ac "unit" ("uned") gweler adran 112(1). I gael diffiniad o "lease" ("les") gweler adran 112(2). I gael diffiniad o "qualifying tenant" ("tenant cymwys"), gweler adrannau 75 a 112(4) a (5).back
[10]
1985 p.70. Mewnosodwyd adran 30B gan Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p.31), adran 44.back
[11]
I gael diffiniad o "claim notice" ("hysbysiad hawlio") gweler adran 79(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[12]
Gweler adran 79(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[13]
O ran yr amgylchiadau lle nad oes dadl am yr hawl, gweler adran 90(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith a Lesddaliad 2002.back
[14]
I gael y diffiniad o "manager party" gweler adran 91(2) a 4 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Er mwyn "management contract" gweler adran 91(2) o'r Ddeddf honno.back
[15]
Er mwyn "contractor party" gweler adran 91(2)(b) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[16]
Gweler adrannau 74(1)(b) a 90 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002back
[17]
Gweler adran 84(7) ac 8 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[18]
Gweler adran 92(1)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[19]
I gael y diffiniad o "manager party" gweler adran 91(2)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith a Lesddaliad 2002.back
[20]
Gweler adran 92(1)(b) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[21]
Er mwyn "sub-contractor party" gweler adran 92(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[22]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090898 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
18 March 2004
|