Wedi'u gwneud | 9 Mawrth 2004 | ||
Yn dod i rym | 31 Mawrth 2004 |
ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau, wrth ac ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, fel pe baent yn cynnwys y darpariaethau hynny a nodir yn yr Atodlenni sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion hynny (boed yn ychwanegol at y cynnwys gwreiddiol neu yn lle'r cynnwys gwreiddiol yn ôl yr amgylchiadau).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
5.
Defnyddir incwm y Cwmni, o ba le bynnag y deillia, yn unig er mwyn hybu amcanion y Cwmni, ac eithrio pan gaiff y Cwmni ei ddirwyn i ben, ni ddosrennir i'w aelodau mewn arian neu fel arall.
6.
Mae atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig.
7.
Mae pob aelod o'r Cwmni yn ymrwymo i gyfrannu y swm sy'n ofynnol, heb fod yn fwy na £1, at asedau'r Cwmni os caiff y Cwmni ei ddirwyn i ben tra bydd yn aelod, neu o fewn blwyddyn ar ôl iddo beidio â bod yn aelod, ar gyfer talu dyledion a rhwymedigaethau'r Cwmni a gontractiwyd cyn iddo beidio â bod yn aelod, a chostau, taliadau, a threuliau dirwyn y Cwmni i ben, ac ar gyfer addasu hawliau'r cyfranwyr ymysg ei gilydd.
8.
Os bydd, pan gaiff y Cwmni ei ddirwyn i ben, unrhyw arian dros ben ar ôl bodloni ei holl ddyledion a rhwymedigaethau, telir neu dyrennir yr arian dros ben ymysg aelodau'r Cwmni.
9.
Yn y Memorandwm hwn, mae cyfeiriad at Ddeddf yn cynnwys unrhyw addasiad statudol neu ailddeddfiad o'r Ddeddf sydd am y tro mewn grym.
Yr ydym ni sy'n danysgrifwyr i'r memorandwm cymdeithasu hwn yn dymuno cael ein ffurfio'n gwmni yn unol â'r memorandwm hwn.
Enwau a chyfeiriadau'r tanysgrifwyr:
Dyddiedig:
Tyst i'r llofnodion uchod:
Enw'r tyst:
Cyfeiriad y tyst:
2.
Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion a geir yn yr erthyglau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf Cwmnïau.
3.
Yn yr erthyglau hyn, mae cyfeiriad at Ddeddf yn cynnwys unrhyw addasiad statudol neu ailddeddfiad o'r Ddeddf sydd am y tro mewn grym.
AELODAU
4.
Yn ddarostyngedig i'r erthyglau canlynol, y tanysgrifwyr i Femorandwm Cymdeithasu'r Cwmni, a'r personau eraill hynny a gaiff eu derbyn yn aelodau yn unol â'r erthyglau hyn fydd aelodau'r Cwmni. Ni ellir trosglwyddo aelodaeth o'r Cwmni.
5.
Ni chaiff neb ei dderbyn yn aelod o'r Cwmni onid yw'r person hwnnw, boed ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill -
6.
Bernir bod person, ynghyd â rhywun arall neu rywrai eraill, i'w farnu fel cyd-denant cymwys o fflat, neu fel cyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, pan gaiff ei dderbyn, yn gyd-aelod o'r Cwmni mewn perthynas â'r fflat neu'r les honno (yn ôl y digwydd).
7.
Rhaid i bob person sydd â'r hawl i fod, ac sy'n dymuno dod yn aelod o'r Cwmni, gyflwyno cais am aelodaeth i'r Cwmni wedi'i gyflawni ganddo yn y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu ffurf a gaiff ei chymeradwyo gan y cyfarwyddwyr) -
I Fwrdd [enw'r Cwmni]
Yr wyf i, [enw]
o [cyfeiriad]
yn denant cymwys o [cyfeiriad y fflat] ac yn dymuno dod yn aelod o [enw'r Cwmni] yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu'r Cwmni ac i unrhyw Reolau a wnaed o dan yr Erthyglau hynny. Yr wyf yn cytuno talu i'r Cwmni swm hyd at £1 os caiff y Cwmni ei ddirwyn i ben tra byddaf yn aelod neu hyd at 12 mis ar ôl i mi beidio â bod yn aelod.
Llofnodwyd: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Dyddiedig: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
8.
Rhaid i geisiadau am aelodaeth gan bersonau sydd i'w barnu fel rhai sy'n gyd-denant cymwys fflat, neu sy'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu unrhyw rhan o'r Fangre, roi enwau a chyfeiriad pawb arall sydd â buddiant ar y cyd â hwy, ac ym mha drefn y maent yn dymuno ymddangos ar gofrestr yr aelodau mewn perthynas â'r cyfryw fflat neu les (yn ôl y digwydd).
9.
Rhaid i'r cyfarwyddwyr, pan fyddant yn fodlon ar gais y person a'i hawl i aelodaeth, gofrestru'r cyfryw berson yn aelod o'r Cwmni.
10.
Wrth i'r Cwmni ddod yn gwmni RTM mewn perthynas â'r Fangre, bydd unrhyw danysgrifiwr i'r Memorandwm Cymdeithasu nad yw hefyd yn bodloni'r gofynion ar gyfer aelodaeth a nodir yn erthygl 5 uchod yn peidio â bod yn aelod o'r Cwmni ar unwaith. Bydd unrhyw aelod nad yw ar unrhyw adeg yn bodloni'r gofynion hynny hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r Cwmni ar unwaith.
11.
Os bydd aelod (neu gyd-aelod) yn marw neu'n mynd yn fethdalwr, bydd gan ei gynrychiolwyr personol neu ymddiriedolwyr mewn methdaliad yr hawl i'w cofrestru yn aelod (neu gyd-aelod yn ôl y digwydd) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r Cwmni.
12.
Caiff aelod dynnu allan o'r Cwmni a thrwy hynny beidio â bod yn aelod drwy hysbysu'r Cwmni'n ysgrifenedig o leiaf saith diwrnod clir ymlaen llaw. Ni fydd hysbysiad o'r fath yn effeithiol os rhoddir ef yn y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r Cwmni'n cyflwyno hysbysiad o'i hawliad i gaffael yr hawl i reoli'r Fangre ac yn diweddu ar y dyddiad sydd naill ai -
13.
Os bydd, am unrhyw reswm -
bydd y personau hynny, onid oes ganddynt hawl fel arall i fod yn aelodau o'r Cwmni o achos eu buddiant mewn rhyw fflat neu les arall, hefyd yn peidio â bod yn aelodau o'r Cwmni ar unwaith. Er hynny, bydd gan y personau hynny yr hawl i ailgeisio am aelodaeth yn unol ag erthyglau 7 i 9.
CYFARFODYDD CYFFREDINOL
14.
Gelwir pob cyfarfod cyffredinol, heblaw cyfarfodydd cyffredinol blynyddol, yn gyfarfodydd cyffredinol eithriadol.
15.
Caiff y cyfarwyddwyr alw cyfarfodydd cyffredinol ac, ar gais aelodau yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, rhaid iddynt fynd rhagddynt yn ddiymdroi (a beth bynnag o fewn un diwrnod ar hugain) i gynnull cyfarfod cyffredinol eithriadol ar ddyddiad na fydd y fwy nag wyth diwrnod ar hugain ar ôl dyddiad yr hysbysiad sy'n cynnull y cyfarfod. Os nad oes digon o gyfarwyddwyr o fewn y Deyrnas Unedig i alw cyfarfod cyffredinol, caiff unrhyw gyfarwyddwr neu unrhyw aelod o'r Cwmni alw cyfarfod cyffredinol.
16.
Rhaid cynnal pob cyfarfod cyffredinol yn y Fangre neu mewn lleoliad addas arall gerllaw'r Fangre ac o fewn cyrraedd rhesymol i'r holl aelodau.
HYSBYSIAD O GYFARFODYDD CYFFREDINOL
17.
Rhaid galw cyfarfod cyffredinol blynyddol a chyfarfod cyffredinol eithriadol ar gyfer pasio penderfyniad arbennig neu basio penderfyniad yn penodi person yn gyfarwyddwr drwy hysbysiad o leiaf un diwrnod ar hugain clir ymlaen llaw. Rhaid galw pob cyfarfod cyffredinol eithriadol arall drwy hysbysiad o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg clir ymlaen llaw ond ceir galw cyfarfod cyffredinol drwy hysbysiad am gyfnod byrrach os cytunir ar hynny -
18.
Rhaid i'r hysbysiad bennu amser a lle'r cyfarfod ac, yn achos cyfarfod cyffredinol blynyddol, pennu mai cyfarfod felly ydyw.
19.
Rhaid i'r hysbysiad hefyd gynnwys neu amgáu datganiad ac esboniad o natur gyffredinol y busnes sydd i'w drafod yn y cyfarfod.
20.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthyglau hyn, rhaid rhoi'r hysbysiad i'r holl aelodau a'r cyfarwyddwyr a'r archwilwyr.
21.
Ni fydd methiant damweiniol i hysbysu cyfarfod i unrhyw berson sydd â hawl i gael ei hysbysu, neu os na ddaw hysbysiad o gyfarfod i law'r cyfryw berson, yn annilysu'r trafodion yn y cyfarfod hwnnw.
TRAFODION MEWN CYFARFODYDD CYFFREDINOL
22.
Ni thrafodir unrhyw fusnes mewn unrhyw gyfarfod cyffredinol oni chafodd ei gynnwys yn yr hysbysiad i gynnull y cyfarfod yn unol ag erthygl 19.
23.
Ni thrafodir unrhyw fusnes mewn unrhyw gyfarfod cyffredinol oni fydd cworwm yn bresennol. Y cworwm ar gyfer y cyfarfod fydd 20% o aelodau'r Cwmni sydd â hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i'w drafod, neu ddau aelod o'r Cwmni â'r hawl hwnnw (pa un bynnag yw'r mwyaf) sy'n bresennol yn bersonol neu drwy ddirprwy.
24.
Os nad oes cworwm o'r fath yn bresennol o fewn hanner awr o'r amser a benodwyd ar gyfer y cyfarfod, neu os bydd cworwm o'r fath yn peidio â bod yn bresennol yn ystod y cyfarfod, caiff y cyfarfod ei ohirio i'r un diwrnod yn yr wythnos ganlynol ar yr un amser ac yn yr un lle neu i'r amser a'r lle y caiff y cyfarwyddwyr benderfynu arno.
25.
Rhaid i gadeirydd y bwrdd cyfarwyddwyr, os oes un, neu yn ei absenoldeb rhyw gyfarwyddwr arall a enwebir gan y cyfarwyddwyr, lywyddu fel cadeirydd y cyfarfod, ond os nad yw'r cadeirydd na'r cyfarwyddwr arall hwnnw (os oes un) yn bresennol o fewn pymtheg munud ar ôl yr amser a benodwyd i gynnal y cyfarfod ac yn barod i weithredu, rhaid i'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol ethol un o'u plith i fod yn gadeirydd ac, os mai un cyfarwyddwr yn unig sy'n bresennol ac yn barod i weithredu, y cyfarwyddwr hwnnw fydd y cadeirydd.
26.
Os nad oes unrhyw gyfarwyddwr yn barod i weithredu fel cadeirydd, neu os nad oes unrhyw gyfarwyddwr yn bresennol o fewn pymtheg munud ar ôl yr amser a benodwyd ar gyfer cynnal y cyfarfod, rhaid i'r aelodau sy'n bresennol â hawl i bleidleisio ddewis un o'u plith i fod yn gadeirydd.
27.
Bydd gan gyfarwyddwr, boed yn aelod neu beidio, yr hawl i fod yn bresennol, siarad a chynnig (ond, yn ddarostyngedig i erthygl 33, ddim i bleidleisio) ar benderfyniad mewn unrhyw gyfarfod cyffredinol o'r Cwmni.
28.
Caiff y cadeirydd, gyda chydsyniad y cyfarfod lle mae cworwm yn bresennol (a rhaid iddo os cyfarwyddir ef gan y cyfarfod), ohirio'r cyfarfod o dro i dro ac o le i le, ond ni thrafodir unrhyw fusnes mewn cyfarfod a ohiriwyd heblaw busnes y gellid yn briodol fod wedi ei drafod yn y cyfarfod pe na bai'r gohiriad wedi digwydd. Pan gaiff cyfarfod ei ohirio am bedwar diwrnod ar ddeg neu fwy, rhaid rhoi o leiaf saith diwrnod clir o hysbysiad yn pennu'r amser a lle'r cyfarfod a ohiriwyd a natur gyffredinol y busnes sydd i'w drafod. Neu fel arall ni fydd angen rhoi hysbysiad o'r fath.
29.
Pan bleidleisir ar benderfyniad mewn cyfarfod, penderfynir arno drwy ddangos dwylo oni hawlir pôl yn briodol naill ai cyn, neu ar gyhoeddiad, canlyniad y dangos dwylo. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, gellir hawlio pôl -
a bydd hawliad gan berson sydd yn ddirprwy i aelod yr un fath â hawliad gan yr aelod.
30.
Oni hawlir pôl yn briodol, bydd datganiad gan y cadeirydd bod penderfyniad wedi cael ei gario neu ei gario'n unfrydol, neu drwy fwyafrif penodol, neu wedi'i golli, neu heb ei gario gan fwyafrif penodol a bydd cofnod i'r perwyl hwnnw yng nghofnodion y cyfarfod yn dystiolaeth derfynol o'r ffaith heb brawf o nifer neu gyfran y pleidleisiau a gofnodwyd o blaid neu yn erbyn y penderfyniad.
31.
Gall hawliad am bôl, cyn pleidleisio, gael ei dynnu'n ôl ond gyda chydsyniad y cadeirydd yn unig a bernir na fydd hawliad a dynnir yn ôl yn gwneud y canlyniad wrth ddangos dwylo cyn i'r hawliad gael ei wneud, yn annilys.
32.
Caiff pôl ei gynnal yn ôl cyfarwyddyd y cadeirydd a chaiff benodi pobl i graffu (nad ydynt o anghenraid yn aelodau) a threfnu amser a lle i ddatgan canlyniad y pôl. Bernir mai penderfyniad y cyfarfod yr hawliwyd pôl ynddo fydd canlyniad y pôl.
33.
Os bydd y pleidleisiau'n gyfartal, boed drwy ddangos dwylo neu drwy bôl, bydd gan y cadeirydd hawl i bleidlais fwrw yn ychwanegol at unrhyw bleidlais arall a all fod ganddo.
34.
Os hawlir pôl ar ethol cadeirydd neu ar ohirio rhaid ei chymryd ar unwaith. Rhaid cymryd pôl a hawlir ar unrhyw gwestiwn arall naill ai ar unwaith neu ar yr amser ac yn y lle yn ôl cyfarwyddyd y cadeirydd, heb fod yn fwy na deg diwrnod ar hugain ar ôl hawlio'r bôl. Ni fydd yr hawliad am bôl yn rhwystro'r cyfarfod rhag parhau i drafod unrhyw fusnes heblaw'r cwestiwn yr hawliwyd pôl arno. Os hawlir pôl cyn datgan canlyniad ar ôl dangos dwylo a bod yr hawliad yn cael ei dynnu'n ôl yn briodol, bydd y cyfarfod yn parhau fel pe bai'r hawliad heb gael ei wneud.
35.
Nid oes angen hysbysu pôl nas cymerir ar unwaith os cyhoeddir amser a lle pan gaiff ei chymryd yn y cyfarfod yr hawlir hi ynddo. Mewn unrhyw achos arall rhaid rhoi hysbysiad sydd o leiaf yn saith diwrnod clir o flaen llaw yn pennu'r amser a'r lle pan gymerir y pôl.
36.
Bydd penderfyniad ysgrifenedig a gyflawnir gan neu ar ran pob aelod y byddai ganddo hawl i bleidleisio arno pe bai wedi cael ei gynnig mewn cyfarfod cyffredinol yr oedd yn bresennol ynddo lawn mor effeithiol â phe bai wedi ei basio mewn cyfarfod cyffredinol wedi'i gynnull a'i gynnal yn briodol a gall ei fod yn cynnwys nifer o offerynnau ar ffurf debyg a phob offeryn wedi'i gyflawni gan neu ar ran un neu fwy o'r aelodau.
PLEIDLEISIAU'R AELODAU
37.
Wrth ddangos dwylo bydd gan bob aelod (sef unigolyn) sydd yn bresennol yn bersonol neu (os yw'n gorfforaeth) yn bresennol drwy gynrychiolydd wedi'i awdurdodi'n briodol, nad yw ei hunan yn aelod â hawl i bleidleisio, un bleidlais ac mewn pôl, bydd gan bob aelod y nifer o bleidleisiau a benderfynir yn unol ag erthyglau 38 to 40.
38.
Os nad oes landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre sy'n aelodau o'r Cwmni, yna bydd un bleidlais ar gael i'w bwrw mewn perthynas â phob fflat yn y Fangre. Caiff y bleidlais ei bwrw gan yr aelod sy'n denant cymwys y fflat.
39.
Ar unrhyw adeg pan fydd unrhyw landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw rhan o'r Fangre sydd yn aelodau o'r Cwmni, penderfynir ar y pleidleisiau sydd ar gael i'w bwrw fel a ganlyn -
40.
Yn achos personau y bernir eu bod yn gydaelodau o'r Cwmni, caiff unrhyw berson o'r fath arfer yr hawl i bleidleisio y mae gan yr aelodau hynny hawl ar y cyd iddynt, ond os bydd mwy nag un person o'r fath yn cyflwyno pleidlais, boed yn bersonol neu drwy ddirprwy, caiff pleidlais y blaenaf ei derbyn tra gwaherddir pleidleisiau'r lleill, a rhoddir y flaenoriaeth yn ôl y drefn y mae enwau'r personau hynny'n ymddangos yn y gofrestr aelodau mewn perthynas â'r fflat neu'r les (yn ôl y digwydd) y mae ganddynt fuddiant ynddi.
41.
Rhaid i'r Cwmni gadw cofrestr yn dangos hawliau priodol pob un o'i aelodau i bleidleisio mewn pôl mewn unrhyw gyfarfod Cwmni.
42.
Rhaid cyfeirio unrhyw wrthwynebiad i gymhwyster unrhyw bleidleisiwr neu gyfrifiant nifer y pleidleisiau y mae ganddo hawl iddynt a godir mewn amser priodol mewn cyfarfod neu gyfarfod a ohiriwyd i gadeirydd y cyfarfod, a bydd ei benderfyniad, at bob diben sy'n ymwneud â'r cyfarfod hwnnw neu gyfarfod a ohiriwyd, yn derfynol a phendant. Yn ddarostyngedig i hynny, rhaid cyfeirio unrhyw anghydfod rhwng unrhyw aelod a'r Cwmni neu unrhyw aelod arall, sy'n deillio o gontract aelodaeth yr aelod ac sy'n ymwneud â mesurau arwynebedd llawr, i'w benderfynu gan syrfëwr siartredig annibynnol wedi'i ddethol drwy gytundeb rhwng y partïon neu, os na cheir cytundeb, gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Bydd y syrfëwr siartredig annibynnol hwnnw, wrth benderfynu ar fesuriadau yr arwynebedd llawr o dan sylw, yn gweithredu fel arbenigwr ac nid fel cymrodeddwr a bydd ei benderfyniad yn derfynol a phendant. Bydd y Cwmni'n gyfrifol i'r cyfryw syrfëwr am dalu ei ffioedd a'i dreuliau, ond bydd gan y syrfëwr y pwer, yn llwyr yn ôl ei ddisgresiwn, i gyfarwyddo yr ad-delir rhywfaint neu'r cyfan o'r ffioedd a'r treuliau hynny gan yr aelod(au) o dan sylw i'r Cwmni, a phan ddigwydd hynny rhaid i'r aelod(au) dalu'r arian i'r Cwmni ar unwaith.
43.
Caiff aelod y gwnaed gorchymyn gan unrhyw lys sydd ag awdurdodaeth (boed yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall) mewn materion ynghylch salwch meddwl mewn perthynas ag ef, bleidleisio boed drwy ddangos dwylo neu bôl, drwy ei dderbynnydd, curator bonis neu rywun arall, a awdurdodwyd yn y cyswllt hwnnw a benodwyd gan y llys hwnnw, a chaiff unrhyw dderbynnydd, curator bonis neu berson arall o'r fath, mewn pôl, bleidleisio drwy ddirprwy. Rhaid adneuo tystiolaeth sy'n bodloni'r cyfarwyddwyr o awdurdod y person sy'n honni arfer yr hawl i bleidleisio yn y swyddfa gofrestredig, neu mewn lle arall a bennir yn unol â'r erthyglau hyn ar gyfer adneuo offerynnau drwy ddirprwy, ddim llai na 48 awr cyn yr amser a benodwyd i gynnal y cyfarfod neu gyfarfod a ohiriwyd lle mae'r hawl i bleidleisio i'w harfer ac yn niffyg hynny ni fydd yr hawl i bleidleisio yn arferadwy.
44.
Mewn pôl gellir pleidleisio naill ai yn bersonol neu drwy ddirprwy. Caiff aelod benodi mwy nag un dirprwy i fod yn bresennol ar yr un achlysur.
45.
Rhaid i offeryn sy'n penodi dirprwy fod yn ysgrifenedig, a rhaid ei gyflawni gan neu ar ran y penodwr a rhaid iddo fod ar y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu ffurf y bydd y cyfarwyddwyr yn ei chymeradwyo) -
[Enw'r Cwmni]
Mae [enw'r aelod(au)], o [cyfeiriad], sef aelod/aelodau o'r Cwmni a enwir uchod, drwy hyn yn penodi [enw] o[cyfeiriad],
neu os nad ef neu hi, [enw] o [cyfeiriad], yn ddirprwy i mi/ni i bleidleisio yn fy enw/ein henw ac ar fy rhan/ar ein rhan yng nghyfarfod cyffredinolblynyddol/eithriadol y Cwmni sydd i'w gynnal ar [dyddiad] ac yn unrhyw ohiriad o'r cyfarfod
Llofnodwyd ar: [dyddiad]
46.
Os dymunir rhoi'r cyfle i aelodau i gyfarwyddo'r dirprwy sut y mae i weithredu, rhaid i'r offeryn sy'n penodi'r dirprwy fod ar y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu ffurf y bydd y cyfarwyddwyr yn ei chymeradwyo) -
[Enw'r Cwmni]
Mae [enw'r aelod(au)], o [cyfeiriad], sef aelod/aelodau o'r Cwmni a enwir uchod, drwy hyn yn penodi [enw] o [cyfeiriad], neu os nad ef neu hi, [enw] o [cyfeiriad], yn ddirprwy i mi/ni i bleidleisio yn fy enw/ein henw ac ar fy rhan/ar ein rhan yng nghyfarfod cyffredinol/ blynyddol/eithriadol y Cwmni sydd i'w gynnal ar [dyddiad], ac yn unrhyw ohiriad o'r cyfarfod. Mae'r ffurflen hon i'w defnyddio mewn perthynas â'r penderfyniadau a grybwyllir isod fel a ganlyn:
Penderfyniad Rhif .1:[dros][yn erbyn]
Penderfyniad Rhif .2 :[dros][yn erbyn]
[Dileer yr un nad oes ei angen]
Oni chyfarwyddir yn wahanol, caiff y dirprwy bleidleisio fel y gwêl orau neu ymatal rhag pleidleisio.
Llofnodwyd ar:[dyddiad]
47.
Caiff yr offeryn sy'n penodi dirprwy ac unrhyw awdurdod y cyflawnir ef odano neu gopi o awdurdod o'r fath wedi'i ardystio gan notari neu mewn modd arall a gymeradwywyd gan y cyfarwyddwyr -
gyrraedd y cyfeiriad hwnnw ddim llai na 48 awr cyn cynnal y cyfarfod neu'r cyfarfod a ohiriwyd y mae'r person a enwir yn y penodiad yn bwriadu pleidleisio ynddo;
(c) yn achos pôl a gymerir fwy na 48 awr ar ôl ei hawlio, ei adneuo neu ei derbyn fel y crybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) ar ôl hawlio'r pôl a dim llai na 24 awr cyn yr amser a benodwyd i gymryd y pôl; neu
(ch) os na chymerir y pôl ar unwaith ond ei bod yn cael ei chymryd dim mwy na 48 awr ar ôl ei hawlio, caniateir ei draddodi yn y cyfarfod yr hawliwyd y pôl ynddi i'r cadeirydd neu'r ysgrifennydd neu i unrhyw gyfarwyddwr;
a bydd offeryn dirprwyo na chafodd ei adneuo, ei draddodi neu ei dderbyn mewn modd a ganiateir gan yr erthygl hon yn annilys.
48.
Bydd pleidlais a fwrir neu pôl a hawlir drwy ddirprwy neu gan gynrychiolydd awdurdodedig priodol corfforaeth yn ddilys er gwaethaf terfynu ymlaen llaw awdurdod y person sy'n pleidleisio neu'n hawlio pôl oni ddaeth hysbysiad o'r terfyniad i law'r Cwmni yn y swyddfa gofrestredig neu yn rhywle arall yr adneuwyd yr offeryn dirprwyo yn briodol neu, os penodwyd dirprwy mewn cyfathrebiad electronig, yn y cyfeiriad lle derbyniwyd y penodiad yn briodol cyn dechrau'r cyfarfod neu'r cyfarfod a ohiriwyd pan gymerir y bleidlais neu yr hawlir pôl ynddo neu (yn achos pôl a gymerir heb fod ar yr un diwrnod â'r cyfarfod neu'r cyfarfod a ohiriwyd) yr amser a benodwyd ar gyfer cymryd y pôl.
CYMHWYSTER Y CYFARWYDDWYR
49.
Nid oes angen i gyfarwyddwr fod yn aelod o'r Cwmni.
NIFER Y CYFARWYDDWYR
50.
Oni phenderfynir fel arall drwy benderfyniad cyffredin, ni fydd nifer y cyfarwyddwyr (heblaw cyfarwyddwyr dirprwyol) yn ddarostyngedig i unrhyw fwyafswm ond ni fydd llai na dau ohonynt.
PENODI A SYMUD CYFARWYDDWYR
51.
Yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf, rhaid i bob cyfarwyddwr ymddeol o'i swydd, ac ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol wedyn rhaid i draean y cyfarwyddwyr sydd i ymddeol drwy gylchdro neu, os nad yw eu nifer yn dri neu'n luosrif o dri, rhaid i'r nifer sydd agosaf at un traean ymddeol o'u swydd; ond os un cyfarwyddwr yn unig sydd i ymddeol drwy gylchdro, rhaid iddo ymddeol.
52.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, y cyfarwyddwyr sydd i ymddeol drwy gylchdro fydd y rhai a fu hiraf yn y swydd ers eu penodiad neu eu hailbenodiad diwethaf, ond o ran personau a ddaeth neu a ailbenodwyd ddiwethaf yn gyfarwyddwyr ar yr un diwrnod y rhai i ymddeol fydd (oni fyddant fel arall yn cytuno ymhlith ei gilydd) y rhai a benderfynir drwy fwrw coelbren.
53.
Os na fydd y Cwmni, yn y cyfarfod pan fydd cyfarwyddwr yn ymddeol drwy gylchdro, yn llenwi'r swydd wag, bernir y bydd y cyfarwyddwr sy'n ymddeol, os yw'n barod i weithredu, wedi'i ailbenodi oni phenderfynir yn y cyfarfod na lenwir y swydd wag neu oni chaiff penderfyniad i ailbenodi'r cyfarwyddwr ei gyflwyno i'r cyfarfod a'i golli.
54.
Ni chaiff person heblaw cyfarwyddwr sy'n ymddeol drwy gylchdro ei benodi neu'i ailbenodi yn gyfarwyddwr mewn unrhyw gyfarfod cyffredinol oni bai -
55.
Dim llai na saith a dim mwy na dau ddeg wyth diwrnod clir cyn y dyddiad a benodwyd i gynnal cyfarfod cyffredinol, rhaid hysbysu pawb sydd â hawl i dderbyn hysbysiad o'r cyfarfod am unrhyw berson a argymhellir gan y cyfarwyddwyr i'w benodi neu ei ailbenodi'n gyfarwyddwr yn y cyfarfod neu y rhoddwyd hysbysiad yn briodol i'r Cwmni mewn perthynas ag ef o'r bwriad i'w gynnig ef yn y cyfarfod i'w benodi neu ei ailbenodi'n gyfarwyddwr. Rhaid i'r hysbysiad roi manylion y person hwnnw y byddai angen eu cynnwys yng nghofrestr cyfarwyddwyr y Cwmni pe byddai'n cael ei benodi neu ei ailbenodi.
56.
Yn ddarostyngedig i erthyglau 51 i 55, caiff y Cwmni drwy benderfyniad cyffredin benodi person sy'n barod i weithredu yn gyfarwyddwr naill ai i lenwi swydd wag, neu'n gyfarwyddwr ychwanegol a chaiff benderfynu ar y cylchdro y mae unrhyw gyfarwyddwyr ychwanegol i ymddeol ynddo.
57.
Caiff y cyfarwyddwyr benodi person sy'n barod i weithredu yn gyfarwyddwr naill ai i lenwi swydd wag, neu'n gyfarwyddwr ychwanegol, ar yr amod nad yw'r penodiad yn peri i nifer y cyfarwyddwyr fod yn fwy na unrhyw nifer a bennwyd gan yr erthyglau fel mwyafswm nifer y cyfarwyddwyr neu yn unol â hwy. Bydd cyfarwyddwr a benodir yn y dull hwnnw yn dal ei swydd tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf yn unig. Os na chaiff ei ailbenodi yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol hwnnw, bydd yn ymadael â'i swydd ar ddiwedd y cyfarfod.
58.
Yn ddarostyngedig i'r erthyglau hyn, ceir ailbenodi cyfarwyddwr sy'n ymddeol mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol, os yw'n barod i weithredu. Os na chaiff ei ailbenodi, bydd yn dal ei swydd nes bod y cyfarfod yn penodi rhywun yn ei le, neu os na wneir hynny, tan ddiwedd y cyfarfod.
CYFARWYDDWYR DIRPRWYOL
59.
Caiff unrhyw gyfarwyddwr (heblaw cyfarwyddwyr dirprwyol) benodi unrhyw gyfarwyddwr arall, neu unrhyw berson arall a gymeradwywyd drwy benderfyniad y cyfarwyddwyr ac sy'n barod i weithredu, yn gyfarwyddwyr dirprwyol a chaiff symud o'i swydd gyfarwyddwyr dirprwyol a benodwyd ganddo yn y modd hwnnw.
60.
Bydd gan y cyfarwyddwyr dirprwyol yr hawl i dderbyn hysbysiad am bob cyfarfod cyfarwyddwyr a phob cyfarfod pwyllgor y cyfarwyddwyr y mae ei benodwr yn aelod ohono, i fod yn bresennol ac i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o'r fath lle nad yw'r cyfarwyddwr a'i penododd yn bresennol yn bersonol ac yn gyffredinol yr hawl i gyflawni holl swyddogaethau ei benodwr fel cyfarwyddwr yn ei absenoldeb ond ni fydd ganddo'r hawl i gael unrhyw dâl gan y Cwmni am ei wasanaeth fel cyfarwyddwyr dirprwyol. Ni fydd angen rhoi hysbysiad o gyfarfod o'r fath i gyfarwyddwyr dirprwyol sy'n absennol o'r Deyrnas Unedig onid yw wedi rhoi cyfeiriad i'r Cwmni y gellir anfon hysbysiadau iddo drwy ddefnyddio cyfathrebu electronig.
61.
Bydd cyfarwyddwr dirprwyol yn peidio â bod yn gyfarwyddwr dirprwyol os bydd ei benodwr yn peidio â bod yn gyfarwyddwr. Os bydd cyfarwyddwr yn ymddeol ond yn cael ei ailbenodi neu os bernir ei fod yn cael ei ailbenodi yn y cyfarfod pan fydd yn ymddeol, bydd unrhyw benodiad o gyfarwyddwyr dirprwyol a wnaed ganddo a oedd mewn grym yn union cyn iddo ymddeol yn parhau ar ôl ei ailbenodiad.
62.
Rhaid i unrhyw benodiad neu symud cyfarwyddwr dirprwyol fod drwy hysbysiad i'r Cwmni wedi'i lofnodi gan y cyfarwyddwr sy'n gwneud neu'n dirymu'r penodiad neu mewn unrhyw fodd arall a gymeradwyir gan y cyfarwyddwyr.
63.
Oni ddarperir fel arall yn yr erthyglau hyn, bernir bod cyfarwyddwr dirprwyol i bob diben yn gyfarwyddwr ac ef yn unig fydd yn gyfrifol am ei weithredoedd a'i fethiannau ac ni fernir ei fod yn asiant i'r cyfarwyddwr a'i penododd.
DATGYMHWYSO A SYMUD CYFARWYDDWYR
64.
Rhaid i gyfarwyddwr ymadael â'i swydd -
(ch) os bu'n aelod o'r Cwmni, mae'n peidio â bod yn aelod o'r Cwmni; neu
(d) os yw'n ymddiswyddo o swydd cyfarwyddwr drwy hysbysu'r Cwmni; neu
(dd) os bydd yn absennol am fwy na chwe mis yn olynol heb ganiatâd y cyfarwyddwyr o gyfarfodydd y cyfarwyddwyr a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwnnw a bod y cyfarwyddwyr yn penderfynu y dylid ymadael â swydd y cyfarwyddwr.
PWERAU'R CYFARWYDDWYR
65.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, y memorandwm a'r erthyglau hyn ac i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir drwy benderfyniad arbennig, rhaid i fusnes y Cwmni gael ei reoli gan y cyfarwyddwyr a gaiff arfer holl bwerau'r Cwmni. Ni fydd addasiad o'r memorandwm neu'r erthyglau na chyfarwyddyd o'r fath yn annilysu unrhyw weithred flaenorol gan y cyfarwyddwyr a fyddai wedi bod yn ddilys pe na bai'r addasiad hwnnw wedi'i wneud neu pe na bai'r cyfarwyddyd wedi'i roi. Ni chaiff y pwerau a roddir gan yr erthygl hon eu cyfyngu gan unrhyw bwer arbennig a roddir i'r cyfarwyddwyr gan yr erthyglau hyn a chaiff cyfarfod o'r cyfarwyddwyr pan fydd cworwm yn bresennol arfer yr holl bwerau sy'n arferadwy gan y cyfarwyddwyr.
66.
Caiff y cyfarwyddwyr, drwy ber atwrnai neu fel arall, benodi unrhyw berson yn asiant i'r Cwmni at y dibenion hynny ac o dan yr amodau hynny y cânt benderfynu arnynt, gan gynnwys awdurdod i'r asiant ddirprwyo ei holl bwerau neu unrhyw rai ohonynt.
DIRPRWYO PWERAU'R CYFARWYDDWYR
67.
Caiff y cyfarwyddwyr ddirprwyo unrhyw rai o'u pwerau i unrhyw bwyllgor sy'n cynnwys un cyfarwyddwr neu fwy, aelodau o'r Cwmni ac eraill fel y gwelant orau. Rhaid i fwyafrif aelodau unrhyw bwyllgor o'r fath o dro i dro fod yn aelodau o'r Cwmni. Caiff y cyfarwyddwyr hefyd ddirprwyo i unrhyw gyfarwyddwr rheoli, neu i unrhyw gyfarwyddwr sy'n dal unrhyw swydd weithredol arall, y pwerau hynny y maent yn ystyried eu bod yn ddymunol i'w harfer ganddo. Ceir gwneud unrhyw ddirprwyo o'r fath yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y caiff y cyfarwyddwyr eu gosod, a naill ai'n gyfochrog â'u pwerau eu hunain neu drwy eu heithrio a cheir eu dirymu neu eu newid. Yn ddarostyngedig i unrhyw amodau o'r fath, llywodraethir trafodion pwyllgor o ddau aelod neu fwy gan yr erthyglau sy'n rheoli trafodion cyfarwyddwyr i'r graddau y gallant fod yn gymwys.
TÂL CYFARWYDDWYR
68.
Oni cheir cydsyniad y Cwmni mewn cyfarfod cyffredinol, ni fydd gan y cyfarwyddwyr yr hawl i unrhyw dâl. Rhaid i unrhyw benderfyniad sy'n rhoi cydsyniad o'r fath bennu swm y tâl i'w dalu i'r cyfarwyddwyr, ac oni fydd y penderfyniad yn darparu fel arall, bernir y bydd y tâl yn cronni o ddydd i ddydd.
TREULIAU'R CYFARWYDDWYR
69.
Ceir talu i'r cyfarwyddwyr yr holl dreuliau a dynnir ganddynt yn briodol mewn cysylltiad â'u presenoldeb yng nghyfarfodydd y cyfarwyddwyr neu bwyllgor cyfarwyddwyr neu gyfarfodydd cyffredinol y Cwmni neu fel arall mewn cysylltiad â chyflawni eu dyletswyddau.
PENODIADAU A BUDDIANNAU'R CYFARWYDDWYR
70.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, ac ar yr amod bod telerau unrhyw benodiad, cytundeb neu drefniant o'r fath wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw gan y Cwmni, caiff y cyfarwyddwyr benodi un neu fwy o'u plith i swydd cyfarwyddwr rheoli neu i unrhyw swydd weithredol arall o dan y Cwmni a chaiff ymrwymo mewn cytundeb neu drefniant gydag unrhyw gyfarwyddwr er mwyn ei gyflogi gan y Cwmni neu er mwyn iddo ddarparu unrhyw wasanaethau y tu allan i ystod dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwr. Rhaid i unrhyw benodiad cyfarwyddwr i swydd weithredol ddod i ben os bydd yn peidio â bod yn gyfarwyddwr ond heb ragfarnu unrhyw hawliad am iawndal am dorri contract gwasanaeth rhwng y cyfarwyddwr a'r Cwmni.
71.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, ac ar yr amod ei fod wedi datgelu i'r cyfarwyddwyr natur a chwmpas unrhyw fuddiant perthnasol ganddo, er gwaethaf ei swydd -
72.
At ddibenion erthygl 71 -
ARIAN RHODD A PHENSIYNAU CYFARWYDDWYR
73.
Caiff y cyfarwyddwyr ddarparu buddion, boed drwy dalu arian rhodd neu bensiynau neu drwy yswiriant neu fel arall, i unrhyw gyfarwyddwr sydd wedi dal ond nad yw bellach yn dal unrhyw swydd weithredol neu gyflogaeth gyda'r Cwmni neu gydag unrhyw gorff corfforaethol sydd neu a fu'n is-gwmni i'r Cwmni, ac i unrhyw aelod o'i deulu (gan gynnwys priod a chyn-briod) neu unrhyw berson sydd neu a fu'n ddibynnydd arno, a chânt (cyn ac ar ôl iddo beidio â dal swydd neu gyflogaeth o'r fath) gyfrannu at unrhyw gronfa a thalu premiymau i brynu neu ddarparu buddion o'r fath.
TRAFODION Y CYFARWYDDWYR
74.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthyglau hyn, caiff y cyfarwyddwyr reoli eu trafodion fel y gwelant orau. Caiff cyfarwyddwr, a rhaid i'r ysgrifennydd ar gais cyfarwyddwr, alw cyfarfod cyfarwyddwyr. Ni fydd angen rhoi hysbysiad o gyfarfod i gyfarwyddwyr sy'n absennol o'r Deyrnas Unedig onid yw wedi rhoi cyfeiriad i'r Cwmni y gellir anfon hysbysiadau iddo drwy ddefnyddio cyfathrebu electronig. Penderfynir ar gwestiynau sy'n codi mewn cyfarfod drwy fwyafrif pleidleisiau. Yn achos pleidleisiau cyfartal, bydd gan y cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw. Bydd gan gyfarwyddwr sydd hefyd yn gyfarwyddwyr dirprwyol yr hawl yn absenoldeb ei benodwr i bleidlais ar wahân ar ran ei benodwr yn ychwanegol at ei bleidlais ei hun.
75.
Caiff y cyfarwyddwyr bennu'r cworwm ar gyfer trafod busnes y cyfarwyddwyr ac, oni phennir ef ar nifer uwch, rhaid iddo fod naill ai 50% o nifer y cyfarwyddwyr a benodwyd am y tro, neu ddau, p'un bynnag yw'r mwyaf ohonynt. Cyfrifir person sy'n dal swydd fel cyfarwyddwr dirprwyol yn unig, os nad yw ei benodwr yn bresennol, yn y cworwm. Cyfrifir person sy'n dal swydd fel cyfarwyddwr a chyfarwyddwr dirprwyol ar yr un pryd unwaith yn unig yn y cworwm.
76.
Caiff y cyfarwyddwyr sy'n parhau neu'r unig gyfarwyddwr sy'n parhau weithredu er gwaethaf unrhyw swyddi gwag yn eu plith, ond, os yw nifer y cyfarwyddwyr yn llai na'r nifer a bennwyd fel cworwm, caiff y cyfarwyddwr sy'n parhau weithredu ond at ddibenion llenwi swyddi gwag neu alw cyfarfod cyffredinol.
77.
Caiff y cyfarwyddwyr benodi un o'u plith yn gadeirydd bwrdd y cyfarwyddwyr a chânt ar unrhyw adeg ei symud o'r swydd honno. Onid yw'n amharod i wneud hynny, bydd y cyfarwyddwr a benodwyd felly yn llywyddu ym mhob cyfarfod cyfarwyddwyr y bydd yn bresennol ynddo. Ond os nad oes cyfarwyddwr yn dal y swydd honno, neu os nad yw'r cyfarwyddwr sy'n ei dal yn barod i lywyddu neu os nad yw'n bresennol o fewn pymtheg munud ar ôl yr adeg a bennwyd ar gyfer y cyfarfod, caiff y cyfarwyddwyr sy'n bresennol benodi un o'u plith yn gadeirydd y cyfarfod.
78.
Bydd pob gweithred a wneir gan gyfarfod cyfarwyddwyr, neu bwyllgor cyfarwyddwyr, neu gan berson sy'n gweithredu fel cyfarwyddwr, er darganfod wedyn bod yna ddiffyg yn y penodiad o unrhyw gyfarwyddwr neu fod unrhyw rai ohonynt wedi'u datgymhwyso rhag dal swydd, neu wedi ymadael â'r swydd, neu nad oedd ganddynt yr hawl i bleidleisio, mor ddilys a phe bai pob person o'r fath wedi'i benodi'n briodol ac yn gymwys ac wedi parhau i fod yn gyfarwyddwr a bod ganddo hawl i bleidleisio.
79.
Bydd penderfyniad ysgrifenedig a lofnodwyd gan yr holl gyfarwyddwyr sydd â hawl i dderbyn hysbysiad o gyfarfod cyfarwyddwyr neu o bwyllgor cyfarwyddwyr mor ddilys ac effeithiol a phe bai wedi cael ei basio gan gyfarfod cyfarwyddwyr neu (yn ôl y digwydd) gan bwyllgor cyfarwyddwyr a gafodd ei gynnull a'i gynnal yn briodol a gall gynnwys nifer o ddogfennau ar ffurf debyg a phob un wedi'i llofnodi gan un cyfarwyddwr neu fwy; ond ni fydd angen hefyd i benderfyniad a lofnodwyd gan gyfarwyddwr dirprwyol gael ei lofnodi hefyd gan ei benodwr ac, os llofnodwyd ef gan gyfarwyddwr sydd wedi penodi cyfarwyddwr dirprwyol, ni fydd angen ei lofnodi gan y cyfarwyddwr dirprwyol yn y swyddogaeth honno.
80.
Ni chaiff cyfarwyddwr nad yw'n aelod o'r Cwmni bleidleisio mewn cyfarfod cyfarwyddwyr neu bwyllgor cyfarwyddwyr ar unrhyw benderfyniad ynghylch mater y mae ganddo, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fuddiant neu ddyletswydd sy'n berthnasol ac sy'n gwrthdaro neu a allai wrthdaro â buddiannau'r Cwmni. At ddibenion yr erthygl hon, ymdrinnir â buddiant person sydd, at unrhyw ddibenion o'r Ddeddf Cwmnïau, yn gysylltiedig â chyfarwyddwr fel buddiant y cyfarwyddwr ac, mewn perthynas â chyfarwyddwr dirprwyol, ymdrinnir â buddiant ei benodwr yn fuddiant y cyfarwyddwr dirprwyol heb ragfarnu unrhyw fuddiant sydd gan y cyfarwyddwr dirprwyol fel arall. Ni chyfrifir cyfarwyddwr yn y cworwm sy'n bresennol mewn cyfarfod mewn perthynas â phenderfyniad nad oes ganddo hawl i bleidleisio arno.
81.
Caiff cyfarwyddwr sy'n aelod o'r Cwmni bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod cyfarwyddwyr neu unrhyw bwyllgor cyfarwyddwyr y mae'n aelod ohono er ei fod ynghylch neu'n ymwneud â mater y mae ganddo fuddiant o unrhyw fath ynddo, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ac os yw'n pleidleisio ar y penderfyniad hwnnw, cyfrifir ei bleidlais; ac, mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad o'r fath, caiff ei ystyried (os yw'n pleidleisio arno neu beidio) wrth gyfrifo'r cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod.
82.
Os bydd cwestiwn yn codi mewn cyfarfod cyfarwyddwyr neu bwyllgor cyfarwyddwyr ar hawl cyfarwyddwr i bleidleisio, gellir cyfeirio'r cwestiwn, cyn i'r cyfarfod ddod i ben, at gadeirydd y cyfarfod a bydd ei ddyfarniad mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwr heblaw ef ei hun yn derfynol a phendant.
YSGRIFENNYDD
83.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, rhaid i'r cyfarwyddwyr benodi'r ysgrifennydd ar y telerau, am y tâl ac ar yr amodau y gwelant orau; a chânt symud unrhyw ysgrifennydd a benodwyd felly ganddynt. Caiff yr ysgrifennydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cwmni.
COFNODION
84.
Rhaid i'r cyfarwyddwyr drefnu bod cofnodion yn cael eu cadw mewn llyfrau at y diben -
DIM DOSBARTHU ELW
85.
Ac eithrio mewn achos o ddirwyn i ben, ni chaiff y Cwmni wneud unrhyw ddosbarthiad i'w aelodau o'i elw neu asedau, boed mewn arian neu fel arall.
DIRWYN I BEN
86.
Os caiff y Cwmni ei ddirwyn i ben, caiff y diddymwr, gyda chaniatâd penderfyniad eithriadol y Cwmni ac unrhyw ganiatâd arall sy'n ofynnol gan y Ddeddf Cwmnïau, rannu rhwng yr aelodau y cyfan neu unrhyw ran o asedau'r Cwmni a chaiff, i'r diben hwnnw, roi pris ar unrhyw asedau a phenderfynu sut i gyflawni'r rhannu rhwng yr aelodau neu ddosbarthiadau gwahanol o aelodau. Caiff y diddymwr, gyda chaniatâd o'r un fath, freinio'r cyfan neu unrhyw ran o'r asedau mewn ymddiriedolwyr ar yr ymddiriedolaethau hynny er budd yr aelodau y gall, gyda chaniatâd o'r un fath, benderfynu arnynt ond ni ellir gorfodi unrhyw aelod i dderbyn unrhyw ased â rhwymedigaeth arno.
ARCHWILIO A CHOPÏO LLYFRAU A CHOFNODION
87.
Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddwyd drwy statud a heb ei rhanddirymu bydd gan unrhyw aelod yr hawl, wrth roi hysbysiad rhesymol, ar yr adeg a'r lle sy'n gyfleus i'r Cwmni, i archwilio, a chael copi o, unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu'r Cwmni, wrth dalu unrhyw dâl rhesymol am y copïo. Bydd hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad gan y Cwmni mewn cyfarfod cyffredinol, ac, yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu y mae'r cyfarwyddwyr yn rhesymol yn ystyried eu bod yn cynnwys deunydd cyfrinachol, y byddai eu datgelu'n groes i fuddiannau'r Cwmni, yn ddarostyngedig i hepgor neu dorri deunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith fod hepgor neu doriad wedi digwydd), ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau rhesymol arall y bydd y cyfarwyddwyr yn eu gosod.
HYSBYSIADAU
88.
Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w roi i unrhyw berson neu gan unrhyw berson yn unol â'r erthyglau hyn fod yn ysgrifenedig neu drwy ddefnyddio cyfathrebu electronig i gyfeiriad a wnaed yn hysbys am y tro at y diben hwnnw i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad. Nid oes raid i hysbysiad sy'n galw cyfarfod cyfarwyddwyr fod yn ysgrifenedig neu drwy ddefnyddio cyfathrebu electronig os nad oes amser digonol i roi hysbysiad o'r fath o gofio brys y busnes sydd i'w gynnal yn y cyfarfod.
89.
Caiff y Cwmni roi unrhyw hysbysiad i aelod naill ai yn bersonol neu drwy ei anfon drwy'r post dosbarth cyntaf mewn amlen a dalwyd o flaen llaw a'i chyfeirio at yr aelod yn ei gyfeiriad cofrestredig neu drwy ei adael yn y cyfeiriad hwnnw neu drwy ei roi drwy ddefnyddio cyfathrebu electronig yn unol ag unrhyw un o'r dulliau a ddisgrifir yn is-adran (4A) - (4D) o adran 369 o'r Ddeddf Cwmnïau. Bydd hawl gan aelod nad yw ei gyfeiriad cofrestredig o fewn y Deyrnas Unedig ac sy'n rhoi cyfeiriad o fewn y Deyrnas Unedig i'r Cwmni lle gellir rhoi hysbysiadau iddo, neu gyfeiriad y gellir anfon hysbysiadau drwy gyfathrebu electronig iddo, i dderbyn hysbysiadau a roddir iddo yn y cyfeiriad hwnnw, ond fel arall ni fydd gan unrhyw aelod o'r fath yr hawl i dderbyn unrhyw hysbysiad oddi wrth y Cwmni.
90.
Bernir bod aelod sy'n bresennol, naill ai yn bersonol neu drwy ddirprwy, mewn unrhyw gyfarfod o'r Cwmni wedi derbyn hysbysiad o'r cyfarfod a, lle bo angen, y dibenion dros ei alw.
91.
Bydd prawf bod yr amlen sy'n cynnwys hysbysiad wedi'i chyfeirio'n briodol, y talwyd amdani o flaen llaw a'i phostio drwy'r dosbarth cyntaf yn dystiolaeth derfynol bod yr hysbysiad wedi cael ei roi. Bydd prawf bod hysbysiad mewn cyfathrebiad electronig wedi'i anfon yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Sefydliad yr Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig yn dystiolaeth derfynol bod yr hysbysiad wedi cael ei roi.
92.
Bernir bod hysbysiad a anfonwyd drwy'r dosbarth cyntaf wedi'i roi ar ddiwedd 48 awr ar ôl postio'r amlen a oedd yn ei gynnwys. Bernir bod hysbysiad mewn cyfathrebiad electronig a anfonwyd yn unol ag adran 369(4A) o'r Ddeddf Cwmnïau wedi'i roi ar ddiwedd 48 awr ar ôl yr amser yr anfonwyd ef. Bernir bod hysbysiad mewn cyfathrebiad electronig a roddwyd yn unol ag adran 369(4B) o'r Ddeddf Cwmnïau wedi'i roi pan ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi'i roi yn unol â'r is-adran honno.
INDEMNIAD
93.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau, ac yn benodol adran 310 o'r Ddeddf honno -
94.
Bydd y per gan y cyfarwyddwyr i brynu a chynnal ar gyfer unrhyw gyfarwyddwr, swyddog neu archwiliwr y Cwmni, yswiriant yn erbyn unrhyw atebolrwydd o'r fath y cyfeirir ato yn adran 310(1) o'r Ddeddf Cwmnïau.
RHEOLAU NEU FÂN DDEDDFAU
95.
Caiff y cyfarwyddwyr o dro i dro wneud y rheolau neu'r mân ddeddfau hynny y maent o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus neu'n gyfleus ar gyfer rhedeg a rheoli'r Cwmni'n briodol. Ni fydd unrhyw rai o'r rheolau neu'r mân ddeddfau hynny'n anghyson â'r Memorandwm a'r erthyglau hyn, ac yn benodol (ond heb ragfarnu pwerau cyffredinol y cyfarwyddwyr), reoleiddio -
96.
Bydd gan y Cwmni mewn cyfarfod cyffredinol y per i newid, diddymu neu ychwanegu unrhyw reolau neu fân ddeddfau o'r fath a rhaid i'r cyfarwyddwyr ddefnyddio'r dulliau y maent yn barnu eu bod yn ddigonol i ddwyn unrhyw reolau neu fân ddeddfau o'r fath i sylw aelodau'r Cwmni, a thra byddant yn dal mewn grym byddant yn rhwymo aelodau'r Cwmni.
[Cwblhewch y canhynol mewn perthynas â phob aelod:]
Enw: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cyfeiriad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Llofnod: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Tyst: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Enw'r tyst:dotfill;
Cyfeiriad y tyst: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Dyddiad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[3] 2002 p.15. I gael y diffiniad o "the appropriate national authority" gweler adran 179(1).back
[4] I gael y diffiniad o "RTM company" gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[5] I weld pa fangreoedd sy'n berthnasol i gwmnïau RTM, gweler adran 72 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlen 6 iddi.back
[7] Gweler y Ddeddf Gwmnïau 1985 adrannau 2(1) a (2) a 710Bback
[8] 2000 p.7. Gweler adran 15 o'r Ddeddf honno.back