British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040549w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif549 (Cy.53)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
2 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
5 Mawrth 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wybodaeth am ddisgyblion unigol sy'n ymwneud â disgyblion mewn ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yng Nghymru.
(3) Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 1999[
3].
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "arholiadau TAG Safon Uwch" ("GCE "A" level examinations") ac "arholiadau TAG Uwch Gyfrannol" ("GCE "AS" examinations") yw arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol safon uwch ac arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch Gyfrannol yn eu trefn;
ystyr "cydlynydd gwybodaeth" ("information collator") yw cydlynydd gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef, unrhyw gorff sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Cynulliad yn ymwneud ag addysg, yn gyfrifol am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion;
ystyr "cyfnod allweddol" ("key stage") yw unrhyw rai o'r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn eu trefn o adran 103(1) o Ddeddf Addysg 2002[4] ac mae cyfeiriad at gyfnod allweddol un, dau neu dri yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn eu trefn ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o adran 103(1) a enwyd eisoes;
ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
ystyr "gwybodaeth am ddisgyblion unigol" ("individual pupil information") yw gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef, gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion unigol neu gyn-ddisgyblion (mewn ysgolion, heblaw ysgolion meithrin, yng Nghymru) ac sy'n eu henwi, os cafwyd yr wybodaeth o dan adran 537A(1) o Ddeddf 1996 neu fel arall; ac
ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.
Personau Rhagnodedig
3.
- (1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae'r Cynulliad yn rhagnodi fel person y caiff y Cynulliad roi unrhyw wybodaeth am ddisgyblion unigol iddo unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (4) isod.
(2) At ddibenion adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, mae'r Cynulliad yn rhagnodi fel person y caiff cydlynydd gwybodaeth roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddo fel a ganlyn -
(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (5) isod; a
(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod.
(3) Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caiff cydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol -
(a) unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri;
(b) unrhyw bynciau TGAU;
(c) unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch;
(ch) unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol;
(d) unrhyw bynciau GNVQ; ac
(dd) unrhyw gwrs astudio a ddarperir i ddisgyblion mewn oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad neu gan gorff a ddynodwyd gan y Cynulliad o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[5] (heblaw cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).
(4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw -
(a) Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty's Chief Inspector of Education and Training in Wales; a
(b) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.
(5) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) uchod yw -
(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol na chynhelir mohoni felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi, lle y cofrestrir neu lle y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno;
(b) Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty's Chief Inspector of Education and Training in Wales; ac
(c) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.
(6) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 1999.
Maent yn rhagnodi i ba bersonau y gellir rhoi "gwybodaeth am ddisgyblion unigol" o dan adran 537A(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 (rheoliad 3).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi pa wybodaeth am ddisgyblion unigol y gellir ei rhoi gan "gydlynwyr gwybodaeth". Gan gymhwyso'r diffiniad o gydlynydd gwybodaeth yn adran 537A(9) i Gymru, cydlynydd gwybodaeth yw unrhyw gorff sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfrifol am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion. Mae'r wybodaeth y cânt ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â chyflawniad addysgol disgyblion yn unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri, unrhyw bynciau TGAU, unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch, unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol, unrhyw bynciau GNVQ ac unrhyw gwrs astudio a roddir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (rheoliad 3(3)).
Notes:
[1]
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/1781.back
[4]
2002 p.32.back
[5]
2000 p.21.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090875 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
9 March 2004
|