British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio)(Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040392w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif392 (Cy.40)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio)(Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
16 Chwefror 2004 | |
|
Yn dod i rym |
17 Chwefror 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2004.
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
2.
- (1) Caiff Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[
3] eu newid yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(a) yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") rhodder y diffiniad canlynol -
"
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis;"; a
(b) yn lle'r diffiniad o "tsilis poeth a chynnyrtsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products") rhodder y diffiniad canlynol -
"
ystyr "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth"("hot chilli and hot chilli products") yw -
(a) ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan God CN 09042090; a
(b) powdwr cyrri sy'n dod o dan God CN 091050;".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Chwefror 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis ("y Penderfyniad newydd"). Diddymwyd Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth (OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114) gan y Penderfyniad newydd.
Dyma'r gwahaniaethau rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC -
(a) mewn perthynas â phowdwr cyrri, mae'r Penderfyniad newydd yn ymestyn y mesurau brys a nodwyd eisoes ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC mewn cysylltiad â tsilis sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu eu malu. Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy.238) (rheoliad 2(2)(b)) ddiffiniad diwygiedig o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products"); a
(b) mae'r Penderfyniad newydd yn diwygio'r amodau ar gyfer mewnforio tsilis a chynhyrchion tsilis drwy ddarparu y gwaherddir mewnforio onid yw'r adroddiad dadansoddiadol sy'n dod gyda'r llwyth yn dangos nid yn unig bod y cynnyrch ddim yn cynnwys Swdan I (Rhif CAS 842-07-9) ond, at hynny, nad yw'n cynnwys Swdan II (Rhif CAS 3118-97-6), Swdan III (Rhif CAS 85-86-9) neu Scarlet Red neu Swdan IV (Rhif CAS 85-83-6). Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy. 238) (rheoliad)2(2)(a)) ddiffiniad diwygiedig o "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision").
Rhif au cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd o dan Reoliad 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products").
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S. 2003/2901.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2003/2455 (Cy.238).back
[4]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090874 0
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
3 March 2004
|