British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040245w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif245 (Cy.24)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
4 Chwefror 2004 | |
|
Yn dod i rym |
8 Chwefror 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 8 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[
3] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 6 (ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon) rhowch y paragraffau canlynol -
(3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio".
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
3.
- (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003[5] yn unol â pharagraffau (2), (3) a (4).
(2) Ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorwch y geiriau "Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)".
(3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio".
(4) Yn rheoliad 7 hepgorwch y geiriau "Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 1997, Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) 1997 a".
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
4.
- (1) Diwygir Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[6] a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[7] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mhob achos, ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorir y geiriau "Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)".
(3) Ym mhob achos, ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Chwefror 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)); Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)); Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)); a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910 (Cy.276)) sy'n cael eu hadnabod yn eu crynswth at ddibenion y Nodyn Esboniadol hwn fel "y Rheoliadau Bwyd"
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu geiriad diangen o reoliad 6(2) o'r priod Reoliadau Bwyd, sy'n darparu bod rhaid i hysbysiad, sy'n gorchymyn ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon, gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(3) o'r priod Reoliadau Bwyd er mwyn sicrhau bod y Llys Ynadon yn gallu penderfynu a yw hysbysiad sydd wedi'i gyflwyno gan swyddog awdurdodedig o dan reoliad 6(1) wedi'i gyflwyno'n gywir a hefyd a yw'n gyfreithlon mewnforio'r cynnyrch o dan sylw.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'n benodol hefyd Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)). Maent yn diwygio'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd arolygiad neu archwiliad o gnau Brasil yn dangos nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) (rheoliad 2(2)). Mae'r weithdrefn ddiwygiedig yn cydweddu â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg sy'n deillio o Frasil neu wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33).
Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliad 3(4)) hefyd yn diwygio'n benodol Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)) er mwyn cywiro gwall drafftio.
Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yngl
![ycirc](/images/ycirc.gif)
n â'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2003/2254 (Cy. 224).back
[4]
(ch) OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1.back
[5]
O.S. 2003/2288 (Cy. 227).back
[6]
O.S. 2003/2455 (Cy. 238).back
[7]
O.S. 2003/2910 (Cy. 276).back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090862 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
16 February 2004
|