Wedi'u gwneud | 3 Chwefror 2004 | ||
Yn dod i rym | 1 Mawrth 2004 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Ymgymeriadau a eithrir a'u cymhwysiad i asiantaethau cyflogi |
4. | Datganiad o ddiben |
5. | Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth |
6. | Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth |
7. | Dogfennau'r asiantaeth |
8. | Ffitrwydd y darparydd cofrestredig |
9. | Penodi rheolwr |
10. | Ffitrwydd y rheolwr |
11. | Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol a hyfforddiant |
12. | Hysbysu tramgwyddau |
13. | Rhedeg yr asiantaeth |
14. | Y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol |
15. | Ffitrwydd y gweithwyr |
16. | Staffio |
17. | Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad |
18. | Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth |
19. | Dull adnabod gweithwyr |
20. | Cofnodion |
21. | Cwynion |
22. |
Barn y staff yngl![]() |
23. | Adolygu ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu |
24. | Ffitrwydd y fangre |
25. | Y sefyllfa ariannol |
26. | Hysbysu digwyddiadau |
27. | Hysbysu absenoldeb |
28. | Hysbysu newidiadau |
29. | Marwolaeth person cofrestredig |
30. | Cydymffurfio â'r rheoliadau |
31. | Tramgwyddau |
32. | Pennu swyddfeydd priodol |
33. | Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 |
34. | Diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 |
35. | Darpariaethau trosiannol |
1. | Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben |
2. | Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr cofrestredig a rheolwyr asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo dros y person cofrestredig |
3. | Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â gweithwyr gofal cartref |
4. | Y cofnodion sydd i'w cadw ar gyfer archwiliad. |
i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd;
ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at "priod" yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petai ef neu hi yn r i'r person (neu yn ôl y digwydd) yn wraig i'r person;
rhaid dehongli "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 8(2)(a).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad -
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae'r termau "cyflogi" a "chyflogaeth" yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract.
Ymgymeriadau sydd wedi'u heithrio a'u cymhwysaid i asiantaethau cyflogi
3.
- (1) At ddibenion y Ddeddf, mae ymgymeriad wedi'i eithrio o'r diffiniad o "domiciliary care agency" yn adran 4(3) o'r Ddeddf -
(b) i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol ar gyfer personau sy'n cael eu lletya mewn cartref gofal y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o'r Ddeddf;
(c) i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol drwy gytundeb gydag ymrwymiad a gofrestrwyd o dan y Ddeddf ac o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn sydd ym mharagraff (3) yn gymwys i asiantaethau gofal cartref i'r graddau y maent hefyd yn asiantaethau cyflogi.
(3) Y rheoliadau hynny yw 13 (Rhedeg yr asiantaeth), 14 (Y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol), 16 (Staffio), 17 (Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad), ac 19 (Dull adnabod y gweithwyr).
Datganiad o ddiben
4.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r asiantaeth ddatganiad sydd wedi'i ysgrifennu ar bapur (a hwnnw'n ddatganiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "datganiad o ddiben" a rhaid iddo gynnwys -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod y datganiad o ddiben ar gael ym mangre'r asiantaeth i'w archwilio gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth.
Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
5.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth a rhaid iddo gynnwys -
(ch) disgrifiad o strwythur staff yr asiantaeth;
(d) crynodeb o weithdrefn gwyno'r asiantaeth sy'n ofynnol gan reoliad 21;
(dd) datganiad o gyfrifoldebau'r asiantaeth a'r defnyddiwr gwasanaeth o ran iechyd a diogelwch;
(e) manylion ar sut y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson a benodwyd i weithredu ar ei ran, ar bob adeg yn ystod y cyfnod y darperir gofal personol;
(f) gwybodaeth ar y materion a ddisgrifir ym mharagraffau 8, 16 ac 18 o Atodlen 1; ac
(ff) disgrifiad o'r broses a luniwyd gan yr asiantaeth ar gyfer monitro ac adolygu ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan yr asiantaeth i'r defnyddiwr gwasanaeth (gan gynnwys lle bo'n briodol ymgynghori â chyrff eraill sy'n darparu gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth).
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
6.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig -
(2) Onid yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn bod y diwygiad yn effeithiol.
Dogfennau'r asiantaeth
7.
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofrestriad mewn perthynas â'r asiantaeth o dan Ran II o'r Ddeddf yn cael ei nodi ym mhob gohebiaeth a dogfennau eraill sy'n cael eu paratoi mewn cysylltiad â busnes yr asiantaeth.
(b) yn gorff ac -
(3) Dyma'r gofynion -
(4) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth -
Penodi rheolwr
9.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth -
(2) Pan fydd -
yn cynnig bod, neu'n debyg o fod, neu wedi bod, yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth tra bydd y darparydd neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn absennol.
(3) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith -
(4) Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod â gofal dros yr asiantaeth ar bob adeg y mae'r asiantaeth ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.
(5) Ni cheir enwebu person at ddibenion paragraff (4) oni bai bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas ag ef ac wedi ei hysbysu i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac eithrio bod rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 3 fod ar gael yn lle'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraff 8 o Atodlen 2.
Ffitrwydd y rheolwr
10.
- (1) Ni chaiff person reoli asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai -
(c) bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.
Person cofrestredig - gofynion cyffredinol a hyfforddiant
11.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i natur a maint yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) ei rheoli â gofal, cymhwysedd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig -
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan yr unigolyn yr arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am redeg yr asiantaeth.
(3) Os yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un o'u plith yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).
(4) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.
Hysbysu tramgwyddau
12.
Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith -
Trefniadau ar gyfer darparu gofal personol
14.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig, ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, neu os nad yw ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth yn ymarferol, ar ôl ymgynghori â pherson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, baratoi cynllun ysgrifenedig ("y cynllun cyflenwi gwasanaeth") a rhaid iddo -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) parhau i adolygu cynllun cyflenwi gwasanaeth y defnyddiwr gwasanaeth;
(c) os yw'n briodol, ac ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, neu os nad yw'n ymarferol ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, ar ôl ymgynghori â pherson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, diwygio cynllun cyflenwi gwasanaeth y defnyddiwr gwasanaeth; ac
(ch) hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw ddiwygiad o'r fath.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, sicrhau bod y gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth yn diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth a bennir yn y cynllun cyflenwi gwasanaeth.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig, at ddibenion darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth, ac i'r graddau y bo'n ymarferol -
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y trefniadau sy'n cael eu gwneud i ddarparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth -
(6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi'r meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio wrth ddarparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth ac ar gyfer trafod y meddyginiaethau hynny, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi a'u gwaredu yn ddiogel.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas, gan gynnwys hyfforddi staff, i sicrhau bod gweithwyr gofal cartref yn gweithredu system weithio ddiogel, gan gynnwys mewn perthynas â chodi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn perygl o gael niwed neu gael eu cam-drin.
(9) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.
(10) Ar unrhyw achlysur pan fydd defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei atal yn gorfforol gan berson sy'n gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.
Ffitrwydd y gweithwyr
15.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson yn gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth oni bai -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson nad yw'n weithiwr gofal cartref ond ei fod yn ofynnol iddo fel arall at ddibenion yr asiantaeth i ymweld â defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref yn gweithio i'r asiantaeth onid oes gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 a 9 o Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.
(3) Nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai -
(4) Ni fydd paragraffau 1(b) a (2), i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o Atodlen 3, yn gymwys tan 31 Hydref 2004 mewn perthynas â gweithiwr a gafodd ei gyflenwi gan yr asiantaeth neu a weithiodd iddi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 1 Mehefin 2003 hyd at 31 Mai 2004.
Staffio
16.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i natur yr asiantaeth, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau -
(c) bod cymorth addas yn cael ei roi i bersonau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, ac os ydynt yn gofyn yn rhesymol amdano, bod cymorth pellach ar gael iddynt mewn perthynas â darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth;
(ch) bod personau cymwys a chanddynt gymwysterau addas ar gael i'r staff ymgynghori â hwy ar unrhyw adeg yn ystod y dydd pan fydd person yn gweithio at ddibenion yr asiantaeth; a
(d) bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael parhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal personol lle cyflogir pobl, neu lle bo gweithwyr gofal cartref yn gweithio, ar sail dros dro at ddibenion yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob aelod o'r staff -
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar berfformiad aelod o'r staff y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff a'r gweithwyr gofal cartref nad ydynt yn aelodau o'r staff, yn cael goruchwyliaeth briodol.
Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad
17.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi llawlyfr staff a darparu copi ohono i bob aelod o'r staff a phob gweithiwr gofal cartref nad yw'n aelod o'r staff.
(2) Rhaid i'r llawlyfr a baratoir yn unol â pharagraff (1) gynnwys datganiad yngln â'r canlynol -
Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth
18.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y rhoddir i ddefnyddiwr gwasanaeth cyn darparu unrhyw ofal personol -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) yn cael ei darparu hefyd, os yw'n briodol, i berthnasau neu ofalwyr y defnyddiwr gwasanaeth.
Dull adnabod gweithwyr
19.
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob gweithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth yn cael ei gyfarwyddo bod rhaid iddo gyflwyno i'r defnyddiwr gwasanaeth adnabyddiaeth sy'n dangos enw, enw'r asiantaeth a ffotograff diweddar ohono tra bydd yn darparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth.
Cofnodion
20.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn cael eu cadw a'u bod -
(2) Yn ychwanegol at y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ymdrechu i sicrhau bod copi o gynllun cyflenwi gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu cadw yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth a'u bod yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da ac mewn modd diogel.
Cwynion
21.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ("y weithdrefn gwyno") ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu ar ei ran.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno i bob defnyddiwr gwasanaeth ac, os bydd yn gofyn amdano, i unrhyw gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwyno gynnwys -
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd ymchwiliad llawn i bob cwyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y g yn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y g
yn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny a bydd gofynion rheoliad 20(1) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis a ddaeth i ben ar ddyddiad y cais a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.
Barn y staff ynghylch rhedeg yr asiantaeth
22.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg yr asiantaeth i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les y defnyddwyr gwasanaeth, neu'r gofal personol sy'n cael ei ddarparu iddynt.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig neu, heb gyfeirio at yr asiantaeth, i'r Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.
Adolygu ansawdd y gofal a ddarperir
23.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno a chynnal system ar gyfer adolygu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol ansawdd y gwasanaeth a gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad y mae'r person cofrestredig wedi'i gynnal at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.
Ffitrwydd y fangre
24.
Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre'r asiantaeth at ddibenion asiantaeth onid yw'n addas at ddibenion asiantaeth cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
Y sefyllfa ariannol
25.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yr asiantaeth yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig hefyd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth arall y bydd yn gofyn amdano o dro i dro er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys -
Hysbysu digwyddiadau
26.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd digwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn digwydd a rhaid rhoi'r hysbysiad hwnnw o fewn 24 awr o roi gwybod i'r person cofrestredig fod digwyddiad o'r fath wedi digwydd, neu o'r amser y daeth y person hwnnw yn ymwybodol fel arall o'r ffaith bod digwyddiad o'r fath wedi digwydd.
(2) Y digwyddiadau yw -
(c) unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 48 awr.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei bod yn ofynnol i'r personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth roi gwybod i'r person cofrestredig ar unwaith fod unrhyw un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi digwydd.
Hysbysu absenoldeb
27.
- (1) Os yw -
i fod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu -
(3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(4) Os bydd -
wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(5) Pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.
Hysbysu newidiadau
28.
Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny -
(d) pan yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, os yw ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi'i benodi ar ei gyfer, neu'n debygol o gael ei benodi, neu os oes cyfamod neu drefniant wedi'i wneud, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda chredydwyr;
(dd) pan yw darparydd cofrestredig yn gwmni, os yw derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi, neu'n debygol o gael ei benodi;
(e) pan yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei fusnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth, os yw derbynnydd neu reolwr wedi'i benodi, neu'n debygol o gael ei benodi, ar gyfer y bartneriaeth;
(f) os yw mangre'r asiantaeth wedi'i newid neu ei hestyn mewn ffordd arwyddocaol, neu os oes bwriad i'w newid neu i'w hestyn, neu os oes mangre ychwanegol wedi'i chaffael neu os oes bwriad i'w chaffael.
Marwolaeth person cofrestredig
29.
- (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig sy'n goroesi hysbysu yn ysgrifenedig swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r farwolaeth.
(2) Os un person yn unig sydd wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod y person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig -
(3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer -
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hirach na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal llawnamser o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth yn ystod unrhyw gyfnod pryd y byddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg yr asiantaeth, heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer.
(c) yn y diffiniad o "statement of purpose" mewnosoder -
(3) Yn rheoliad 9 -
(4) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1, mewnosoder -
Diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
34.
- (1) Diwygir Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[5] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y paragraff o dan y pennawd "Arrangement of Regulations", ychwaneger y canlynol ar y diwedd "15. Annual fee- domiciliary care agencies".
(3) Yn rheoliad 2(1)(a) -
(4) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3C), mewnosoder -
(5) Ar ôl rheoliad 14 (Ffi Flynyddol - asiantaethau nyrsys), mewnosoder y rheoliad canlynol -
(2) The annual fee in respect of a domiciliary care agency is to be payable by the registered provider on the first and subsequent anniversaries of the date on which his or her certificate of registration is issued.".
Darpariaethau trosiannol
35.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bobl y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf ond nad oedd angen iddynt fod yn gofrestredig yn union cyn 1 Mawrth 2004.
(2) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth o'r fath, caiff person a oedd yn union cyn 20 Chwefror 2004 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf -
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "penderfyniad terfynol" yw'r dyddiad 28 diwrnod ar ôl caniatáu neu wrthod y cofrestriad ac, os caiff apêl ei gwneud, y dyddiad pan ddyfarnir yn derfynol ar yr apêl neu pan roddir y gorau iddi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Chwefror 2004
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.
4.
Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para llai na thri mis.
5.
Os yw person wedi gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
6.
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
7.
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
8.
Os unigolyn yw'r person, adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol (yn ôl y digwydd) i redeg, rheoli neu fod â gofal dros asiantaeth.
9.
Manylion cofrestriad gydag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth ohono.
10.
Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.
5.
Os yw'r person wedi gweithio ar unrhyw adeg yn y cyfnod o bum mlynedd cyn iddo gael ei gyflogi gan yr asiantaeth, dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys, os yw'r person wedi gweithio o'r blaen am fwy na thri mis mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, tystlythyr sy'n ymwneud â'r swydd ddiwethaf o'r fath a ddaliwyd.
6.
Os yw'r person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben, ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
7.
Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal personol i'r defnyddwyr gwasanaeth hynny y mae'r gweithiwr i ddarparu gofal personol iddynt.
8.
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
9.
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol heblaw at ddibenion yr asiantaeth.
10.
Datganiad gan y person yngln â'i gyflwr o ran iechyd corfforol a meddyliol.
11.
Datganiad gan y darparydd cofrestredig, neu'r rheolwr cofrestredig, yn ôl y digwydd, fod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.
12.
Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
[2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar gyfer y gofyniad i ymgynghori.back
[4] O.S. 2002/919 (Cy.107) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/710 (Cy.86) a 2003/2517 (Cy.242).back
[5] O.S. 2002/921 (Cy.109) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/710 (Cy.86), 2003/781 (Cy.92) a 2003/2517 (Cy.242).back