British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040103w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif103 (Cy.10) (C.6)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
20 Ionawr 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004.
(2) Yn Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel "y Ddeddf".
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 6(3) o'r Ddeddf
2.
24 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 6(3) o'r Ddeddf ddod i rym.
Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 12 o'r Ddeddf
3.
31 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 12 o'r Ddeddf ddod i rym.
Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 49 o'r Ddeddf
4.
1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 49 o'r Ddeddf ddod i rym i'r graddau na chafodd yr adran honno ei dwyn i rym eisoes.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Ionawr 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r chweched Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru.
Mae erthygl 2 yn pennu 24 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 6(3) o'r Ddeddf i rym yng Nghymru.
Mae erthygl 3 yn pennu 31 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 12 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru.
Mae erthygl 4 yn pennu 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw adran 49 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru, i'r graddau nad yw'r adran honno eisoes mewn grym.
Mae adran 6(3) yn mewnosod diwygiadau ym mharagraff 16 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a rhoi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ynghylch tâl a thelerau ac amodau eraill y maent yn cyflogi staff odanynt ac yn gyffredinol mewn cysylltiad â materion ynghylch cyflogi staff.
Mae adran 12 yn mewnosod adran 19A newydd yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu, i'r graddau y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol i fodloni holl ofynion rhesymol, i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer pobl sy'n dymuno cwyno am y gwasanaeth y maent (neu y mae rhywun y maent yn gofalu amdano) wedi ei gael oddi wrth y GIG.
Mae adran 49 yn eithrio gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig o'r gwasanaethau y gall yr awdurdodau lleol eu darparu yn unol â deddfiadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal cymunedol.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y ddarpariaeth
|
Dyddiad Cychwyn
|
O.S. Rhif
|
Adran 3 |
1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) |
2002/1475 |
Adran 5 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 11 |
1 Rhagfyr 2002 |
2002/1475 |
Adran 13 |
17 Mawrth 2003 |
2003/713 |
Adran 16 |
26 Awst 2002 |
2002/1919 |
Adran 19 - 26 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 27 |
26 Awst 2002 |
2002/1919 |
Adran 28 - 39 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 41 - 43 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 49 |
3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) |
2001/3807 |
Adran 50(1) |
8 Ebrill 2002 |
2001/3752 |
Adran 50 (2) i (10) |
19 Rhagfyr 2001 |
2001/3807 |
Adran 51 |
8 Tachwedd 2001 |
2001/3752 |
Adran 52 |
8 Tachwedd 2001 |
2001/3752 |
Adran 53 |
1 Ebrill 2003 |
2003/939 |
Adran 54 |
1 Ebrill 2003 |
2003/939 |
Adran 55 |
1 Ebrill 2003 |
2003/939 |
Adran 67(1) ac Atodlen 5; |
1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) |
2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919. |
Adran 67(2) ac Atodlen 6; |
1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) |
2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919 |
Atodlen 2 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Atodlen 3 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S.2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87).
Notes:
[1]
2001 p.15; y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod perthnasol ar gyfer gwneud y Rheoliadau hyn yn rhinwedd adran 66 o'r Ddeddf.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090859 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
6 February 2004
|