British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040071w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif71 (Cy.7)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004
|
Wedi'i wneud |
14 Ionawr 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Chwefror 2004 | |
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
A chan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau y mae eu holl weithgareddau neu'n sylweddol eu holl weithgareddau yn cael eu gwneud o dan gytundeb neu yn unol â threfniadau a wnaed gyda pherson sy'n gweithredu fel gwas neu asiant i'r Goron;
Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[
1], ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[
2], a phob p
![wcirc](/images/wcirc.gif)
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 a daw i rym ar 1 Chwefror 2004.
Pennu Cyrff Cyhoeddus
2.
Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2004
YR ATODLENErthygl 2
Cwmni sydd yn ymgymerwr d
![wcirc](/images/wcirc.gif)
r neu'n ymgymerwr carthffosiaeth neu'r ddau ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant D
![wcirc](/images/wcirc.gif)
r 1991[
4] neu yn rhinwedd amrywio'r fath benodiad o dan adran 7 o'r Ddeddf honno.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf sef cyrff sy'n ymgymerwyr d
![wcirc](/images/wcirc.gif)
r neu ymgymerwyr carthffosiaeth, neu'r ddau, ac sy'n gweithredu yng Nghymru.
Mae pedwar Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550 (Cy.215)); a
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441 (Cy.145)).
Notes:
[1]
1993 p.38.back
[2]
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
[4]
1991 p.56.back
English version
ISBN
0 11090853 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
21 January 2004
|