British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 Rhif 3233 (Cy.313)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033233w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3233 (Cy.313)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Rhagfyr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ionawr 2004 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol, a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
(a) ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
(b) ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c) ystyr "y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol" ("the relevant religion or religious denomination") yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol (neu bob un o'r crefyddau neu'r enwadau crefyddol hyn) y darperir addysg neu y bydd yn rhaid ei ddarparu yn yr ysgol neu y rheolir yr ysgol yn unol â'u daliadau.
(ch) ystyr "adran 69(3)" ("section 69(3)") yw adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel y mae'n gymwys i ysgolion annibynnol.
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn cysylltiad â -
(a) dynodi, mewn gorchymyn o dan adran 69(3), ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad; a
(b) datgan yn y gorchymyn hwnnw, mewn perthynas â'r ysgol honno, y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol.
Gweithdrefn gwneud cais
4.
- (1) Er mwyn i ysgol annibynnol gael ei dynodi yn ysgol grefyddol ei chymeriad, rhaid i berchennog yr ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3).
(2) Rhaid i'r cais -
(a) datgan crefydd berthnasol neu enwad crefyddol perthnasol yr ysgol;
(b) cynnwys y sail dros wneud y cais ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy'n cefnogi'r sail honno; ac
(c) cynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
(3) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais am orchymyn, o dan y Rheoliadau hyn, caiff ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ei farnu'n briodol ynghylch cais yr ysgol.
Gweithdrefn ddynodi
5.
- (1) Os bydd perchennog ysgol yn gwneud cais am orchymyn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi'r ysgol yn ysgol grefyddol ei chymeriad os -
(a) yw'n fodlon y rheolir yr ysgol neu fod yr addysg a ddarperir yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; a
(b) bod rhai neu'r cyfan o'r tiroedd a'r adeiladau a feddiennir gan yr ysgol ar hyn o bryd wedi'u darparu ar ymddiried mewn cysylltiad â -
(i) darparu addysg, neu
(ii) rheoli sefydliad addysgol
yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
(c) bod o leiaf un aelod o'r corff llywodraethu yn berson a benodwyd yn llywodraethwr i gynrychioli buddiannau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
(ch) bod offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu -
(i) y rheolir yr ysgol yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
(ii) y darperir yr addysg yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol.
(2) Os yw perchennog ysgol yn gwenud cais am orchymyn yn unol â'r Rheoliadau yma, ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys, mi all y Cynulliad Cenedlaethol serch hynny ddynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw yn ei ystyried yn addas i wneud hynny, gan ystyried y canlynol -
(a) p'un a yw'r ysgol yn cael ei rheoli yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;
(b) p'un a yw'r addysg yn yr ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; ac
(c) unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw unrhyw gyfeiriad at addysg mewn ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl addysg gael ei gwneud yn unol â'r daliadau crefyddol hynny.
Newidiadau mewn dynodiadau a datganiadau
6.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg o'r farn bod gorchymyn a wnaed yn flaenorol o dan adran 69(3) yn cynnwys camgymeriad perthnasol, neu y methyd yn anghywir i ddynodi unrhyw ysgol; mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pa bynnag orchymyn o dan yr adran honno y mae'n ystyried yn briodol at ddibenion cywiro'r camgymeriad.
(2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) sydd yn effeithio dynodiad ysgol arbennig neu'r datganiad o grefydd priodol neu enwad crefyddol mewn perthynas â ysgol arbennig, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori gyda pherchennog yr ysgol honno, a gall ymgynghori gydag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ystyried yn briodol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Rhagfyr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol erbyn adran 124B, a fewnosodwyd i fewn i Ddeddf Safonnau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogaeth Athrawon Mewn Ysgolion gyda Chymeriad Crefyddol) 2003 yn dynodi ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad. Mae adran 124B(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn darparu bod rhaid i orchymyn o dan adran 69(3) ddatgan y crefydd neu'r enwad crefyddol y darperir yr addysg neu y rheolir yr ysgol yn unol â'i daliadau.
Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i berchennog ysgol annibynnol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3) ac mae'n dangos beth y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cais hwnnw. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n barnu ei fod yn briodol ynghylch cais yr ysgol.
Mae rheoliad 5(1) yn nodi'r amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn sy'n dynodi ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad. Mae rheoliad 5(2) yn nodi'r amgylchiadau sy'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn sy'n dynodi'r ysgol annibynnol yn ysgol o gymeriad crefyddol.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio gorchymyn dynodi mewn perthynas ag ysgol os yw'n fodlon ei fod yn sylweddol anghywir a phryd y mae'n rhaid iddo ymgynghori â pherchennog yr ysgol ynghylch y gwaith diwygio hwnnw.
Nid yw datganiad bod enwad crefyddol ysgol yn Gatholig Rhufeinig yn penderfynu a yw'r ysgol honno yn Ysgol Gatholig yn ôl cyfraith ganonig.
Notes:
[1]
1998 p.31; mewnosodwyd adran 124B gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogaeth Athrawon Mewn Ysgolion gyda Chymeriad Crefyddol) 2003 (O.S. 2003/2037).back
[2]
O.S. 1999/672.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090839 2
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
17 December 2003
|