British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003 Rhif 3232 (Cy.312)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033232w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3232 (Cy.312)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Rhagfyr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ionawr 2004 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 163(3)(b) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2.
Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru.
3.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw arolygiad cyn 1 Ionawr 2006 o ysgol a oedd ar 31 Rhagfyr 2003 wedi'i chofrestru dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf Addysg 1996[2].
Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu
4.
Pan fydd yr awdurdod cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiad arolygu a wnaed o dan adran 163(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 cael ei gyhoeddi, rhaid i'r person a gynhaliodd yr arolygiad -
(a) anfon copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw at y perchennog, a
(b) rhoi copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw, ar y rhyngrwyd ar ei wefan.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn manylu ar sut y mae adroddiad arolygu i'w gyhoeddi pan fydd ei gyhoeddi yn ofynnol gan yr awdurdod cofrestru wedi i ysgol annibynnol gael ei harolygu gan y Prif Arolygydd neu gan un arolygydd cofrestredig neu fwy o dan adran 163(1)(a) o Ddeddf Addysg 2002.
Notes:
[1]
2002 p.32; gweler adran 212(1) am y diffiniad o "regulations", yn eu rhinwedd hwy y mae'r Rheoliadau hyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig. Mae adran 212(1) yn diffinio "prescribed" hefyd.back
[2]
1996 p.56.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090831 7
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
16 December 2003
|