British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 3225 (Cy.307)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033225w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3225 (Cy.307)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Rhagfyr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
11 Rhagfyr 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.
Diwygio Rheoliadau 1999
2.
- (1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4) o reoliad 1:
(a) Ar y dechrau, mewnosodwch y canlynol -
"
(a) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)".
(b) Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol -
"
(b) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, mae'r cyfeiriad at Aquila Networks plc yn gyfeiriad at gwmni ac iddo'r enw hwnnw ar 10 Mai 2002.".
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch "Aquila Networks plc" yn lle "Midlands Electricity plc"
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Er mwyn sicrhau bod hereditamentau penodol i gyd yn cael eu hardrethu'n ganolog gyda'i gilydd, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau o dan adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Yn y rheoliadau hynny, caiff ddynodi person a rhagnodi un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig mewn perthynas â'r person hwnnw. I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r per hwn wedi cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Y prif Reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddibynnu ar y per hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn effeithiol o ran unrhyw restr ardrethu canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy roi Aquila Networks plc fel person dynodedig mewn perthynas â hereditamentau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau darparwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion atodol, yn lle Midlands Electricity plc o 1 Tachwedd 2001.
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/3453.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090837 6
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
17 December 2003
|