BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2003 Rhif 3072 (Cy.294)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033072w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3072 (Cy.294)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2) a (3) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2003 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    ystyr "y Cynghorau Cyfansoddol" ("the Constituent Councils") yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

    ystyr "y Gorchymyn" ("the Order") yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003[2];

    ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992[3];

    ystyr "y Pwyllgor" ("the Committee") yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966[4]; ac

    ystyr "Rhondda Cynon Taf" ("Rhondda Cynon Taf") yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Cymhwyso
     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2003.

Ardollau a amnewidiwyd
    
4.  - (1) Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:

    (a) ardollau wedi'u hamnewid (yr ardollau newydd) i'r Cynghorau Cyfansoddol i gymryd lle'r ardollau hynny a gyflwynwyd ganddo ar 11 Chwefror 2003 (yr hen ardollau); a

    (b) ardoll wedi'i hamnewid am ddim punnoedd i Rhondda Cynon Taf i gymryd lle'r ardoll a gyflwynwyd ar 11 Chwefror 2003;

erbyn 14 Chwefror 2004 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.

    (2) Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.

    
5. Dirymir Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001[5].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwcircer i wneud Rheoliadau mewn perthynas â chyrff ardolli sydd yn cynnwys y Pwyllgor ar gyfer Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 74 a 143 o Ddeddf 1988.

Mae Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 (O.S. Rhif 2003/3036 (Cy.284)) (y Gorchymyn) yn tynnu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o'r Pwyllgor hwnnw gydag effaith o 31 Mawrth 2003. Mae'r Pwyllgor eisioes wedi cyflwyno ardollau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2003-2004.

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gyflwyno ardollau a amnewidiwyd i'w Gynghorau Cyfansoddol ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol honno. Fe fydd yr ardollau newydd hyn yn cymeryd lle'r rhai a gyflwynwyd yn gynharach. Yn achos Rhondda Cynon Taf, fe fydd yr ardoll a amnewidiwyd yn ddim tra bydd y ffigurau ar gyfer y cynghorau eraill yn cael eu haddasu'n unol â'r Gorchymyn.


Notes:

[1] 1988 p.41. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladaol o dan adrannau 74 a 143 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 2003/3036 (Cy. 284).back

[3] O.S. 1992/2903.back

[4] 1996 p.38.back

[5] 2001/3811 (Cy.316).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090823 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 5 December 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010