British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003 Rhif 3064 (Cy.293)(C.115)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033064w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3064 (Cy.293)(C.115)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, LLOEGR A CHYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003
|
Wedi'i wneud |
26 Tachwedd 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(2) a 10(2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau yngl
n â'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn Lloegr
2.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 1 Rhagfyr 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben -
(i) adran 1 ac Atodlen 1;
(ii) paragraffau 3, 4, 5, 7, a 14 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a
(iii) adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 ac eithrio'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
(2) Dim ond yngl
n â Lloegr y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D.Elis- Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ("y Ddeddf").
Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym, wrth gael ei chymhwyso i Lloegr, adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae adran 1 yn hepgor adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac Atodlen 7 iddi ac effaith hynny yw datgymhwyso dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned ar gyfer dosbarthau yn Lloegr.
Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.
NODYN AM ORCHYMYN CYCHWYN BLAENOROL
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Gorchymyn)
Darparwyd ar gyfer y darpariaethau a bennit isod mewn perthynas â Chymru (gan gynwys darpariaethau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr) yng Ngorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 O.S. 2003/2660 (Cy.256) (C. 102)
Darpariaeth
|
Dyddiad Cychwyn
|
Adran 1 (yn gymwys i Gymru yn unig) |
20 Hydref 2003 |
Adran 7(1) (yn rhannol) (yn gymwys i Gymru yn unig) |
20 Hydref 2003 |
Adran 7(2) (yn rhanol) (yn gymwys i Gymru yn unig) |
20 Hydref 2003 |
Adran 2 (ar gyfer gwneud rheoliadau yn unig) |
20 Hydref 2003 |
Adran 3 (ar gyfer gwneud rheoliadau yn unig) |
20 Hydref 2003 |
Adrannau 4, 5 and 6 |
20 Hydref 2003 |
Atodlen 1 (yn gymwys i gymru yn unig) |
20 Hydref 2003 |
Paragraffau 3, 4, 5, 7 a 14 o Atodlen 3 |
20 Hydref 2003 |
Atodlen 4, heblaw'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 |
20 Hydref 2003 |
Paragraff 10 o Atodlen 2 |
20 Hydref 2003 |
Adrannau 2, 3 and 7(1) (ar gyfer phob pwrpas arall) |
1 Ebrill 2005 |
Atodlenni 2 and 3 heblaw'r gyfeiriad at paragraff 16 o Atodlen 3 |
|
Notes:
[1]
2003 p.4.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090829 5
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
16 December 2003
|