British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 Rhif 3036 (Cy.284)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033036w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3036 (Cy.284)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
26 Tachwedd 2003 | |
|
Yn dod i rym |
30 Tachwedd 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966[1] ac a freiniwyd bellach ynddo[2], ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y prif Orchymyn" yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912[3] (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno).
Diwygiadau i'r prif Orchymyn
2.
Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod.
3.
Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol -
"
7.
The committee shall be a joint committee of the county and county borough councils referred to in column 1 of the Schedule to this Order and shall consist of twenty one members appointed as follows -
(a) the number of members appointed by each constituent council shall be the number indicated in relation to the council in column 2 of the Schedule to this Order ;
(b) nine members appointed by the National Assembly for Wales;
(c) one member appointed by the Environment Agency.".
4.
Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol -
"
Expenses
17. -
The expenses of the Committee, other than those which may be required to be incurred under section 17(2) of the Act, shall be chargeable jointly to the constituent councils in the proportions set out in Column 3 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes.".
5.
Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
ATODLENErthygl 5 Erthyglau 7 ac 17
"
SCHEDULE
CONSTITUTION AND EXPENSES
Column 1
|
Column 2
|
Column 3
|
Constituent Councils
|
Number of Members
|
Percentage of expenses payable per financial year
|
Cardiff County Council |
1 |
3% |
Carmarthenshire County Council |
2 |
24% |
Pembrokeshire County Council |
2 |
24% |
Swansea County Council |
2 |
24% |
Bridgend County Borough Council |
1 |
8% |
Neath Port Talbot County Borough Council |
2 |
11% |
The Vale of Glamorgan County Borough Council |
1 |
6%" |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru.
Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau ardal môr yr Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid.
Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a chyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi' u pennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen).
Notes:
[1]
1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o "the Minister".back
[2]
Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Rh.S a G. 1926/1121 fel y'i amrywiwyd gan O.S. 1953/443, 1973/2203 a 1996/618.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090814 7
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
3 December 2003
|