British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003 Rhif 2963 (Cy.280)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032963w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2963 (Cy.280)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
18 Tachwedd 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ionawr 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 18(3A), 3(D) a 3(G) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2] i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "aelodau" ("members") yw cynghorwyr awdurdod gan gynnwys maer etholedig awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol ar ffurf sy'n cynnwys maer etholedig;
ystyr "awdurdod" ("authority") yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr "lwfansau cyfrifoldeb arbennig" ("special responsibility allowances" ) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau 2002;
ystyr "lwfansau sylfaenol" ("basic allowances") yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 7 o Reoliadau 2002;
ystyr "Rheoliadau 2002" ("the 2002 Regulations") yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002[3].
Pensiynau
3.
- (1) Caiff awdurdod -
(a) penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â'r hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997[4]; a
(b) darparu mewn perthynas â'r aelodau hynny y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (a) fod lwfansau sylfaenol a lwfansau cyfrifoldeb arbennig yn cael eu trin fel symiau y mae pensiynau yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(2) Rhaid i awdurdod, wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn, wneud hynny yn unig ar gyfer aelod sydd wedi'i gymeradwyo'n gyntaf gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru fel un sy'n gymwys i gael hawl o'r fath, o dan reoliad 5.
Panel Taliadau Annibynnol Cymru
4.
- (1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel taliadau annibynnol dros dro, a elwir Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn unol â'r Rheoliad hwn ar gyfer pob awdurdod.
(2) Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru fodoli am gyfnod o chwe mis gan ddechrau o ddyddiad ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru gynnwys o leiaf dri aelod a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys un aelod a benodwyd yn gadeirydd.
(4) Ni chaiff unrhyw un o'r aelodau a benodir yn unol â pharagraff (3) fod -
(a) yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty'r Cyffredin, Ty'r Arglwyddi, Senedd Ewrop, awdurdod, cyngor tref neu gyngor cymuned; neu
(b) wedi'i anghymhwyso[5] rhag bod neu ddod yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod lleol.
(5) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau y mae Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn eu tynnu wrth gyflawni ei swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r panel y lwfansau neu'r treuliau y bydd yn penderfynu arnynt.
(6) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drefnu bod cymorth gweinyddol priodol ar gael i Banel Taliadau Annibynnol Cymru.
Argymhellion Panel Taliadau Annibynnol Cymru
5.
- (1) Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru lunio adroddiad mewn perthynas â phob awdurdod, gan gyflwyno argymhellion ynghylch pa aelodau awdurdod a ddylai gael hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997.
(2) Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan baragraff (1), ofyn i unrhyw gorff neu berson am wybodaeth neu gyngor.
(3) Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru gyflwyno gwahanol argymhellion ynglyn â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â hwy.
Cyhoeddusrwydd ar gyfer argymhellion Panel Taliadau Annibynnol Cymru
6.
- (1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) i bob awdurdod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael yr adroddiad.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
(a) cyhoeddi'r manylion am yr adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg ledled Cymru; a
(b) cynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar yr adegau a bennir gan yr awdurdodau hynny.
(3) Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod y canlynol yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael adroddiad Panel Taliadau Annibynnol Cymru o dan reoliad 5(1):
(a) bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar yr adegau rhesymol a bennir gan yr awdurdod; a
(b) bod copi yn cael ei ddarparu i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y ffi resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, fel y'i mewnosodwyd gan adran 99(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, yn darparu'r pwer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau a gaiff wneud darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i benderfynu pa rai o'u haelodau sydd â hawl i bensiynau ac i drin lwfans sylfaenol neu lwfans cyfrifoldeb arbennig fel symiau y mae pensiynau'n daladwy mewn perthynas â hwy. Mae'r p er hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i benderfynu pa aelodau (sydd yn gynghorwyr) sydd â'r hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997 (fel y'u diwygiwyd). Pan fydd awdurdodau yn defnyddio'u disgresiwn i dderbyn aelodau i gynlluniau pensiwn, rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer lwfansau sylfaenol a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i gael eu trin fel rhai pensiynadwy a rhaid iddynt ystyried unrhyw argymhellion sy'n cael eu gwneud gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru yn unol â rheoliad 5 o ran pa aelodau sydd â'r hawl i fudd-daliadau o'r fath.
Mae Rheoliad 4 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu panel annibynnol dros dro ar gyfer taliadau, a elwir Panel Taliadau Annibynnol Cymru, am gyfnod o chwe mis (rheoliad 4(2)). Bydd y panel yn cynnwys nid llai na thri aelod (rheoliad 4(3)), y dylai un ohonynt gael ei benodi'n gadeirydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni fydd y panel yn cynnwys aelodau sy'n aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, T'r Cyffredin, T'r Arglwyddi, Senedd Ewrop, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor tref neu gyngor cymuned (rheoliad 4(4)(a)). Ni ddylai'r panel ychwaith fod ag unrhyw aelodau sydd wedi'u hanghymhwyso rhag bod neu ddod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (rheoliad 4(4)(b)) ac eithrio swyddog sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod lleol. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu lwfansau a threuliau ar gyfer Panel Taliadau Annibynnol Cymru a darparu cymorth gweinyddol priodol (rheoliadau 4(5) a (6)).
Mae Rheoliad 5 yn nodi swyddogaethau Panel Taliadau Annibynnol Cymru. Bydd y panel yn llunio adroddiad sy'n argymell pa aelodau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sydd â'r hawl i gael pensiynau o dan Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997. Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon caiff y panel ofyn i unrhyw gorff neu unrhyw berson am wybodaeth neu gyngor (rheoliad 5(2)). Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon copi o adroddiad y panel i bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol (rheoliad 5(4)).
O dan reoliad 6 bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi'r manylion am adroddiad y panel ym mhapurau newydd Cymru. Bydd pob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yn trefnu bod yr adroddiad ar gael i'r cyhoedd ei archwilio (rheoliad 6(3)(a)) a threfnu bod copi ar gael am y ffi resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni (rheoliad 6(3)(b)).
Notes:
[1]
p.42. Mewnosodwyd is-adrannau (3A), (3D) a (3G) o adran 18 gan adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).back
[2]
O.S. 1999/672.back
[3]
O.S. 2002/1895 (Cy.196).back
[4]
O.S. 1997/1612 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/1613, O.S. 1998/1238, O.S. 1999/1212, O.S. 1999/3438, O.S. 2000/ 3025, O.S. 2001/3649, O.S. 2001/ 770, O.S. 2001/1481, O.S. 2001/2401, O.S. 2002/206, O.S. 2002/819, O.S. 2003/2249. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i Gymru.back
[5]
Gweler Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ac adrannau 79 a 83(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090812 0
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
27 November 2003
|