Wedi'u gwneud | 18 Tachwedd 2003 | ||
Yn dod i rym | 19 Tachwedd 2003 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
Cyllido ysgolion a gynhelir
3.
Mae adran 45A o Ddeddf 1998, a fewnosodir gan adran 41(1)[4]), i fod yn effeithiol yn y cyfnod sy'n dod i ben yn union o flaen 1 Ebrill 2004 yn unig at ddibenion cyllido ysgolion mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
4.
Nid yw'r diwygiad a wneir gan adran 41(2)[5] i adran 45(2) o Ddeddf 1998 i fod yn gymwys mewn perthynas â chyfran cyllideb ysgol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2004.
5.
Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 46 o Ddeddf 1998 a'r diwygiadau canlyniadol i adrannau 49(4) a 143 o'r Ddeddf honno ac i adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[6] (a wnaed gan adrannau 41(3) a 215, a pharagraffau 100(1) a (2), 113 a 125 o Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22[7]) nid yw -
i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
Gwaharddiadau
6.
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw adran 52(11) i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adran 52 [8]) at ysgol a gynhelir i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir "maintained school" yn adran 20(7) o Ddeddf 1998.
7.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os gwaherddir disgybl cyn 9 Ionawr 2004 gan bennaeth ysgol a gynhelir neu (yn ôl y digwydd) athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion.
(2) Er gwaethaf dwyn i rym -
mae'r darpariaethau canlynol, sef -
i barhau i gael effaith, fel y bo'n briodol, mewn perthynas â gwaharddiad y mae paragraff (1) yn gymwys iddo.
Ysgolion annibynnol
8.
- (1) Er gwaethaf dwyn i rym adran 165[11], ni fydd yr adran honno (ac eithrio is-adrannau (1), (2), (12) a (13)) yn gymwys tan 1 Ionawr 2006 i unrhyw ysgol a gofrestrwyd dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf 1996 ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Er gwaethaf diddymu darpariaethau yn adrannau 10(3), (4B), 11(5), 20(3), 21(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[12]) a darpariaethau ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, os dyfarnwyd contract o ganlyniad i wahoddiad i dendro o dan baragraff 2 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno cyn 1 Ionawr 2004 i arolygu ysgol annibynnol a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 347(1) o Ddeddf 1996 -
(3) Er gwaethaf dwyn i rym adran 172[13], nid yw amnewid adran 463 o Ddeddf 1996 i fod yn gymwys tan 1 Medi 2004 mewn perthynas â chartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[14] os dyfarnwyd cais am gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i redeg y cartref plant cyn 1 Ionawr 2004.
Adennill
9.
Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 492 o Ddeddf 1996[15], yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw'r rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 207 i rym, mae Rheoliadau Addysg (Adennill Rhwng Awdurdodau) 1994[16] i barhau i gael effaith mewn perthynas â Chymru fel pe baent wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 207 ac fel pe rhoddwyd yn lle'r geiriau "the Secretary of State" yn rheoliad 3(2)(b) y geiriau "the National Assembly for Wales".
Diwygio Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998
10.
- (1) Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998[17]) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniad o "qualified teacher" ac ar ôl y diffiniad o "school" rhodder y diffiniad canlynol -
(3) Yn rheoliad 3(2) a (3) rhodder yn lle'r geiriau "qualified teacher" y geiriau "school teacher".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19])
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003
[4] Mae adran 41(1) i ddod i rym ar 4 Rhagfyr 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[5] Addesir adran 41(2) gan reoliad 4 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002, O.S. 2002/3184 (Cy.300). Daw i rym ar 4 Rhagfyr 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[7] Mae adrannau 41(3) a 215 (yn rhannol), a pharagraffau 100(1), (2), 113 (yn rhannol) a 125 o Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22 (yn rhannol) i ddod i rym ar 4 Rhagfyr 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[8] Mae adran 52 i ddod i rym yn rhannol ar 9 Ionawr 2004 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[9] Mae adrannau 64 i 68 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 18 iddi i'w diddymu gan adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 22 iddi ar 9 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[10] O.S. 2003/287 (Cy.39).back
[11] Mae adran 165 i ddod i rym ar 1 Ionawr 2004 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[12] 1996 p.57. Mae adrannau 10(3), (4B), 11(5), 20(3), 21(4), a pharagraff 1 o Atodlen 3 i'w diddymu yn rhannol gan adran 215(2) o Ddeddf 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, ar 1 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108)).back
[13] Mae adran 172 i ddod i rym ar 1 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[15] Mae adran 492 o Ddeddf 1996 i'w diddymu gan adran 215 o Ddeddf 2002, ac Atodlen 22 iddi ar 9 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).back
[18] Diwygiwyd adran 4 o Ddeddf 1998 gan adran 215(1) o Ddeddf 2002, a pharagraff 88 o Atodlen 21 iddi.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 25 November 2003 |