If you found BAILII useful today, could you please make a contribution?
Your donation will help us maintain and extend our databases of legal information. No contribution is too small. If every visitor this month donates, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
Wedi'u gwneud | 12 Tachwedd 2003 | ||
Yn dod i rym | 14 Tachwedd 2003 |
sy'n tarddu o'r Aifft neu'n cael eu traddodi o'r Aifft;
(2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o "pysgnau o'r Aifft" (Egyptian peanuts") neu "pysgnau o'r Aifft a reolir" ("controlled Egyptian peanuts") ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r termau cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
Gwaharddiad ar fewnforio
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir oni bai bod yr amodau a bennir yn Erthygl 1.1, 3, 5 a 7 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r pysgnau hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir, ac eithrio trwy bwynt mynediad a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn.
(3) Rhaid peidio â deall pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir ac sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) yn fwriadol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
(5) At ddibenion penderfynu a yw person yn euog o dramgwydd sy'n deillio o dorri paragraff (4) neu beidio, rhaid cymryd mai pysgnau o'r Aifft a reolir yw unrhyw bysgnau o'r Aifft hyd nes y profir i'r gwrthwyneb.
Gorfodi
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw wedi'i leoli o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw wedi'i lleoli ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion arfer y ddyletswydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod dan sylw -
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn -
(5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplu a dadansoddi
5.
- (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
(2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol -
(c) bod y pwer i gymryd samplau o dan is-adrannau (b) a (d) yn cael ei gyfyngu i gymryd samplau yn unol â'r dulliau cymryd samplau a ddisgrifir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC neu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt ynddo;
(ch) bod is-adran (c) yn cael ei hepgor; ac
(d) bod y geiriau "the Food (Peanuts from Egypt (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it" yn is-adran (d);
(3) Pan fydd swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir yn unol ag adran 29(b) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2), rhaid iddo sicrhau -
(b) bod dadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar bwnc mesurau ychwanegol ynghylch rheolaeth swyddogol ar fwydydd[9];
(c) bod dadansoddiad yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan ddadansoddwr sydd â chymwysterau addas yn unol â dulliau dadansoddi sydd -
(ch) bod adrodd ar ganlyniad y dadansoddi hwnnw -
(4) Cyn i ddadansoddwr gytuno i ddadansoddi sampl yn unol â phragraff (3)(c) caiff y dadansoddwr fynnu bod y cyfryw ffi ag y gallai ofyn amdani yn cael ei thalu ymlaen llaw.
(5) Rhaid i ddadansoddwr sydd wedi dadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) roi i'r person a'i rhoddodd iddo dystysgrif a fydd yn pennu canlyniad y dadansoddi ac a fydd wedi'i llofnodi gan y dadansoddwr.
(6) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd y naill barti neu'r llall yn cyflwyno'r canlynol -
bydd hon yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau sy'n cael eu datgan ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o fewn is-baragraff (a), bod y parti arall yn gofyn i'r dadansoddwr gael ei alw fel tyst.
(7) Pan fydd sampl a gafwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i dadansoddi yn unol â pharagraff 3(b) ac (c), bydd gan y perchennog hawl ar gais i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), â'r ddyletswydd o'u gorfodi.
(8) Nid oes dim ym mharagraff (3)(c) i'w gymryd fel petai'n atal person sy'n gweithio o dan gyfarwyddyd dadansoddwr rhag gwneud dadansoddiad.
Ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon
6.
- (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw bysgnau o'r Aifft, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu yn ôl y digwydd awdurdod bwyd eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1) neu (2), caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw a'r hysbysiad hwnnw'n gorchymyn -
(2) Mewn unrhyw achos lle caniateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan -
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon neu beidio.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) fydd trwy gyfrwng cwyn yn erbyn gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[11] fydd yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y pysgnau o'r Aifft o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir ar unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynghylch yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
Dirymu Gorchymyn Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru a Lloegr) 2000
7.
Dirymir Gorchymyn Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru a Lloegr) 2000[12] i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2003
Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn -
(b) mae gan swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi perthnasol y pwer (yn ddarostyngedig i hawl i apelio i lys ynadon) i ddyroddi hysbysiad sy'n gorchymyn ailanfon mewnforion anghyfreithlon o bysgnau o'r Aifft a reolir.
Y codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o "pysgnau o'r Aifft" yn rheoliad 2(1) yw Rhif au cod y gyfundrefn enwi cyfun a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 2658/87 ar y tariff a'r enwau ystadegol ac ar y tariff tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
[4] OJ Rhif L201, 17.7.98, t.93.back
[5] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.back
[7] OJ Rhif L19, 25.1.2000, t.46.back
[8] OJ Rhif L197, 5.8.03, t.31.back
[9] OJ Rhif L290, 24.11.93, t.14.back
[10] OJ Rhif L372, 31.12.85, t.50.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 25 November 2003 |