British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003 Rhif 2763 (Cy.268)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032763w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2763 (Cy.268)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003
|
Wedi'i wneud |
30 Hydref 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Hydref 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8(1) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru'n unig a daw i rym ar 31 Hydref 2003.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2.
- (1) Diwygir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2] yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.
(2) Yn erthygl 1(2) yn lle "1 Tachwedd 2003" rhoddir "31 Mawrth 2004".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Hydref 2003
Ben Bradshaw
Is-Ysgrifennydd Seneddo,l Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
30 Hydref 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Oni bai am y Gorchymyn hwn, byddai Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Tachwedd 2003. Er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau parhaol i gymryd lle'r darpariaethau dros dro a gynhwysir yn y Gorchymyn hwnnw, mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu i'r Gorchymyn hwnnw barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004.
Notes:
[1]
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd ymhellach wedyn bob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 2002/2303 (Cy.228), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090804 X
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
14 November 2003
|