Wedi'u gwneud | 29 Hydref 2003 | ||
Yn dod i rym | 31 Hydref 2003 |
1. | Teitl, cymhwyso a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Cymeradwyaethau etc. |
4. | Deunydd categori 1 |
5. | Deunydd categori 2 |
6. | Deunydd categori 3 |
7. | Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd |
8. | Casglu, cludo a storio |
9. | Mynediad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
10. | Cyfyngiadau ar ddefnydd |
11. | Tir pori |
12. | Ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau |
13. | Yr awdurdod cymwys |
14. | Cymeradwyo safleoedd |
15. | Gweithfeydd bio-nwy a chompostio |
16. | Compostio gwastraff arlwyo ar y safle y mae'n tarddu ohono |
17. | Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd |
18. | Samplu mewn gweithfeydd prosesu |
19. | Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a chompostio |
20. | Samplau a anfonwyd i labordai |
21. | Labordai |
22. | Rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio yn ddeunydd porthiant. |
23. |
Rhoi ar y farchnad fwyd anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i g![]() |
24. | Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w defnyddio ar dir amaethyddol |
25. | Yr awdurdod cymwys ar gyfer Pennod V o Reoliad y Gymuned |
26. |
Rhan-ddirymiadau yngl![]() |
27. | Canolfannau casglu |
28. | Claddu anifeiliaid anwes |
29. | Claddu os bydd clefyd yn brigo |
30. | Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna |
31. | Cofnodion |
32. | Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
33. | Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
34. | Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio ar y safle |
35. | Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio a gymeradwywyd |
36. | Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
37. | Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd |
38. | Y cofnodion sydd i'w cadw ar gyfer llwythi compost neu weddillion traul |
39. | Rhoi cymeradwyaethau |
40. | Atal, diwygio neu ddirymu cymeradwyaethau a chofrestriadau |
41. | Apelau |
42. | Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo |
43. | Glanhau a diheintio |
44. | Cydymffurfio â hysbysiadau |
45. | Pwerau mynediad |
46. | Rhwystro |
47. | Cosbau |
48. | Gorfodi |
49. | Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill |
50. | Darpariaethau trosiannol |
51. | Diwygio a dirymu |
ATODLEN 1 | Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
ATODLEN 2 | Dulliau Profi |
ATODLEN 3 | Mesurau Trosiannol |
ATODLEN 4 | Diwygiadau |
(2) Mae i'r ymadroddion a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn, a deunydd Categori 1, deunydd Categori 2 a deunydd Categori 3 yw'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid a nodir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno.
Cymeradwyaethau etc.
3.
Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, cyfarwyddiadau neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i -
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff neb ddod ag unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio llaeth, llaeth tor, gwrtaith neu gynnwys llwybr treulio) i mewn i unrhyw safle lle mae unrhyw anifail a ffermir, neu unrhyw anifail arall sy'n cnoi cil, unrhyw fochyn arall neu unrhyw ddofednod eraill yn cael eu cadw, onid yw -
(4) Ni fydd paragraff (3) yn gymwys -
(5) Ni chaiff neb ganiatáu i unrhyw anifeiliaid gael mynd at ddeunydd mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio, ac eithrio yn achos adar gwyllt a gaiff fynd at ddeunydd o'r fath yn ystod ail gyfnod compostio neu ran ddilynol.
(6) Yn y rheoliad hwn mae "sgil-gynnyrch anifeiliaid" yn cynnwys gwastraff arlwyo o bob math, gan gynnwys gwastraff arlwyo nad yw Rheoliad y Gymuned yn gymwys iddo oherwydd Erthygl 1.2(e) o'r Rheoliad hwnnw.
(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn gwahardd bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid i anifeiliaid o dan Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i gorfodir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Cyfyngiadau ar ddefnydd
10.
Yn ddarostyngedig i reoliad 12(1), bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 22(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
Tir pori
11.
- (1) At ddibenion Erthygl 22(1)(c) o Reoliad y Gymuned, mae tir pori yn dir y bwriedir ei ddefnyddio i bori neu gnydio ar gyfer porthiant ar ôl dodi neu ddyddodi gwrteithiau organig a deunyddiau i wella'r pridd o fewn y cyfnodau canlynol -
(2) Bydd unrhyw berson sydd -
yn euog o dramgwydd.
Ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau
12.
- (1) Er gwaethaf rheoliad 10, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i fwydo pysgod â phrotein anifail wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu rannau pysgod (ac eithrio pysgod a ffermir o'r un rhywogaeth) os yw hynny'n cael ei wneud yn unol ag Erthyglau 2 i 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 ac Atodiad 1 iddo.
(2) Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003.
(3) Yn unol ag Erthygl 10 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys tan 1 Ionawr 2004.
Cymeradwyo safleoedd
14.
- (1) Ni chaiff neb weithredu unrhyw un o'r canlynol, sef -
i storio, prosesu, trin, gwaredu neu ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, oni bai bod y safle, gweithredydd y safle ac unrhyw gyfarpar wedi'u cymeradwyo at y diben hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Gymuned.
(2) Rhaid i weithredydd safle a gymeradwywyd sicrhau -
(b) bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hyn.
(3) Rhaid i weithredydd gwaith hylosgi uchel ei gynhwysedd waredu'r lludw yn unol ag Atodiad IV, Pennod VII, paragraff 4 i Reoliad y Gymuned yn yr un modd â gweithredydd gwaith hylosgi isel ei gynhwysedd.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
15.
- (1) Bydd darpariaethau Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith bio-nwy a gwaith compostio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer trin sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 11 o Atodiad VI, Pennod II i Reoliad y Gymuned.
(2) Yn unol ag Erthygl 6.2(g) ac Atodiad VI, Pennod II, paragraff 14 i Reoliad y Gymuned -
(3) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Compostio gwastraff arlwyo ar y safle y mae'n tarddu ohono
16.
Yn unol ag Erthygl 6.2(g) ac Atodiad VI, Pennod II, paragraff 14 o Reoliad y Gymuned, nid yw darpariaethau'r Bennod honno a darpariaethau rheoliad 14(1)(dd) uchod yn gymwys i gompostio gwastraff arlwyo categori 3 ar y safle y mae'n tarddu ohono ar yr amod -
Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd
17.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 25(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(3) Rhaid i'r gweithredydd gofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
Samplu mewn gweithfeydd prosesu
18.
- (1) Os yw gwaith prosesu yn prosesu deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2, a bod y deunydd sy'n cael ei brosesu i'w anfon i fan tirlenwi (neu, yn achos deunydd Categori 2, i waith bio-nwy neu waith compostio), rhaid i'r gweithredydd, a hynny heb fod yn llai nag unwaith bob wythnos -
(2) Yn achos gweithfeydd prosesu Categori 3, os bwriedir i'r deunydd wedi'i brosesu gael ei ddefnyddio mewn porthiant, rhaid i'r gweithredydd -
(3) Yn achos gweithfeydd prosesu Categori 3, os na fwriedir i'r deunydd wedi'i brosesu gael ei ddefnyddio mewn porthiant, rhaid i'r gweithredydd -
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
19.
- (1) Yn achos gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio, rhaid i'r gweithredydd, o dro i dro yn ôl yr hyn a bennir yn y gymeradwyaeth, gymryd sampl nodweddiadol o ddeunydd sydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau yngln ag amser a thymheredd a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu yn Rheoliad y Gymuned a'i anfon i'w brofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae (neu, yn achos deunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo, Salmonela yn unig) mewn labordy a gymeradwywyd i gynnal y profion hynny.
(2) Ni chaiff neb draddodi unrhyw ddeunydd o waith bio-nwy neu waith compostio nes bod canlyniadau'r prawf wedi dod i law o'r labordy.
(3) Os bydd profion yn cadarnhau nad yw deunydd sydd wedi'i drin yn cydymffurfio â'r terfynau yn Atodiad VI, Pennod II, paragraff 15 i Reoliad y Gymuned, rhaid i'r gweithredydd -
(c) cofnodi'r camau a gymerwyd yn unol â'r rheoliad hwn.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Samplau a anfonir i labordai
20.
- (1) Pryd bynnag y bydd gweithredydd yn anfon sampl i labordy yn unol â'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd anfon gyda'r sampl yr wybodaeth ganlynol mewn ysgrifen -
(2) Bydd yn dramgwydd i unrhyw berson ymyrryd â sampl a gymerwyd o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o effeithio ar ganlyniad y prawf.
(3) Rhaid i'r gweithredydd gadw cofnod o holl ganlyniadau profion labordy.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Labordai
21.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personél a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.
(2) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy lwyddo i gynnal unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu'n rhesymol eu bod yn dda.
(3) Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfingens yn unol â'r dull yn Atodlen 2, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfingens) neu ddull cyfwerth[13].
(5) Rhaid cynnal prawf salmonela yn unol â'r dull yn Atodlen 2, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag -
(6) Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Atodlen 2, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth[16]).
(7) Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn datgelu un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y safle -
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(8) Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod cyntaf pob mis o nifer, math a chanlyniadau'r profion a gynhaliwyd yn ystod y mis blaenorol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(9) Rhaid i waith ailbrosesu yn unol ag Erthygl 25(2)(c) a (d) o Reoliad y Gymuned gael ei gyflawni o dan oruchwyliaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
(10) Os yw'r sampl wedi'i anfon i labordy a gymeradwywyd o safle y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad ym mharagraff (7) i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y safle y mae'r sampl wedi'i anfon ohono.
(3) Caniateir bwydo sgil-gynhyrchion a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned i -
os yw'n unol ag awdurdodiad.
(4) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o safleoedd sy'n cael eu defnyddio i fwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu heidiau o gwn hela cydnabyddedig a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota a fydd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol -
(5) Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.
Canolfannau casglu
27.
- (1) At ddibenion Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned, ni chaiff unrhyw berson weithredu canolfan gasglu fel y'i diffinnir yn Atodiad 1 i Reoliad y Gymuned, at ddibenion bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid -
oni bai bod y safle a gweithredydd y safle wedi'u hawdurdodi.
(2) Rhaid i weithredydd y safle a awdurdodwyd -
(b) sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson a wahoddir i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hyn.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Claddu anifeiliaid anwes
28.
Yn unol ag Erthygl 24(1)(a) o Reoliad y Gymuned, caniateir i anifeiliaid anwes meirw gael eu claddu.
Claddu yn achos brigiad clefyd
29.
- (1) Yn unol ag Erthygl 24(1)(c) o Reoliad y Gymuned, os oes brigiad clefyd sydd wedi'i grybwyll yn Rhestr A o Swyddfa Ryngwladol Clefydau Episootig, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi neu eu claddu ar y safle (fel y diffinnir "burning or burial on site" yn Rhan A o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003) os yw'r sgil-gynnyrch anifeiliaid yn cael ei gludo, a'i gladdu neu ei losgi, yn unol -
(2) Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo.
Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna
30.
Yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, caniateir gwaredu gwenyn a chynhyrchion gwenyna drwy eu claddu neu eu llosgi ar y safle os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â'r Erthygl honno.
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
36.
Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi -
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd
37.
Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi -
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
Cofnodion i'w cadw ar gyfer llwythi o gompost neu weddill traul
38.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd safle y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod yn cael eu cadw arno gofnodi -
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio ar unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi'r gymeradwyaeth, neu'n ei chymeradwyo yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd -
Atal, diwygio neu ddirymu cymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau
40.
- (1) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r gweithredydd -
(2) Bydd atal neu ddiwygio o dan baragraff (1) -
(3) Rhaid i'r hysbysiad -
(4) Pan fydd apêl o dan reoliad 41, ni fydd y diwygiad neu'r ataliad yn effeithiol tan y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad fod yn effeithiol o ddyddiad cynharach, y mae'n rhaid iddo fod wedi'i bennu mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r gweithredydd.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu cymeradwyaeth neu gofrestriad drwy hysbysiad ysgrifenedig os yw wedi'i fodloni, o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y safle yn cael ei redeg yn unol â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn -
Apelau
41.
- (1) Caiff ceisydd neu weithredydd y cyflwynir hysbysiad iddo o dan reoliad 39 neu 40 o fewn 21 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad -
(2) Os yw ceisydd neu weithredydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a chael gwrandawiad gan y person hwnnw -
(3) Rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto i'r ceisydd neu'r gweithredydd.
(5) Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am dalu ffioedd rhesymol a threuliau'r person annibynnol mewn perthynas â'r apêl ac eithrio -
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r ceisydd neu'r gweithredydd ysgwyddo rhan neu'r cyfan o holl ffioedd a threuliau rhesymol y person annibynnol, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd neu'r gweithredydd o'r gyfran y mae wedi'i fodloni y dylai'r ceisydd neu'r gweithredydd eu hysgwyddo.
(7) Bydd y ceisydd, y gweithredydd a'r Cynulliad Cenedlaethol bob un yn gyfrifol am eu costau eu hunain, sef y costau a dynnwyd mewn perthynas â'r apêl.
Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo
42.
Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd -
Glanhau a diheintio
43.
- (1) Os bydd arolygydd yn amau yn rhesymol fod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu safle y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddynt yn risg iechyd i anifail neu i'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal dros y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y safle, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd, y cynhwysydd neu'r safle gael ei lanhau a'i ddiheintio.
(2) Caiff yr hysbysiad -
Cydymffurfio â hysbysiadau
44.
- (1) Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person hwnnw.
(2) Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.
Pwerau mynediad
45.
- (1) Os bydd gofyn iddo wneud hynny, caiff arolygydd, drwy ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, fynd ar unrhyw safle (ac eithrio unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig) ar bob adeg resymol at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Gymuned.
(2) Caiff arolygydd -
(3) Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
(4) Os bydd ynad heddwch wedi'i fodloni ar wybodaeth ysgrifenedig ar lw fod sail resymol i arolygydd fynd i mewn i unrhyw safle (gan eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) at unrhyw ddiben a grybwyllir yn y rheoliad hwn a bod y naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, sef -
caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant yn awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle at y diben hwnnw gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.
(5) Bydd pob gwarant a ddyroddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.
(6) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddir odano, fynd â'r canlynol gydag ef -
(7) Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu, rhaid iddo ei adael wedi'i ddiogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.
(8) Yn y rheoliad hwn mae "safle" yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
Rhwystro
46.
- (1) Bydd unrhyw berson -
yn euog o dramgwydd.
(2) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.
Cosbau
47.
- (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored -
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran -
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi
48.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol yngln â'r canlynol -
(2) Ac eithrio fel a bennir ym mharagraff (1) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill
49.
- (1) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sydd i'w chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn neu mewn perthynas â hwy naill ai -
(2) Os bydd hysbysiad neu ddogfen arall i'w rhoi neu i'w chyflwyno i'r perchennog, priodor, gweithredydd neu feddiannydd unrhyw safle ac nad yw'n ymarferol ar ôl ymchwiliad rhesymol i ganfod enw a chyfeiriad y person y dylid rhoi neu gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen iddo, neu fod y safle heb ei feddiannu, caniateir rhoi neu gyflwyno'r ddogfen drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw drwy'r disgrifiad "perchennog", "priodor", "gweithredydd" neu "feddiannydd" y safle (a'u henwi) ac -
Darpariaethau trosiannol
50.
- (1) Bydd effaith i Atodlen 3 (mesurau trosiannol).
(2) Bydd effaith Rhan I o Atodlen 3 (ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau) yn peidio ar 1 Ionawr 2004.
(3) Bydd effaith Rhan II o Atodlen 3 (casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd) yn peidio ar 1 Ionawr 2006.
(4) Bydd effaith Rhan III o Atodlen 3 (olew coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid) yn peidio ar 1 Tachwedd 2004.
(5) Bydd effaith Rhan IV o Atodlen 3 (gwaed mamaliaid) yn peidio ar 1 Ionawr 2005.
(6) Bydd effaith Rhan V o Atodlen 3 (gweithfeydd oleocemegol sy'n defnyddio brasterau wedi'u rendro o ddeunyddiau Categori 2 a 3) yn peidio ar 1 Ionawr 2005.
(7) Bydd effaith Rhan VI o Atodlen 3 (llosgyddion isel eu cynhwysedd neu weithfeydd cydhylosgi nad ydynt yn hylosgi nac yn cydhylosgi deunyddiau risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys) yn peidio ar 1 Ionawr 2005.
Diwygio a dirymu
51.
- (1) Mae Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio yn unol ag Atodlen 4.
(2) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999[22] a Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001[23] yn cael eu dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[24]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Hydref 2003
(2) Rhaid i'r man lân fod wedi'i gwahanu'n ddigonol oddi wrth y fan dderbyn a'r fan lle mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r fan lân o'r mannau eraill.
(3) Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w glanhau a'i diheintio a rhaid bod ganddi le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd heb eu trin.
2.
Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y fan dderbyn a naill ai -
3.
Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd -
4.
Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos -
5.
Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd heb eu trin yn y man bwrpasol cyn iddynt adael y safle a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo gwastraff arlwyo sydd heb ei drin yn unig ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.
System | Compostio mewn adweithydd caeedig | Compostio Mewn adweithydd caeedig | Compostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu |
Mwyafswm Maint y gronyn | 40cm | 6cm | 40cm |
Isafbwynt Tymheredd | 60°C | 70°C | 60°C |
Lleiafswm amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd | 2 ddiwrnod | 1 awr | 8 diwrnod (yn ystod y cyfnod, rhaid troi'r rhenc o leiaf dair gwaith heb fod yn llai aml na phob dau ddiwrnod) |
System | Bio-nwy mewn adweithydd caeedig | Bio-nwy mewn adweithydd caeedig |
Mwyafswm maint y gronyn | 5cm | 6cm |
Isafbwynt tymheredd | 57°C | 70°C |
Lleiafswm amser a dreuliwyd ar isafbwynt y ymheredd | 5 awr | 1 awr |
Gweithfeydd bio-nwy
4.
Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac yn ychwanegol ei gwneud yn ofynnol bod y naill neu'r llall o'r canlynol yn cael ei wneud -
a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.
Archwilio'r is-feithriniadau
Symudoldeb
10.
Rhaid archwilio symudoldeb cyfrwng nitrad am y math o dyfiant ar hyd y llinell drywanu. Os oes tystiolaeth o dyfiant yn tryledu i mewn i'r cyfrwng oddi wrth y llinell drywanu, rhaid ystyried bod y bacteria yn symudol.
Rhydwytho nitrad i nitrid
11.
Ar ôl archwilio symudoldeb cyfrwng nitrad, rhaid ychwanegu 0.2 ml i 0.5 ml o adweithydd canfod nitrid iddo. Bydd lliw coch yn ffurfio yn cadarnhau bod y bacteria wedi rhydwytho nitrad i nitrid. Rhaid diystyrru meithriniadau sy'n dangos adwaith wan (h.y. lliw pinc). Os nad yw lliw coch yn ymffurfio cyn pen 15 munud, rhaid ychwanegu swm bach o lwch zinc a gadael i'r plât sefyll am 15 munud. Os bydd lliw coch yn ymffurfio ar ôl ychwanegu llwch zinc, bydd hyn yn cadarnhau nad yw nitrad wedi'i rydwytho i nitrid.
Cynhyrchu nwy ac asid o lactos a gelatin yn troi'n hylif
12.
Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am bresenoldeb swigod bach nwy yn y cyfrwng.
13.
Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am liw. Mae lliw melyn yn dangos bod y lactos wedi eplesu.
14.
Rhaid oeri'r cyfrwng gelatin lactos am un awr ar 2 - 8°C ac yna'i wirio i weld a yw'r gelatin wedi hylifo. Os yw'r cyfrwng wedi ymsolido, rhaid ei ailddeor yn anerobig am 18 - 24 awr eto, oeri'r cyfrwng am un awr eto ar 2 - 8°C a'i wirio eto i weld a yw'r gelatin wedi hylifo.
15.
Rhaid penderfynu ar bresenoldeb Clostridium perfringens ar sail y canlyniadau o baragraffau 10 i 14. Rhaid ystyried bod bacteria sy'n cynhyrchu cytrefi duon ar agar SF, yn ansymudol, yn rhydwytho nitrad i nitrid, yn cynhyrchu nwy ac asid o lactos ac yn hylifo gelatin o fewn 48 awr yn Clostridium perfringens.
Profion Rheoli
16.
Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio -
17.
Rhaid rhoi darnau 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol yn y naill a'r llall o ddau gynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Dd r Pepton Byfferog (BPW)[30] a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y samplau mewn daliant gwastad.
18.
Rhaid rhoi un gytref o Clostridium perfringens mewn 10 ml BPW a'i chymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol. Rhaid ailadrodd hyn ar gyfer Escherichia coli.
19.
Yna caiff y rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.
Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.
7.
Rhaid i'r cawl RV a ailddeorwyd gael ei osod ar blatiau fel a ddisgrifir ym mharagraff 4.
Diwrnod 5
8.
Rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyrru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent "O" ac amryfalent "H" (cyfnod 1 a 2) sera cyflynedig ar gytrefi detholedig a amheuir a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un neu ddau o'r sera, rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau ac anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer teipio pellach.
9.
Rhaid archwilio'r platiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 a chymryd camau pellach yn ôl paragraff 6 ac 8.
B. Y DULL DARGLUDIANT TRYDANOL
1.
Rhaid dechrau'r profion pan geir y sampl neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei angen. Os cafodd y sampl ei roi mewn oergell rhaid ei dynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.
Diwrnod 1
2.
Rhaid gweithredu'r profion yn ddeublyg drwy ddefnyddio dwy gyfran 25 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddr Pepton/Lysin/Glwcos Byfferog (BPW/L/G)[35] a'u deor ar 37°C am 18 awr.
Diwrnod 2
3.
Rhaid ychwanegu'r BPW/L/G a ddeorwyd at gyfrwng Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin-N-Ocsid (SC/T/D)[36] a Glwcos Lysin Decarbocsylas (LD/G)[37] mewn celloedd neu bantiau dargludo trydannol. Ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng mwy na 5 ml rhaid ychwanegu 0.2 ml o BPW/L/G ac ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng 5 ml neu lai rhaid ychwanegu 0.1 ml o BPW/L/G. Rhaid bod y celloedd neu'r pantiau wedi'u cysylltu â chyfarpar mesur dargludiant trydanol addas a osodwyd i fonitro a chofnodi newidiadau yn y dargludiant trydanol fesul 6 munud dros gyfnod o 24 awr. Rhaid cadw tymheredd y celloedd a'r pantiau ar 37°C.
Diwrnod 3
4.
Ar ddiwedd y cyfnod 24 awr, rhaid i'r wybodaeth a gofnodwyd gan y cyfarpar mesur dargludiant gael ei dadansoddi a'i dehongli gan ddefnyddio'r meini prawf a ddiffinnir gan weithgynhyrchwyr y cyfarpar. Os dynodir dros dro bod pant neu gell yn cadarnhau bod Salmonela'n bresennol, rhaid cadarnhau'r canlyniad drwy is-feithrin cynnwys y pant neu'r gell ar ddwy blât 90 milimedr o BGA neu ar un blât 90 milimedr o BGA ac un blât 90 milimedr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD) sy'n defnyddio dolen 2.5 mm diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau ac sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o'r naill blât mewn patrwm igam ogam gan fynd ymlaen i'r blât arall heb ailwefru'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm - 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C dros nos.
Diwrnod 4
5.
Rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o dair cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela -
Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.
Diwrnod 5
6.
Rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a chofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyrru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent "O" ac amryfalent "H" (cyfnod 1 a 2) sera cyfludol ar gytrefi detholedig a amheuir a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un neu ddau o'r sera, rhaid anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer teipio pellach.
ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau a ydyw'r cytrefi yn Enterobacteriaceae neu beidio.
6.
Ar ôl cyfrif y cytrefi, rhaid cymryd cytrefi nodweddiadol ar hap o'r platiau agar, a rhaid i'r nifer fod o leiaf yn ail isradd y cytrefi a gyfrifwyd. Rhaid is-feithrin y cytrefi ar blât agar gwaed a'u deor yn aerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.
Archwilio'r is-feithriniadau
7.
Rhaid cyflawni prawf ocsidas a phrawf eplesiad glwcos ar bob un o'r pum cytref a gafodd eu his-feithrin. Rhaid ystyried bod cytrefi sy'n ocsidas-negyddol ac eplesiad glwcos-cadarnhaol yn Enterobacteriaceae.
8.
Os na phrofir bod yr holl gytrefi yn Enterobacteriaceae, rhaid i'r cyfanswm cyfrif ym mharagraff 5 gael ei leihau yn gymesur cyn cadarnhau a ddylai'r sampl fethu neu beidio.
Dulliau rheoli
9.
Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio -
10.
Rhaid rhoi cyfran 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml BPW a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.
11.
Rhaid rhoi un gytref o Escherichia coli mewn 10 ml BPW a'i gymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol.
12.
Yna caiff rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.
Cymeradwyaethau
3.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo -
(2) Dim ond os oedd y casglydd neu'r gweithredydd yn casglu, trin neu flendio olewau coginio defnyddiedig ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.
4.
Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu -
5.
- (1) Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odani yn cael eu bodloni mwyach.
(2) Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.
Ymrwymiadau cyffredinol
6.
- (1) Rhaid i olew coginio defnyddiedig gael ei gasglu, ei gludo, ei storio, ei drafod, ei drin, a'i ddefnyddio yn unol â'r Rhan hon.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) yn euog o dramgwydd.
(3) Rhaid gwaredu unrhyw olew coginio defnyddiedig nad yw'n cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon yn unol â chyfarwyddyd arolygydd drwy hysbysiad.
7.
Rhaid i olew coginio defnyddiedig -
Casglu a chludo olew coginio defnyddiedig
8.
- (1) Rhaid casglu a chludo olew coginio defnyddiedig mewn cynwysyddion â chaeadau neu mewn cerbydau sy'n ddiogel rhag gollwng a rhaid dynodi'r olew hwnnw yn y fath fodd ag i sicrhau bod modd olrhain y cynnwys, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gymysgu, i bob safle tarddiad.
(2) Rhaid i gasglwyr gymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau bod yr olew coginio defnyddiedig yn rhydd rhag halogiad â sylweddau niweidiol.
(3) Rhaid i gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio, a phob eitem o ran cyfarpar neu offer y gellir ei hailddefnyddio ac sy'n dod i gysylltiad ag olew coginio defnyddiedig, gael eu glanhau, eu golchi a'u diheintio ar ôl pob defnydd arnynt.
(4) Rhaid i gerbydau neu gynwysyddion sy'n cario unrhyw ddeunydd a allai halogi'r olew coginio defnyddiedig gael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr cyn iddynt gael eu defnyddio i gario olew coginio defnyddiedig.
Safleoedd a gymeradwywyd a rhedeg safleoedd blendio
9.
Rhaid i weithredydd safle a gymeradwywyd sicrhau bod y safle yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rhan hon a'i fod yn cael ei redeg yn unol â hwy.
10.
- (1) Cyn ei gymysgu ag olew arall, rhaid i weithredydd safle blendio sicrhau bod pob swp o olew coginio defnyddiedig yn cael ei brofi i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau ym mharagraff 16 o'r Rhan hon. Rhaid i swp beidio â bod yn fwy na 30 tunnell.
(2) Rhaid i gasglwyr a gweithredwyr safleoedd a gymeradwywyd sicrhau na fydd olew coginio defnyddiedig nad yw'n cydymfurfio â'r safonau ym mharagraff 16 o'r Rhan hon yn cael ei ddefnyddio.
Safleoedd a gymeradwywyd
11.
- (1) Rhaid i safleoedd a gymeradwywyd fod wedi'u hadeiladu yn y fath fodd ag i sicrhau eu bod yn hawdd i'w glanhau a'u diheintio.
(2) Rhaid i bersonau ac anifeiliaid heb awdurdod beidio â chael mynd i'r safle.
(3) Rhaid bod gan y safle gyfleusterau digonol ar gyfer glanhau a diheintio'r cynwysyddion neu'r llestri y mae'r olew coginio defnyddiedig yn cael ei dderbyn ynddynt ac, os yw'n briodol, y cerbydau y mae'n cael ei gludo ynddynt.
(4) Rhaid bod gan y safle doiledau a chyfleusterau ymolchi digonol i'r staff.
(5) Rhaid bod gan y safle le dan orchudd, sydd wedi'i farcio'n glir, i dderbyn olew coginio defnyddiedig.
(6) Os yw'n briodol, rhaid bod gan y safle fan storio ar wahân ar gyfer unrhyw olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.
(7) Rhaid selio tanciau ag awyrellau sydd wedi'u lleoli a'u sgrinio mewn ffordd sy'n atal halogion neu blâu rhag mynd i mewn iddynt.
(8) Rhaid selio pibellau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Hunanwiriadau'r gweithredydd
12.
- (1) Rhaid i weithredwyr safleoedd a gymeradwywyd gymryd pob mesur sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(2) Rhaid iddynt sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn sydd wedi'i datblygu yn unol ag egwyddorion y system dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP).
(3) Yn benodol rhaid iddynt -
13.
- (1) Rhaid i weithredydd safle blendio a gymeradwywyd gyflawni gwiriadau a chymryd samplau at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r safonau ym mharagraff 16.
(2) Os bydd canlyniadau gwiriad neu brawf yn dangos nad yw'r olew coginio defnyddiedig yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd -
14.
- (1) Rhaid i'r gweithredydd gofnodi canlyniadau'r gwiriadau a'r profion.
(2) Rhaid i'r gweithredydd gadw sampl o bob llwyth o olew coginio defnyddiedig a anfonwyd o'r safle am o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad ei anfon.
Y gofynion o ran hylendid mewn safleoedd a gymeradwywyd
15.
- (1) Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri ac, os yw'n briodol, cerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo olew coginio defnyddiedig mewn man ddynodedig.
(2) Rhaid cymryd mesurau atal yn erbyn adar, cnofilod, trychfilod neu fermin arall yn systemataidd.
(3) Rhaid peidio â storio olew coginio defnyddiedig y bwriedir ei ddefnyddio yn yr un man ag olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd neu gynhyrchion anifeiliaid a allai greu risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd pobl.
(4) Rhaid sefydlu a dogfennu gweithdrefnau glanhau ar gyfer pob rhan o'r safle.
(5) Rhaid i waith rheoli hylendid gynnwys archwilio'r amgylchedd a'r cyfarpar.
(6) Rhaid cofnodi amserlenni archwilio a chanlyniadau'r archwilio.
(7) Rhaid cadw gosodiadau a chyfarpar mewn cyflwr da.
(8) Rhaid calibradu cyfarpar mesur o leiaf unwaith y flwyddyn.
(9) Rhaid glanhau tanciau a phibellau yn fewnol o leiaf unwaith y flwyddyn neu pan fydd d r a halogion ffisegol wedi cronni.
(10) Rhaid trafod a storio olew coginio defnyddiedig sydd wedi'i drin yn y fath fodd ag i atal halogiad.
Manyleb ar gyfer olew coginio defnyddiedig i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid
16.
- (1) Rhaid i olew coginio defnyddiedig fodloni'r safonau gofynnol canlynol cyn iddo gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.
(2) Halogiad ffisegol:
(3) Presenoldeb olew mwynol: yn absennol.
(4) Presenoldeb asidau brasterog ocsidiedig: >88% o'i gynnwys yn asidau brasterog echludadwy.
(5) Bod presenoldeb gweddillion plaleiddiaid yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb 2002/32/EC[43] Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.
(6) Presenoldeb biffenylau polyclorinedig (PCB)s: <100ppb ar gyfer y saith prif gytras[44].
(7) Presenoldeb Salmonela: yn absennol.
(8) Presenoldeb braster anifeiliaid:
Dogfennau masnachol
17.
- (1) Caiff dogfennau masnachol fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.
(2) Rhaid bod dogfen fasnachol ysgrifenedig neu allbrint o ddogfen electronig yn mynd gyda llwyth o olew coginio defnyddiedig tra bydd yn cael ei gludo.
(3) Rhaid i'r cynhyrchydd, y derbynnydd a'r cludydd gadw copi bob un o ddogfen fasnachol ysgrifenedig neu, yn achos gwybodaeth electronig, cofnod o'r wybodaeth honno.
(4) Rhaid i ddogfennau masnachol gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
Cofnodion
18.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon, yn cludo neu'n derbyn olew coginio defnyddiedig gadw cofnod sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ddogfen fasnachol.
(2) Ar gyfer olew coginio defnyddiedig sy'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, rhaid bod modd olrhain yr olew yn llawn hefyd drwy'r cofnodion o'r safle tarddiad nes iddo gael ei ymgorffori yn y bwyd anifeiliaid.
(3) Ar gyfer olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, rhaid i'r person sy'n anfon yr olew i'w waredu gadw cofnod hefyd sy'n dangos dull a man ei waredu a'r dyddiad yr anfonwyd yr olew i gael ei waredu.
Rhestr o safleoedd
19.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw rhestr o enwau a chyfeiriadau'r personau canlynol a gymeradwywyd:
(2) Rhaid pennu Rhif adnabod swyddogol ar gyfer pob casglydd a gweithredydd safle a gymeradwywyd.
(3) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod y rhestr hon ar gael i'r cyhoedd.
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
5.
Yn achos toriad i lawr neu gamweithio, rhaid i'r gweithredydd leihau'r gweithrediadau neu eu cau i lawr cyn gynted ag y bo'n ymarferol nes bod modd ailgychwyn a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
4.
Ar ôl rheoliad 34 mewnosodir -
5.
Yn lle rheoliad 40 rhoddir y rheoliad canlynol -
6.
Yn lle Atodlen 5 (Cymhwyso Rhan IV o'r Rheoliadau at anifeiliaid y cynllun) rhoddir yr Atodlen ganlynol -
PROVISION OF THE REGULATIONS | EXTENT TO WHICH THE PROVISON APPLIES TO SCHEME ANIMALS |
Regulation 33(3) | Not applicable |
Regulation 33(4) | Subject to the modification that from the point at which specified risk material derived from a scheme animal is removed from the slaughterhouse, it may come into contact with any other animal material from such an animal |
Regulation 34 | Not applicable |
Regulation 39(3)(b) | Not applicable |
Regulation 57 | Not applicable |
Bwriedir gwneud darpariaeth yng Nghymru drwy offeryn ar wahân ar gyfer gweinyddu a gorfodi mesurau yn Rheoliad y Gymuned yngln ag allforio a masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau.
Mae Rheoliad y Gymuned yn categoreiddio deunydd sy'n ffurfio neu'n cynnwys sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fel a ganlyn -
Mae'r Rheoliadau yn darparu fel a ganlyn:
Mae rheoliad 10 yn gorfodi'r cyfyngiadau ar ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu mewnrywogaethol, bwydo gwastraff arlwyo i anifeiliaid fferm a dodi gwrteithiau organig ar dir pori. Mae rheoliad 11 yn diffinio tir pori. Mae rheoliad 12 yn caniatáu ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau ar ôl 1 Ionawr 2004. Tan hynny mae'n cael ei ganiatáu drwy fesur trosiannol yn Rhan VI o Atodlen 4.
Mae Rheoliadau 13 i 16 yn darparu ar gyfer cymeradwyo safleoedd ar gyfer y gwahanol fathau o ddulliau trin sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae Rheoliad 16 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer compostio ar safle y deilliodd y deunydd a gompostiwyd ohono os cydymffurfiwyd ag amodau'r rheoliad hwnnw.
Mae Rheoliadau 17 i 21 yn darparu ar gyfer gwiriadau mewn gweithfeydd, wrth samplu ac mewn labordai a gymeradwywyd.
Mae Rheoliadau 22 i 24 yn rheoleiddio gosod ar y farchnad sgil-gynhyrchion anifeiliaid amrywiol sydd wedi'u prosesu.
Mae Rheoliadau 25 i 27 yn darparu rhan-ddirymiadau yngln â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi a bwydo rhai anifeiliaid penodedig. Mae Rheoliad 28 yn caniatáu claddu anifeiliaid anwes.
Mae Rheoliad 29 a 30 yn darparu ar gyfer claddu neu losgi yn achos brigiad clefyd neu ar gyfer llosgi neu gladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna.
Mae Rheoliadau 31 i 38 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion.
Mae Rheoliadau 39 i 41 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gymeradwyaethau, atal neu ddirymu cymeradwyaethau ac apêl yn erbyn hysbysiad i ddiwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaeth.
O dan reoliadau 42 i 44 caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i sgil-gynnyrch anifeiliaid neu wastraff arlwyo gael ei waredu ac yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu safle gael ei lanhau a'i ddiheintio. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y mae'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo.
Mae Rheoliadau 45 a 46 yn darparu pwerau mynediad a thramgwydd o rwystro arolygydd.
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a chompostio, ac mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer dulliau profi.
Mae Atodlen 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol o ran ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau, gwaredu cyn-fwydydd, olewau coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid, gwaredu gwaed mamaliaid, gweithfeydd oleocemegol a llosgyddion isel eu cynhwysedd.
Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol neu gyfnod o chwe mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu dymor o ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb (rheoliad 48).
Mae'r Rheoliadau yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol ac eithrio ar safleoedd penodedig (rheoliad 49).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[3] OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.back
[5] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back
[6] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.back
[7] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.back
[8] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.back
[9] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.back
[10] OJ Rhif L117 13.5.2003, t.44.back
[11] Ychwanegwyd Pennod VII at Atodiad IV gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.back
[12] Ychwanegwyd y paragraffau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.back
[13] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, British Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[14] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.back
[15] Cyhoeddwyd gan y Pwyllgor Nordig ar Ddadansoddi Bwyd, Y Sefydliad Milfeddygol Cenedlaethol, Adran Bwyd a Hylendid, Blwch Post 8156, N-0033, Oslo, Norwy.back
[16] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.back
[17] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/2418, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729 ac O.S. 1997/2074.back
[18] O.S. 1995/540 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205 ac O.S. 1997/1729.back
[19] O.S. 1995/2148 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3205.back
[20] O.S. 1994/3082 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205 ac O.S. 1996/1499.back
[21] O.S. 1995/3205 fel y'i diwygiwyd gan O.S 1996/3124.back
[23] O.S. 2001/1735 (Cy.122).back
[25] Agar Shahidi-Ferguson - Gweler Shahidi, S. A. a Ferguson, A. R. (1971) Applied Microbiology 21:500-506.American Society for Microbiology, 1913 1 St N.W., Washington DC 20006, UDA.back
[26] Cyfrwng symudoldeb nitrad - Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O'Keefe MF, Vahlefeld R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892. National Research Council of Canada, Ottawa ON K1A oR6, Canada.back
[27] Cyfrwng Gelatin Lactos - Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O'Keefe MF, Vahlefield R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892.back
[28] Disgiau gelatin golosg - Gweler Mackie and McCartney, (1996) Practical Medical Microbiology 14, 509. Churchill Livingstone, Robert Stevenson House, 1-3 Baxter's Place, Leith Walk, Caeredin EH1 3AF.back
[29] The National Collection of Type Cultures, Central Public Health Laboratory, 61 Colindale Ave, Llundain NW9 5HT.back
[30]
D r Pepton Byfferog - Gweler Edel, W. and Kampelmacher, E.H. (1973) Bulletin of World Health Organisation, 48: 167-174, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genéve 27, Y Swisdir (ISSN 0042-9686).back
[31] Rappaports Vassiliadis Broth - Gweler Vassiliadis P, Pateraki E, Papaiconomou N, Papadkis J A, and Trichopoulos D (1976) Annales de Microbiologie (Institute Pasteur) 127B: 195-200, Elsevier, 23 rue Linois, 75724 Paris, Cedex 15, Ffrainc.back
[32] Brilliant Green Agar - Gweler Edel W and Kampelmacher E H (1969) Bulletin of World Health Organisation 41:297-306, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genéve 27, Y Swisdir (ISSN 0042-9686).back
[33] Xylose Lisene Deoxycholate Agar - Gweler Taylor W I, (1965) American Journal of Clinical Pathology, 44:471-475, Lippincott and Raven, 227E Washington Street, Philadelphia PA 19106, UDA.back
[34] MacConkey agar - Gweler (1963) International Standards for Drinking Water, World Health Distribution and Sales, CH-1211, Genéve 27, Y Swisdir.back
[35] Buffered Peptone Water/Lysine/Glucose - Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbiology 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).back
[36] Selenite Cystine Trimethylamine-N-Oxide Dulcitol - Gweler Easter, M C and Gibson, D M, (1985) Journal of Hygiene 94:245-262, Cambridge University Press, Caer-grawnt.back
[37] Lysine Decarboxylase Glucose - Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbilogy 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).back
[38] Violet Red Bile Glucose Agar - Gweler Mossell D A A, Eelderink I, Koopmans M, van Rossem F (1978) Laboratory practice 27 No. 12 1049-1050; Emap Maclaren, PO Box 109, Maclaren House, 19 Scarbrook Road, Croydon CR9 1QH.back
[39] Mae cymedr Rhif yddol o 30 yn gyfwerth i 3x10 2 uned ffurfio cytref fesul gram o'r sampl gwreiddiol.back
[40]
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yngln â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol. OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back
[41]
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yngln â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.back
[42]
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yngln â defnyddio mewn bwyd olewau coginio defnyddiedig, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.back
[43] OJ Rhif L 140, 30.05.2002, t.10.back
[44] Biffenylau polyclorinedig ICES7.back
[45]
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yngln â'r safonau prosesu ar gyfer gwaed mamaliaid, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.back
[46]
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yngln â gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.back
[47]
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yngln â gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn hylosgi nac yn cydhylosgi deunyddiau risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.44.back
[48] O.S. 2002/1416 (Cy. 142).back
[49] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.back
[50] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back
[51] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.back
[52] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.back
[53] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.back
[54] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.back
[55] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.44.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 6 November 2003 |