British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 Rhif 2727 (Cy.262)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032727w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2727 (Cy.262)
AER GLÂN, CYMRU
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
23 Hydref 2003 | |
|
Yn dod i rym |
14 Tachwedd 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], gan ei fod wedi'i fodloni y gall y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwyddau nad ydynt yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 14 Tachwedd 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
2.
Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd allyriannau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Hydref 2003
YR ATODLENErthygl 2
Dosbarthiadau o leoedd tân esempt
Dosbarthiadau o leoedd tân
|
Amodau
|
Y B9 Energy Wood Chip Gasifier Unit a gynhyrchir gan B9 Energy Biomass Limited, Unit 22, Northland Road Industrial Estate, Londonderry, Gogledd Iwerddon. |
1.
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod "001/B9ENERGY BIOMASS".
2.
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw sglodion o bren heb eu trin, ysgyrion o bren neu ddarnau bach o bren heb eu trin.
|
Modelau 110, 140, 180, 220, 280 a 350 o'r Mawera FU-RIA wedi'u cynhyrchu gan Mawera (UK) Limited, 31 Enterprise Industrial Park, Britannia Way, Caerlwytgoed, Swydd Stafford, Lloegr WS14 9UY. |
1.
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 31 Hydref 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod "098234-01".
2.
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren, cynhyrchion pren, gweddillion fforest, teneuon fforest, bwrdd sglodion MDF wedi'i orchuddio â melamin neu heb ei orchuddio, pren haenog, neu gynhyrchion pren cyfansawdd.
|
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedaethol Cymru, trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.
Notes:
[1]
1993 p.11.back
[2]
Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090799 X
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
30 October 2003
|