BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) (Amrywio) 2003 Rhif 2726 (Cy.261)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032726w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2726 (Cy.261)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) (Amrywio) 2003

  Wedi'i wneud 23 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 31 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Tir Ffermio a Datblygu Gwledig 1988[1] ac adrannau 28 a 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[2] yn gwneud y cynllun canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) (Amrywio) 2003, mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Hydref 2003.

Diwygio Cynllun Grant Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001
    
2.  - (1) Diwygir Cynllun Grant Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001[3] fel a ganlyn.

    (2) Rhoddir, yn lle'r diffiniad o "banc" ym mharagraff 2, y diffiniad canlynol  - 

      " ystyr "banc" ("bank") yw  - 

        (i) person a chanddo ganiatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000[4]) i dderbyn adneuon,

        (ii) cwmni'r Ardal Economaidd Ewrop o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff 5(b) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno a chanddo ganiatâd o dan baragraff 15 o'r Atodlen honno (o ganlyniad i gymhwyso ar gyfer awdurdodi o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno) i dderbyn adneuon,

        (iii) y banc Cynilion Cenedlaethol,

        (iv) banc bwrdeistrefol, sef cwmni a oedd, yn union cyn diddymu Deddf Bancio 1987[5] wedi ei eithrio o'r gwaharddiad yn adran 3 o'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 4(1) o'r Ddeddf honno a pharagraff 4 o Atodlen 2 iddi, neu

        (v) undeb gredyd o fewn cwmpas yr ystyr yn Neddf Undebau Credyd 1979[6]."

    (3) Mewnosodir y paragraff isod ar ôl is-baragraff (1) o baragraff 2.

        " (1A) Rhaid i ddiffiniad "banc" ("bank") yn is-baragraff (1) gael ei ddarllen gydag  - 

      (a) adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000;

      (b) unrhyw orchymyn perthnasol a wnaed o dan yr adran honno; ac

      (c) Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)


Mae'r Cynllun hwn yn diwygio Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001.

Mae'r diwygiadau a wneir yn ymwneud â diffinio banc ac maent yn dod yn sgil Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.


Notes:

[1] 1988 p.16. Trosglwyddwyd pob swyddogaeth unrhyw Weinidog y Goron o dan y Ddeddf hon, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] 1970 p.40; diffinnir "the appropriate authority" a "the appropriate Minister" yn adran 28(1). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth unrhyw Weinidog y Goron o dan adrannau 28 a 29, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2001/643 (Cy.32).back

[4] 2000 p.8.back

[5] 1987 p.22.back

[6] 1979 p.34.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090798 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 29 October 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010