British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 Rhif 2661 (Cy.257)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032661w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2661 (Cy.257)
BWYD, CYMRU
Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003
|
Wedi'i wneud |
14 Hydref 2003 | |
|
Yn dod i rym |
17 Hydref 2003 | |
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw mewnforio Coed Anis penodol a draddodir o wledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd yn golygu bellach bod risg o niwed i iechyd ar fin digwydd;
Yn awr, gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru, ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 a daw i rym ar 17 Hydref 2003 a bydd yn gymwys i Gymru'n unig.
Dirymu
2.
Caiff Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002[2] ei ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Hydref 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/402) (Cy. 50) ("Gorchymyn 2002"), a oedd yn gwahardd mewnforio Coed Anis a Choed Anis Siapaneaidd i Gymru os o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd yr oeddent yn cael eu hanfon onid oedd amodau arbennig yn cael eu bodloni. Rhoddodd Gorchymyn 2002 ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/75/EC sy'n pennu amodau arbennig ar fewnforio Coed Anis o drydydd gwledydd (OJ Rhif L33, 2.2.2002, t.31). Diddymwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/602/EC (OJ Rhif L204, 13.8.2003, t.60).
Notes:
[1]
1990 p.16; mae swyddogaethau o dan Ddeddf 1990 sy'n ymwneud â gorchmynion rheolaeth frys bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae paragraffau 11 a 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 yn diwygio adrannau 13 a 48 o Ddeddf 1990 yn y drefn honnoback
[2]
O.S. 2002/402(Cy. 50).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090796 5
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
20 October 2003
|