British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 Rhif 1915 (Cy.209)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031915w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1915 (Cy.209)
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
20 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog gan baragraff 113 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949
2.
Ym mharagraff 83 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (sydd, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, yn eithrio dyfroedd penodol sy'n ffurfio rhan o Afon Teifi o'r diffiniad o "sea" a "seashore"), yn lle "above the ferry north of St Dogmells" rhodder y geiriau "above Priory Bridge at Cardigan"."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Carwyn Jones
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
20 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 ("y Ddeddf") yn pennu dyfroedd nad ydynt, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf (diogelu'r arfordir), wedi'u cynnwys yn yr ymadroddion "sea" a "seashore". Mae'r Rheoliadau hyn yn amrywio Atodlen 4 i'r Ddeddf er mwyn ymestyn y rhan honno o Afon Teifi a gynhwysir yn yr ymadroddion hynny.
Notes:
[1]
1949 p.74.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
English version
ISBN
0 11090773 6
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
13 August 2003
|