British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 Rhif 1856 (Cy.206)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031856w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1856 (Cy.206)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
16 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973[1] ("y Ddeddf") ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Symiau taliad colli cartref diwygiedig
2.
Pan fydd y dyddiad disodli ar y dydd y daw'r Rheoliadau i rym neu wedi hynny -
(a) yr uchafswm taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(1) o'r Ddeddf yw £31,000;
(b) yr isafswm taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(1) o'r Ddeddf yw £3,100; ac
(c) swm y taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(2) o'r Ddeddf yw £3,100.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn codi uchafswm ac isafswm y taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn codi swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae gan berson sy'n cael ei ddisodli o annedd o ganlyniad i bryniant gorfodol neu o dan yr amgylchiadau eraill a nodir yn adran 29 o'r Ddeddf yr hawl i daliad colli cartref. Sefydlwyd y sail bresennol ar gyfer asesu maint taliad colli cartref gan ddiwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.
Os digwydd i berson sy'n meddiannu annedd ar y dyddiad disodli fod â buddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu i swm y taliad colli cartref gael ei gyfrif fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a'r swm hwnnw'n ddarostyngedig i uchafswm a lleiafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi maint y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Yn sgil ymgynghoriad, mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn codi'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £15,000 i £31,000 ac mae rheoliad 2(b) yn codi'r lleiafswm o £1,500 i £3,100. Mae rheoliad 2(c) yn codi'r taliad colli cartref sy'n daladwy o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall, o £1,500 i £3,100.
Dim ond uchafswm a lleiafswn y taliadau colli cartref sy'n cael eu newid ac nid oes newid i'r ganran daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sy'n cael ei ddisodli.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fydd dyddiad y disodli yn digwydd ar 1 Medi 2003 neu wedi hynny.
Notes:
[1]
1973 p.26; mewnosodwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34, a hynny'n effeithiol o 25 Medi 1991 (gweler O.S. 1991/2067, erthygl 3).back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[3]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11090771 X
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
23 July 2003
|