British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1849 (Cy.199)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031849w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1849 (Cy.199)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
16 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
18 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(c), (d) ac (f), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach[2] ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2003.
Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
2.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995[4]) yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(a) yn lle'r diffiniad o "the 1992 Order" rhodder y diffiniad canlynol -
"
"the 1999 Order" means the Animal By-Products Order 1999[5];";
(b) mewnosoder y diffiniad canlynol rhwng y diffiniad o "animal by-products premises" a'r diffiniad o "carcase" -
"
"approved premises" means premises which are approved under article 7 of the 1999 Order;"; a
(c) dileer y diffiniad o "sterilised".
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (ystyr "animal by-product") dileer y gair "direct".
(4) Ym mharagraff (a) o reoliad 4 (cwmpas) dileer y geiriau "sterilisation or".
(5) ym mharagraff (2) o reoliad 5 ( esemptiadau)
(a) dileer y geiriau "and sterilisation";
(b) rhodder yr is-baragraff canlynol o flaen is-baragraff (a) -
"
(a) poultry heads and feet which -
(i) have been subjected to a post-mortem veterinary inspection, and
(ii) during the course of the inspection did not show gross pathological lesions indicating disease communicable to man or animals;".
(6) Ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d) o baragraff (2) o reoliad 5 (esemptiadau) rhodder yr ymadrodd "the 1999 Order" yn lle'r ymadrodd "the 1992 Order."
(7) Yn rheoliad 6 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeliaid mewn storfeydd oer, tir ac adeiladau torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai) -
(a) yn y pennawd dileer y geiriau "sterilisation and";
(b) ym mharagraff (1) dileer y geiriau "sterilised or";
(c) dileer paragraff (2)(a);
(ch) ym mharagraff (2)(b) -
(i) dileer y gair "or" pan ymddangoso ar ddiwedd is-baragraff (i), a
(ii) ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder yr is-baragraff canlynol -
"
(iii) is immediately moved, in the manner specified in paragraph (4), to approved premises for rendering there, or to premises which are adequately separated from the cold store, cutting premises, game processing facility or slaughterhouse concerned for incineration there in accordance with article 10 of the 1999 Order.";
(d) dileer paragraff 2(c);
(dd) ym mharagraff (3) -
(i) rhodder yr ymadrodd "paragraph (2)(b) above" yn lle'r ymadrodd "paragraph (2)(a) or (b) above", a
(ii) dileer yr ymadrodd "sterilised or, as the case may be,"; ac
(e) yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff canlynol -
"
(4) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the cold-store, cutting premises, game processing facility or slaughterhouse concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated.".
(8) Yn rheoliad 7 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar dir ac mewn adeiladau sgil-gynhychion anifeiliaid) -
(a) yn y pennawd dileer y geiriau "sterilisation and";
(b) ym mharagraff (1) -
(i) rhodder yr ymadrodd "paragraphs (2) and (3)" yn lle'r ymadrodd "paragraph (2)", a
(ii) dileer y geiriau "sterilised or"; a
(c) yn lle paragraffau (2) a (3), rhodder y paragraffau canlynol -
"
(2) The duty imposed by paragraph (1) shall not apply in relation to any animal by-product which is immediately moved, in the manner specified in paragraph (3), to approved premises for rendering there, or to premises which are adequately separated from the animal by-products premises concerned for incineration there in accordance with article 10 of the 1999 Order.
(3) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the animal by-products premises concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated.".
(9) Ym mharagraff (1) o reoliad 8 (rhewi sgil-gynhyrchion anifeilaidd ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau sgil-gynhyrchion, storfa oer, tir ac adeiladau torri, cyfleuster prosesu helgig neu ladd-dy) dileer yr ymadrodd "sterilised or".
(10) Ym mhob un o baragraffau (1) a (3) o reoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid) dileer y gair "unsterilised".
(11) Ym mhob un o baragraffau (1) a (2) o reoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid) dileer yr ymadrodd "sterilised or".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny ("Rheoliadau 1995") wrth gael eu cymhwyso i Gymru ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer sterileiddio neu staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar gyfer symud y sgil-gynhyrchion hynny.
2.
Effaith y diwygiadau yw na chaniateir sterileiddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o hyn allan. Mae staenio bellach yn ofynnol ym mhob achos, ac eithrio pan bennir hynny yn rheoliad 5(2), 6(2) neu 7(2) o Reoliadau 1995. Effaith y diwygiadau yw nad yw staenio'n ofynnol pan symudir sgil-gynnyrch anifail ar unwaith yn y dull a bennir yn rheoliad 6(4) neu, yn ôl y digwydd, 7(3) o Reoliadau 1995 i dir ac adeiladau a gymeradwyir o dan erthygl 7 o Orchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646, fel y'i diwygiwyd) i'w rendro yno neu i dir ac adeiladau eraill i'w hylosgi yn unol ag erthygl 10 o'r Gorchymyn hwnnw.
3.
Dileir yr esemptiad o'r gofyniad o ran staenio neu sterileiddio y mae rheoliadau 6 a 7 yn ei osod ac a gynhwysir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau 1995 ac sy'n gweithredu o blaid sgil-gynhyrchion dofednod ac yn lle'r esemptiad hwnnw rhoddir esemptiad sy'n gweithredu o blaid pennau a thraed dofednod a fu'n destun archwiliad milfeddygol post mortem na ddangosodd, yn ystod yr archwiliad hwnnw, unrhyw anafiadau patholegol sylweddol a oedd yn nodi afiechyd y gellid ei drosglwyddo i ddyn neu anifeiliaid (rheoliad 2(4)).
4.
Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaeth ddehongli Rheoliadau 1995 drwy roi diffiniad newydd sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 ac yn mewnosod diffiniad o "approved premises" yn lle'r diffiniad sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1992. Mae Rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiad i'r diffiniad o "animal by-product" yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 1995.
5.
Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ohono wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau pellach o'r asesiad oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF1 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y'i darllenir ag adran 40(3) Deddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
(ch) O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656 ac O.S. 2002/1619.back
[5]
O.S. 1999/646, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1704.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090765 5
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
23 July 2003
|