British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003 Rhif 1844 (Cy.196)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031844w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1844 (Cy.196)
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
16 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
18 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2], ar ôl ymgynghori â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol ac â'r personau hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn cynrychioli'r buddiannau amaethyddol, y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru a daw i rym ar 18 Gorffennaf 2003.
Diwygio Deddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954
2.
Ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (Gweithrediadau a Eithrir) i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 yn lle'r geiriau "in Wales, 4 weeks" rhoddir "in Wales, 8 days"[3].
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 (1954 p.46) yn ei chymhwysiad i Gymru drwy ostwng yr oedran na cheir ysbaddu moch wedi'r oedran hwnnw heb anesthetydd o 4 wythnos i 7 diwrnod er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L 316, 1.12.2001 t. 36). Ceir yr amodau sy'n gymwys i gadw moch yn Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd.
Notes:
[1]
1954 p. 46.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Diwygiwyd paragraff 6 ynghylch Lloegr gan Orchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) (Diwygio) (Rhif 2) (Lloegr) 2003. (O.S. 2003/1328).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090762 0
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
23 July 2003
|