OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1732 (Cy.190)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 26 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dirymu
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[3].
Dehongli
3.
Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "anghenion addysgol arbennig" ("special educational needs") yr ystyr a roddir i "special educational needs" yn adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996[4]);
ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw'r flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw neu, os nad yw'r un flwyddyn ysgol yn gymwys i bob ysgol o'r fath, y flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r nifer fwyaf o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw;
ystyr "cynllun" ("plan") yw cynllun trefniadaeth ysgolion a rhaid dehongli "cynllun drafft" ("draft plan") yn unol â hynny; ac
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Cynnwys a hyd cynllun trefniadaeth ysgol
4.
- (1) At ddibenion adran 26(2)(a) ac (ab) o'r Ddeddf (sy'n darparu mai datganiad yw cynllun trefniadaeth ysgol sy'n nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau a'i bwerau yn ystod y cyfnod rhagnodedig gyda golwg ar sicrhau darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd a fyddai'n diwallu anghenion poblogaeth ei ardal yn ystod cyfnod hwnnw), y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff y cynllun ei fabwysiadu gan yr awdurdod o dan reoliad 8 neu 9 ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y bumed flwyddyn ysgol ar ôl y flwyddyn ysgol pan gyhoeddwyd y cynllun drafft hwnnw.
(2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gyhoeddi'r y cynllun drafft yn gyfeiriad at y cynllun drafft cychwynnol hwnnw a gyhoeddwyd o dan reoliad 5, ni waeth a gafodd cynllun drafft o'r newydd a oedd yn disodli'r cynllun drafft hwnnw ei gyhoeddi wedyn o dan reoliad 9(1).
(3) Yn benodol rhaid i'r cynllun ymdrin â -
(a) gwybodaeth ddemograffig sy'n berthnasol i gyflenwad lleoedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;
(b) gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â'r nifer o leoedd sydd mewn bodolaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod;
(c) datganiad polisïau ac egwyddorion sy'n berthnasol i ddarparu lleoedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;
(ch) casgliadau, ar sail gwybodaeth ddemograffig ac ystadegol, polisïau ac egwyddorion, yn ymwneud ag unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef;
(d) cynigion yr awdurdod ar gyfer cywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd ac uwchradd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef; a
(dd) y ddarpariaeth y mae'r awdurdod yn bwriadu ei gwneud yn ystod y cyfnod hwnnw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.
(4) Yn gysylltiedig â pharatoi'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn, a mewn perthynas â gweithredu'r cynllun, mae'r awdurdod i ystyried canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan y Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddi cynllun drafft
5.
- (1) Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi cynllun drafft drwy wneud y canlynol -
(a) anfon (yn ddarostyngedig i -baragraff (2)) gopi at y canlynol -
(i) corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod;
(ii) Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol pob un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, lle y mae'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr esgobaeth honno yn dod o fewn ardal yr awdurdod;
(iii) Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol pob un o esgobaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig, lle y mae'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr esgobaeth honno yn dod o fewn ardal yr awdurdod;
(iv) Cyngor Cenhadaeth a Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru;
(v) Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;
(vi) Cyd-bwyllgor Addysg Cymru;
(vii) Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
(viii) Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
(ix) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(x) Consortiwm Cymunedol Addysg a Hyfforddiant ar gyfer ardal yr awdurdod neu gorff arall o'r fath sydd yn cynrychioli darparwyr lleol ar gyfer addysg a hyfforddiant i bersonau dros oedran ysgol gorfodol; a
(xi) Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a
(b) adneuo copi yn y llyfrgelloedd cyhoeddus hynny yn ardal yr awdurdod y mae'r awdurdod yn barnu eu bod yn briodol.
(2) Ni fydd is-baragraff (1)(a)(i) yn gymwys mewn perthynas â chorff llywodraethu unrhyw ysgol os yw'r awdurdod yn cyhoeddi'r cynllun drafft ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod a bod gan yr ysgol gyfleusterau sy'n caniatáu cyrchu'r cynllun ar y Rhyngrwyd.
(3) Ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid cyhoeddi'r cynllun drafft cyntaf ar 31 Rhagfyr 2003, neu cyn hynny.
(4) Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynlluniau drafft pellach ar 31 Rhagfyr 2006 neu cyn hynny, ac ar 31 Rhagfyr neu cyn hynny o fewn pob trydedd flwyddyn ar ôl hynny.
(5) Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynllun drafft ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw'n rhaid iddynt gyhoeddi cynllun drafft ychwanegol yn unol â pharagraff (4), os bu unrhyw newid o ran polisi neu amgylchiadau lleol sydd yn ymwneud â darpariaeth addysg gynradd neu uwchradd ers i'r cynllun diwethaf gael ei baratoi.
(6) Cyn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn bersonau priodol.
Cyhoeddi hysbysiad o gynllun drafft
6.
Yr un pryd ag y bydd yn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod -
(a) yn datgan ymhle y gellir archwilio'r cynllun drafft,
(b) yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft,
(c) yn pennu'r rhannau hynny o ardal yr awdurdod, os deuir i'r casgliad yn y cynllun y dylai camau gael eu cymryd, i gywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhannau o ardal yr awdurdod, ac
(ch) yn datgan effaith rheoliadau 7 i 11.
Sylwadau ar gynllun drafft
7.
- (1) Caniateir i unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar gynllun drafft.
(2) Rhaid i'r sylwadau hynny gael eu hanfon at yr awdurdod o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad yn unol â rheoliad 6 (neu os cafodd hysbysiadau eu cyhoeddi mewn papurau newydd gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad diwethaf o'r fath).
Mabwysiadu cynllun drafft gan yr awdurdod
8.
- (1) Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a anfonwyd ato o fewn y cyfnod hwnnw, benderfynu a ddylai'r cynllun gael ei fabwysiadu ganddo neu beidio (a hynny gydag addasiadau neu hebddynt).
(2) Rhaid i'r awdurdod wneud ei benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben.
(3) Os yw'r awdurdod yn penderfynu mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid i'w fabwysiadu dod i rym ar ddyddiad y penderfyniad.
Cyhoeddi a mabwysiadu cynllun drafft o'r newydd gan yr awdurdod
9.
- (1) Os yw'r awdurdod yn penderfynu o dan reoliad 8 i beidio â mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddo baratoi a chyhoeddi o dan y paragraff hwn gynllun drafft o'r newydd yn lle'r cynllun drafft hwnnw.
(2) Mae rheoliadau 5(1), 5(6), 6 a 7 i fod yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft o'r newydd a gyhoeddwyd o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynlluniau drafft, ac eithrio bod rhaid i'r crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft a roddir yn yr hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi o dan reoliad 6 (fel y'i cymhwysir) gynnwys, yn achos cynllun drafft o'r newydd, ddatganiad byr o sut mae'r casgliadau hynny yn wahanol i'r rhai a roddwyd yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r cynllun drafft y mae'r cynllun drafft o'r newydd yn ei ddisodli, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan effaith rheoliadau 7, 9(4), 10 ac 11 (yn lle effaith rheoliadau 7 i 11).
(3) Os yw'n ofynnol cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan baragraff (1), rhaid ei gyhoeddi o fewn y cyfnod o dri mis ar ôl i'r cyfnod, pan oedd yn ofynnol cyflwyno unrhyw sylwadau ar y cynllun drafft y mae'n ei ddisodli yn unol â rheoliad 7(2), ddod i ben.
(4) Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan y rheoliad hwn, ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) (fel y'i cymhwysir gan baragraff (1)) fel cyfnod cyflwyno sylwadau ar y cynllun drafft o'r newydd ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, fabwysiadu'r cynllun drafft o'r newydd (gydag addasiadau neu hebddynt) a bydd ei fabwysiadu yn effeithiol ar ddyddiad ei fabwysiadu.
Cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd
10.
Os yw cynllun wedi'i fabwysiadu gan awdurdod o dan reoliad 8 neu 9, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r cynllun fel y'i mabwysiadwyd drwy wneud y canlynol -
(a) gosod copi ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod;
(b) hysbysu pob person a chorff a grybwyllwyd yn rheoliad 5(1) bod y cynllun ar gael ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod; ac
(c) hysbysu'r llyfrgelloedd cyhoeddus hynny yn ei ardal y mae'n barnu eu bod yn briodol, bod y cynllun ar gael ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod.
Cyhoeddi hysbysiad o gynllun a fabwysiadwyd
11.
Yr un pryd ag y byddant yn cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd o dan reoliad10, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod -
(a) yn datgan ymhle y gellir archwilio'r cynllun, ac ymhle y gellir ei ddarganfod ar y Rhyngrwyd, a
(b) yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r cynllun, ac
(c) yn pennu'r rhannau hynny o ardal yr awdurdod os deuir i'r casgliad yn y cynllun, y dylai camau gael eu cymryd i gywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhannau o ardal yr awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol baratoi, ar gyfer eu hardaloedd, gynlluniau trefniadaeth ysgolion sy'n nodi sut y maent, yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef, yn bwriadu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau darpariaeth o ran addysg gynradd ac uwchradd a fydd yn bodloni anghenion poblogaeth eu hardal, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt bennu unrhyw gyfleusterau y maent yn disgwyl iddynt fod ar gael y tu allan i'w hardal ar gyfer darparu addysg o'r fath.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 26, yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999. Maent yn darparu ar gyfer y materion canlynol -
- y cyfnod y mae pob cynllun o'r fath i ymwneud ag ef (rheoliad 4(1) a (2));
- y materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy ym mhob cynllun (rheoliad 4(3));
- paratoi a chyhoeddi cynllun drafft, ac ym mha ddull y mae'r cynlluniau drafft i'w cyhoeddi (rheoliadau 5(1) ac (2));
- y gofynion newydd yn ymwneud â'r cyfnodau rhwng pob tro y mae'n rhaid i'r cynlluniau drafft gael eu paratoi, a'r dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi (rheoliad 5(3) i (5));
- gofyniad bod yr awdurdod yn ymgynghori â'r personnau hynny y mae'n credu eu bod yn briodol cyn cyhoeddi'r cynlluniau drafft (rheoliad 5(6));
- cyhoeddi hysbysiad ynghylch pob cynllun drafft mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod, a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o'r fath (rheoliad 6);
- y weithdrefn i'w defnyddio pan fo personau'n cyflwyno sylwadau ar gynllun drafft a'r amserlen y mae'n rhaid iddynt gadw ati wrth gyflwyno sylwadau o'r fath (rheoliad 7);
- y weithdrefn i'w defnyddio gan yr awdurdod pan fydd yn mabwysiadu cynllun drafft (rheoliad 8);
- paratoi a chyhoeddi cynllun drafft o'r newydd pan fo'r awdurdod yn penderfynu peidio â mabwysiadu cynllun drafft, ac ym mha fodd y dylid cyhoeddi cynllun o'r fath, a mabwysiadu cynllun o'r fath (rheoliad 9);
- y gofynion newydd sydd yn gysylltiedig â chyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd ar y Rhyngrwyd (rheoliad 10);
- cyhoeddi hysbysiad, mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod, ynghylch cynllun a fabwysiadwyd a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o'r fath (rheoliad 11).
Notes:
[1]
1998 p.31. Diwygiwyd adran 26 gan adran 149 o, Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), a pharagraffau 1 a 80 o Atodlen 9 iddi.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/499, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3710 (Cy.306).back
[4]
1996 p.56.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090757 4
|