British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1720 (Cy.187)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031720w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1720 (Cy.187)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 34(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd yn awr yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991
2.
Yn rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991[3] -
(a) yn lle'r geiriau "served by a waste regulation authority" rhodder "served by either a waste regulation authority or an authority which is a waste collection authority for the purposes of Part II of the 1990 Act"; a
(b) yn lle'r geiriau "furnish the authority with a copy of it at the authority's office" rhodder "furnish that authority with a copy of it at that authority's office".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
9 Gorffennaf 2003
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991 (O.S. 1991/2839) ("y prif Reoliadau"), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1996/672 ac fel y'u diwygiwyd ymhellach, fel y maent yn gymwys i Gymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973 ac O.S. 2002/1559, i ganiatáu i awdurdodau casglu gwastraff gyflwyno i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw disgrifiad ysgrifenedig o wastraff a nodyn trosglwyddo o dan y prif Reoliadau hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi i'r awdurdod casglu gwastraff yn ei swyddfa, o fewn cyfnod penodedig, y disgrifiadau ysgrifenedig hynny o'r gwastraff a'r nodiadau trosglwyddo a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
Notes:
[1]
1990 p.43; mae yna ddiwygiadau eraill i adran 34 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) .back
[3]
O.S. 1991/2839, fel y'i diwygiwyd gan reoliad 23 o O.S. 1996/972 ac, fel y mae'n gymwys i Gymru a Lloegr, gan reoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 2, paragraff 26 o O.S. 2000/1973 a rheoliad 19 o O.S. 2002/1559. Diwygiwyd y Rheoliadau hefyd, mewn perthynas â'r Alban, gan reoliad 36 o O.S.A. 2000/323, ac mewn perthynas â Lloegr, gan reoliad 3 o O.S. 2003/63.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090752 3
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
16 July 2003
|