British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1714 (Cy.182)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031714w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1714 (Cy.182)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
8 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
10 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(1) a 2 a (146)(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.
Cymhwyso a Dehongli
2.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y "Prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989[3].
Diwygio'r Prif Reoliadau
3.
Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn -
(a) yn rheoliad 13(1) hepgorir -
(i) "(in which case the order shall be in the form specified as Form A in Schedule 2, or a form to the like effect),"; a
(ii) "(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)";
(b) yn rheoliad 17(1) hepgorir ", and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect"; a
(c) hepgorir Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (fel y'u diwygiwyd) (y "Rheoliadau") yn rhagnodi'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i gasglu ac adennill ardrethi annomestig. Yn benodol, mae rheoliadau 13(1) a 17(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath.
Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effaith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill ardrethi annomestig.
Notes:
[1]
1988 p.41. Adran 143(2) fel y'i diwygiwyd gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Paragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraff 87(1) o Atodlen 13 iddi ac adrannau 139 a 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 1, 44(2) i (4) a 79(3) o Atodlen 5 a Rhan II o Atodlen 12 iddi. Paragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) a pharagraffau 87(2) a (3) o Atodlen 13 iddi.back
[2]
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
O.S. 1989/1058. Diwygiwyd Rheoliad 13(1) o Reoliadau 1989 gan reoliad 7(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Amrywiol Ddarpariaethau) 1990 (O.S. 1990/145). Diwygiwyd Atodlen 2 o Reoliadau 1989 gan Erthygl 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbediadau a Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/616) a Rhan II o Atodlen 2 iddi a rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Taliadau Cymunedol ac Ardrethu Annomestig (Amrywiol Ddarpariaethau) 1992 (O.S. 1992/474). Mae yna ddiwygiadau eraill i Reoliadau 1989 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090750 7
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
16 July 2003
|