Wedi'i wneud | 4 Mehefin 2003 | ||
Yn dod i rym | 5 Mehefin 2003 |
Dehongli
2.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
3.
- (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo -
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sy'n gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.
(3) Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl gorffen y daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio i gludo unrhyw anifail onid yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.
(5) Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail yn y cyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, onid yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod mewn rhai amgylchiadau
4.
- (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo -
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos -
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu beri neu ganiatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau -
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
Cabiau Gyrwyr
5.
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol diheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.
Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
6.
- (1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo -
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999[2].
Pwerau arolygwyr, a.y.y.b.
7.
- (1) Os yw arolygydd wedi ei fodloni bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar naill ai -
caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.
(2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol -
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag Atodlen 2 onid yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio.
(4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3 neu 4, yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hyn a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw'r arolygydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.
(5) Onid yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
Gorfodi
8.
Yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
Dirymu a diwygio
9.
Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003[3].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Y Llywydd
4 Mehefin 2003
Elliot Morley
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
2 Mehefin 2003
Teithio rhwng yr un dau bwynt
3.
- (1) Os yw cyfrwng cludo yn cael ei ddefnyddio'n unig o fewn un diwrnod i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt, erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys, ac eithrio cyn taith gyntaf y diwrnod ac ar ôl y daith olaf.
(2) Yn y paragraff hwn mae cludo anifeiliaid yn digwydd o fewn un diwrnod hyd yn oed -
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy farchnad.
Sioeau da byw
4.
Os defnyddir cyfrwng cludo ar gyfer cludo anifeiliaid o safle tarddiad i sioe da byw ac yn ôl ac nad yw paragraff 3 yn gymwys, yna erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â'r cyfrwng cludo pan yw ar safle'r sioe da byw ar yr amod -
Dadlwytho dros dro
5.
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu dd r iddynt, neu at ryw nod dros dro arall, ac wedyn eu hail-lwytho ynddo.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.
(3) At ddibenion erthygl 3, rhaid i bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei glanhau gael ei diheintio hefyd.
Y dull glanhau
3.
Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â d r, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.
Y dull diheintio
4.
Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[4] yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer "Gorchmynion Cyffredinol".
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, ar ôl cludo unrhyw anifeiliaid carnog, a ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl, fod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a'r cyfarpar a gludir ganddo yn unol ag Atodlen 2 cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ond beth bynnag o fewn dim mwy na 24 awr (erthygl 3(3)). Cyn taith yn cludo unrhyw rai o'r anifeiliaid hyn, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo fod wedi ei lanhau a'i ddi-heintio ers iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf i gludo unrhyw rai o'r anifeiliaid hyn (erthygl 3(4)). Mae hefyd yn pennu, hyd yn oed os yw hynny wedi ei wneud, bod rhaid glanhau a diheintio'r rhannau sydd wedi eu baeddu eto cyn i'r anifeiliaid hynny gael eu cludo os yw'r cyfrwng cludo wedi ei faeddu fel y byddai'n peri perygl o drosglwyddo clefyd (erthygl 3(5)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol (erthygl 3(6)).
Mae erthygl 4 yn gymwys i bob anifail ac aderyn arall (ond nid yn gymwys i deithiau nad ydynt yn fasnachol neu i gludo anifeiliaid unigol neu anifeiliaid anwes) ac i'r amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1 (lle y byddai erthygl 3 yn gymwys fel arall). Mae'r amgylchiadau hyn yn ymwneud â theithiau o fewn un fenter ffermio, cludo ceffylau penodol, teithiau rhwng yr un dau bwynt a chyfrwng cludo mewn sioe da byw. Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid sy'n gymwys gael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, wedi ei ddiheintio, a bod anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) a charthion yn cael eu symud ymaith o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo modd.
Mae erthygl 6 yn pennu ym mha ffordd y mae'n rhaid cael gwared â'r deunydd o'r cyfrwng cludo.
O dan erthygl 7, mae gan arolygydd b er, o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.
Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 8).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gellir cosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
[2] O.S. 1999/646 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1735 (Cy.122).back
[3] O.S. 2003/482 (Cy.68).back
[4] O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 19 June 2003 |