British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1147 (Cy.155)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031147w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1147 (Cy.155)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
24 Ebrill 2003 | |
|
Yn dod i rym |
25 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 157 o Ddeddf Tai 1985[1] ac adran 17 o Ddeddf Tai 1996[2], ac ar ôl ymgynghori, yn unol ag is-adran (6) o adran 17 o Ddeddf Tai 1996, â'r awdurdodau lleol a'r cyrff a grybwyllir yn yr is-adran honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 25 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio
2.
Diwygir Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003[3] yn unol â'r hyn a nodir yn erthyglau 3, 4, a 5 isod.
Erthygl 1
3.
Yn Erthygl 1 yn lle "2002" rhowch "2003".
Erthygl 2
4.
Ar ddiwedd Erthygl 2 ychwanegwch:
"
yn ogystal ag, yn achos adran 17(1)(b), yr holl gymunedau a rhannau o gymunedau sydd o fewn Parc Cenedlaethol neu o fewn ardal a ddynodir o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithriadol.".
Atodlen
5.
Yn y fersiwn Gymraeg o'r Atodlen o dan y pennawd "Ym Mwrdeistref Sirol Rhondda, Cynon, Taf" yn lle "Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gwyr" rhowch "Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
J E Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
24 Ebrill 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985"), os yw trawsgludiad neu grant yn cael ei gyflawni yn unol â Rhan V o Ddeddf 1985 (yr hawl i brynu) gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai (y landlord) a bod y t
annedd hwnnw wedi'i leoli mewn:
- Parc Cenedlaethol,
- ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithradol, neu
- ardal sydd wedi'i dynodi drwy orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru yn ardal wledig,
fe all y trawsgludiad neu'r grant gynnwys cyfamod sy'n cyfyngu ar hawl y tenant i werthu'r t
annedd yn y modd a nodwyd yn yr adran honno.
O dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996") mae gan denant landlord cymdeithasol cofrestredig hawl mewn amgylchiadau penodol i gaffael yr annedd y mae ef neu hi yn byw ynddi. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17 o Ddeddf 1996 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn i ddynodi ardaloedd gwledig mewn perthynas ag anheddau lle na fydd yr hawl sy'n cael ei rhoi gan adran 16 yn codi.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003 sy'n dynodi ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157 o Ddeddf 1985 ac adran 17 o Ddeddf 1996 drwy gywiro'r ffaith fod Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithradol wedi'u hepgor o ran yr ardaloedd hynny a ddynodir o dan adran 17.
Notes:
[1]
1985 p.68; Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[2]
1996 p.52; Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
O.S. 2003/54(Cy.5)back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090740 X
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
13 May 2003
|