British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2003 Rhif 1005 (Cy.145)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031005w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1005 (Cy.145)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
3 Ebrill 2003 | |
|
Yn dod i rym |
4 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 4 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[2] yn unol â pharagraff canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 11 (cyffuriau i'w rhagnodi o dan wasanaethau fferyllol ond mewn amgylchiadau penodol yn unig), ar ôl "Tadalafil (Cialis)" yng ngholofnau 1 a 2, yn y drefn honno, mewnosodir ", Vardenafil (Levitra)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Ebrill 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio ar ba delerau y bydd meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 yn ychwanegu Vardenafil (Levitra) at Atodlen 11 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill na ellir eu rhagnodi ond mewn amgylchiadau penodol yn unig yng nghwrs gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, paragraff 8. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back
[2]
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 1999/1627, 2000/1887 (Cy.133), 2002/3189 (Cy.305) a 2003/143 (Cy.15).back
[3]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090723 X
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
16 April 2003
|